Y Gronfa Trawsnewid Digidol – Byw’n Annibynnol

Y Gronfa Trawsnewid Digidol – Byw’n Annibynnol

Blog wedi’i ysgrifennu gan Dafydd Owen, arweinydd prosiect Awdurdod Lleol Sir Benfro.

Yr wythnos ddiwethaf bu i ni gwblhau ein sesiwn dangos a dweud olaf, gan fod ein prosiect Cronfa Trawsnewid Digidol CLlLC yn tynnu tua’i derfyn. 

Nod y prosiect oedd “Ymgysylltu ac annog pobl i ddefnyddio technoleg ataliol bosibl, cyn y bydd arnyn nhw ei hangen” drwy ddatblygu agweddau i weld a fyddai’n bosib datblygu ar gyflwyno technoleg ar gam digon cynnar ym mywyd unigolyn, pan maen nhw’n dal i fod yn gallu dysgu tasgau a sgiliau newydd, pan fo’r angen yn codi.

Roedd yr agwedd gyntaf yn canolbwyntio ar greu llyfryn cynnyrch ar-lein sy’n cynnwys llyfrgell o ddyfeisiau technoleg gynorthwyol, yn ogystal â rhestr o wasanaethau/cynhyrchion Teleofal traddodiadol, astudiaethau achos ategol defnyddwyr gwasanaeth ac adran ar atebion cymorth digidol.

Mae’r llyfryn cynnyrch ar fin cael ei gwblhau ac wedi derbyn ei adolygiad cyntaf gan glinigwr.  Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol ac mae’r awgrymiadau cynnar yn nodi y bydd y llyfryn yn adnodd gwerthfawr i helpu clinigwyr gyda’r cynhyrchion a’r gwasanaethau perthnasol sydd ar gael, yn dibynnu ar anghenion defnyddwyr eu gwasanaeth. Mae’r gwaith o olygu’r astudiaethau achos a chynnwys cynhyrchion ychwanegol yn parhau, yn barod i’w gyhoeddi yn fewnol ac ymysg sefydliadau trydydd sector lleol, a disgwylir i’r llyfryn hwn ddechrau cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2023. Mae trafodaethau yn dal i fynd rhagddynt am ddatblygu a chynnwys canllaw adolygu cyflym ychwanegol yn y dyfodol. 

Mae proses cwblhau’r llyfryn wedi arwain at gaffael llyfrgell ategol o offer a dyfeisiau technoleg gynorthwyol. Bydd hyn yn galluogi’r tîm i gynnig awgrymiadau ac arddangos yr offer i glinigwyr ar sail anghenion defnyddwyr eu gwasanaeth, yn ogystal â rhoi benthyg y dyfeisiau er mwyn eu treialu yn ôl yr angen. Bydd y tîm yn parhau i ddatblygu adnoddau hyfforddi angenrheidiol ar y defnydd cynorthwyol o’r dyfeisiau hyn, yn ogystal â chanfod defnyddwyr gwasanaeth perthnasol yn y gymuned i’w treialu.

Mae cwblhau’r llyfryn wedi bod yn broses sy’n esblygu, gan arwain at yr angen parhaus am ymchwil a dealltwriaeth ychwanegol, sydd wedi golygu mwy o ddatblygu nag a fwriadwyd yn wreiddiol. Gyda’r angen hwn i ddysgu a deall mwy, ochr yn ochr â chyflwyno datblygiadau technolegol wrth iddynt ddigwydd, mae’r llyfryn wedi dod yn ddogfen ‘fyw’. Pan fydd ar gael, bydd y llyfryn yn cael ei adolygu ddwywaith y flwyddyn, gydag unrhyw ddiweddariadau sylweddol i gynhyrchion neu enghreifftiau astudiaethau achos yn cael eu cyflwyno yn ôl y galw.   

Ein hail agwedd yw’r broses ymgysylltu sy’n targedu gwahanol gynulleidfaoedd o fewn y sir. Fel tîm, rydym wedi parhau i ddarparu sgyrsiau ac arddangosiadau o fewn demograffeg ein grwpiau penodol ac wedi trefnu ymweliadau yn y dyfodol gyda’r holl grwpiau â tharged penodol. 

Mae adborth o ymgysylltiad uniongyrchol wedi bod yn hynod gadarnhaol ac addysgiadol hyd yma, gan atgyfnerthu’r angen i’r broses hon barhau o fewn pob grŵp.  Fel proses, mae’r trafodaethau hyn yn ein galluogi ni fel tîm i fynd i’r afael â, a deall agweddau ar Teleofal a chymorth technoleg gynorthwyol na thrafodwyd o’r blaen. Er enghraifft, amlygodd ymweliad coleg diweddar â myfyrwyr gofal cymdeithasol broblem bosibl rhwystrau, boed y rheiny’n rhwystrau o ran modd ariannol neu allu. Mae’r rhain yn gyfyngiadau posibl na chodwyd yn flaenorol o fewn trafodaethau grwpiau hŷn, sy’n tanlinellu’r gwahanol ddemograffeg gymdeithasol a geir ym mhob grŵp ac yn cefnogi’r angen i barhau gyda’r broses ymgysylltu uniongyrchol. Mae rhwydweithio gyda gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd sylfaenol a thrydydd sector ledled Sir Benfro wedi parhau ymhellach, ac wedi arwain at i nifer o feddygfeydd lleol gysylltu â’r tîm i drefnu arddangosiadau.  

Mae agwedd ymgysylltiad digidol y prosiect hefyd wedi parhau i dyfu. Yn ddiweddar, aethom i ddigwyddiad rhwydweithio Lansio Cynhwysiant Digidol mewn Iechyd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yng Nghaerfyrddin, ac rydym yn bwriadu mynd i’r Gynhadledd Ryngwladol ar Ofal yn Defnyddio Technoleg yn Birmingham. Ar lefel leol, cawsom wahoddiad i weithio ochr yn ochr â datblygiad Llyfrgell Pethau Ddigidol Cyngor Sir Benfro, gyda’r nod o helpu hyrwyddo gofal cymdeithasol a gwasanaethau’r cyngor yn defnyddio platfform digidol. 

Yn yr un modd â’r llyfryn, bydd prosesau ymgysylltu uniongyrchol a digidol yn parhau, gyda’r nod o gynyddu rhwydweithio a gwella dulliau aml-wasanaeth o helpu defnyddwyr gwasanaeth i fyw’n annibynnol yn y gymuned.

Yn olaf, hoffem ddiolch i Dîm Digidol CLlLC am y cymorth a’r ymwybyddiaeth y maen nhw wedi’u darparu i alluogi’r tîm i gwblhau’r prosiect hwn yn llwyddiannus.  Fel proses, llwyddodd i greu grŵp mawr o bobl o’r un meddylfryd yng Nghymru er mwyn arddangos yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni, ac egluro pam.  Hefyd, galluogodd Cyllid Trawsnewid Digidol CLlLC un o gydweithwyr y cyngor, Paula, i ganolbwyntio ei hamser ar helpu i ymchwilio a datblygu’r llyfryn, yn ogystal â chaffael cyflenwad o offer a dyfeisiau technoleg gynorthwyol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *