Adnabod gallu: dechrau ar ymchwil defnyddwyr

Adnabod gallu: dechrau ar ymchwil defnyddwyr

Tom ydw i, ymchwilydd defnyddwyr yn nhîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru. Rwyf wedi bod yn gwneud y gwaith ers ychydig dros flwyddyn nawr, a byddwn yn mynd mor bell â dweud mai dyma’r swydd sydd wedi rhoi’r boddhad mwyaf imi erioed. Ond nid oeddwn wedi sylweddoli hynny mewn gwirionedd nes imi eistedd yn y cyfweliad ar gyfer y swydd, er gwaethaf y ffaith nad oeddwn erioed wedi gweithio fel ymchwilydd defnyddwyr o’r blaen, roeddwn wedi llwyddo i feithrin digon o’r sgiliau angenrheidiol, gwybodaeth ac egwyddorion Ymchwil Defnyddwyr trwy fy ngwaith blaenorol i allu gwneud y swydd hon yn dda.

Roedd fy nwy swydd flaenorol fel Swyddog Ymchwil ar gyfer sefydliad data a Swyddog Gwella a Datblygu ar gyfer corff rheoleiddio gofal. Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am helpu i wella bywydau defnyddwyr gwasanaeth ac wedi ymfalchïo mewn cyfrannu at y gwelliant hwn yn y ddwy rôl hon.

Roedd gweithio yn y rolau hyn hefyd wedi helpu i ddatblygu rhai o’r sgiliau ymgysylltu, ymchwil a dadansoddi sydd mor bwysig mewn ymchwil defnyddwyr. Dyma’r sgiliau gafodd eu cydnabod gan fy nhîm pan gefais gyfweliad. Er gwaethaf fy niffyg profiad uniongyrchol, roeddent yn gallu gweld fod gennyf empathi, roeddwn yn gallu cyfathrebu a gwrando’n dda, roedd gennyf feddwl chwilfrydig a dadansoddol ac roeddwn yn awyddus i ddysgu a datblygu.

Byddwn yn dweud celwydd os byddwn yn dweud nad oeddwn yn teimlo fel ychydig o dwyllwr am y misoedd cyntaf yn fy rôl newydd, gan nad oeddwn erioed wedi gweithio fel ymchwilydd defnyddwyr o’r blaen, felly roedd yn bwysig i mi gael cymaint o hyfforddiant perthnasol o dan fy melt â phosibl. Rwy’n ffodus bod fy nhîm yn eiriolwyr anferth hyfforddiant a datblygu, felly dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod ar nifer o gyrsiau hyfforddi gwych sydd wedi helpu’n fawr i ddatblygu fy ngwybodaeth a gwella fy hyder, i’r pwynt ble gallaf nawr alw fy hun yn hyderus fel ymchwilydd defnyddwyr.

Bellach, rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i weithio ar draws ystod eang o brosiectau gwahanol gyda nifer o gydweithwyr gwahanol llywodraeth leol a dinasyddion Cymru ac mae hyn hefyd wedi helpu i ddatblygu fy sgiliau Ymchwil Defnyddwyr ac fy helpu i ddeall y tirwedd llywodraeth leol. Ond ymddengys nad oes yna ddigon o ymchwilwyr defnyddwyr yn gweithio o fewn llywodraeth leol i gynnal yr ymchwil defnyddwyr sy’n hanfodol i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn ganolog i ddylunio gwasanaeth llywodraeth leol.

Ond eto, rwyf wedi cyfarfod digon o gydweithwyr llywodraeth leol sydd â llawer o’r sgiliau cywir ac yr un mor bwysig, yr awydd a’r cymhelliant i gynnal ymchwil defnyddwyr. Yr her yw cael llywodraeth leol i gydnabod bod gan lawer o weithwyr y sgiliau hyn a’u hannog i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth fel y gallent fynd ymlaen i wella dyluniad gwasanaeth llywodraeth leol drwy ymchwil defnyddwyr.

Y llynedd (2021) gwnaethom gyhoeddi Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Leol Cymru, ac yn ogystal â chefnogi dyluniad dynol-ganolog a’r defnydd o ddata i wella gwasanaethau digidol, mae ein strategaeth wedi nodi’r gallu fel maes hanfodol i ganolbwyntio arno er mwyn cymell gwelliant digidol mewn llywodraeth leol. .

Rydym yn cydnabod bod gan bobl sy’n gweithio o fewn llywodraeth leol amrywiaeth o sgiliau, gallu a nodweddion ac rydym eisiau cefnogi’r bobl hyn i sicrhau ein bod yn manteisio ar eu sgiliau a’u cryfderau. Fel tîm, rydym yn edrych ar sut y gallwn helpu i ddatblygu’r sgiliau hyn ar gyfer ymchwilwyr defnyddwyr posibl drwy gynnig ystod o hyfforddiant perthnasol, drwy ddatblygu fframwaith dysgu ymchwil defnyddwyr ar gyfer cydweithwyr llywodraeth leol i helpu i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau a thrwy greu cymuned ymarfer ymchwil defnyddwyr ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol sydd, neu’n gobeithio cynnal ymchwil defnyddwyr.

Os oes gennych ddiddordeb ac yn alluog ac yn weithiwr llywodraeth leol, yna rydym yn gobeithio y gallwn eich helpu i symud ymhellach i ymchwil defnyddwyr. Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu eisiau mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â mi tom.brame@wlga.gov.uk.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *