Caniatâd a gwybodaeth ymchwil y defnyddiwr

Casglu Gwybodaeth

Rydym ni’n cynnal ymchwil rheolaidd er mwyn canfod sut mae pobl yn defnyddio gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru a beth maent ei angen gan wasanaethau newydd. Mae hyn yn ein helpu i ddeall sut y gallwn ni greu gwasanaethau sy’n gweithio’n well i bobl yng Nghymru.

Darllenwch yr wybodaeth hon am ein hymchwil. Dylech ddefnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a ydych chi’n dymuno cymryd rhan. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu os hoffech chi gael yr wybodaeth hon mewn fformat arall, gallwch gysylltu â Chris Sutton neu Tom Brame drwy e-bostio chris.sutton@wlga.gov.uk neu tom.brame@wlga.gov.uk.

Pwyntiau allweddol

  • Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac fe allwch chi roi’r gorau iddi ar unrhyw adeg.
  • Mae’n bosibl y bydd staff o CLlLC a sefydliadu eraill yn arsylwi’r ymchwil.
  • Mae’n bosibl y bydd CLlLC yn casglu data personol amdanoch chi, a gallai hyn gynnwys nodweddion personol, nodiadau, recordiadau neu luniau.
  • Bydd eich data’n cael ei ddefnyddio i helpu i wella gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru.
  • Mae’n bosibl y bydd angen i CLlLC basio eich data personol ymlaen os bydd angen i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
  • Mae’n bosibl y bydd angen i CLlLC basio eich data personol ymlaen os ydym ni’n poeni am les plentyn neu oedolyn diamddiffyn.
  • Os byddwch chi’n cytuno, gall CLlLC ddefnyddio eich data at ddibenion hyfforddiant.
  • Os byddwch chi’n cytuno, gall CLlLC gyhoeddi casgliadau’r ymchwil.
  • Os bydd eich data’n cael ei ddefnyddio mewn adroddiadau cyhoeddus, bydd yn ddienw.

Cyfweliadau ymchwil

Weithiau, rydym ni’n gwahodd pobl i gymryd rhan mewn sesiynau byr i gael gwell dealltwriaeth o’u hanghenion a’u teimladau ynglŷn â gwasanaethau yng Nghymru.

Ni fydd eich sesiwn ymchwil yn para’n hirach na 45 munud.

Cyn i ni ddechrau, fe fyddwn ni’n mynd dros y prif bwyntiau y soniwyd amdanynt yn y daflen wybodaeth hon, a bydd gennych gyfle i ofyn cwestiynau. Fe fyddwn ni hefyd yn gofyn i chi gadarnhau eich bod chi’n hapus i gymryd rhan gan ofyn i chi roi eich caniatâd drwy ddychwelyd y Ffurflen Ganiatâd sydd ynghlwm.

Yn ystod y sesiwn, fe fyddwn ni’n holi cwestiynau i chi am eich rôl a’r gwasanaeth(au) rydych chi’n gweithio arnynt. Fe allai hyn gynnwys rhannu eich sgrin i ddangos y pwyntiau a drafodwyd.

Gallwch gymryd egwyl neu stopio ar unrhyw adeg.

Mae’n bosibl y bydd staff o CLlLC neu awdurdodau lleol yng Nghymru yn arsylwi eich sesiwn ymchwil. Mae hyn yn galluogi’r tîm i weld a dysgu beth sy’n digwydd yn ystod yr ymchwil.

Cyfrinachedd

Gall rhai o’r syniadau, dyluniadau a gwasanaethau rydych chi’n eu gweld yn y sesiwn ymchwil fod yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â dweud wrth neb arall am y syniadau, dyluniadau neu wasanaeth yma hyd nes y byddant yn cael eu cyhoeddi. Gofynnwn i chi hefyd beidio â mynd â chopïau o unrhyw ddeunyddiau a ddefnyddiwyd yn y sesiwn gyda chi.

Tynnu nôl o’r ymchwil

Fe allwch chi dynnu eich data yn ôl o’r ymchwil ar ôl cwblhau sesiwn a chyn i ni ddechrau rhannu ein casgliadau ymchwil. Nid oes rhaid i chi roi rheswm.

Os hoffech chi dynnu eich data yn ôl, gallwch gysylltu â Chris Sutton neu Tom Brame drwy e-bostio chris.sutton@wlga.gov.uk neu tom.brame@wlga.gov.uk.

SUT RYDYM NI’N CASGLU AC YN PROSESU EICH DATA

Pan fyddwn ni’n eich gwahodd i gymryd rhan

Gallai’r data personol rydym ni’n ei gasglu yn ystod y cam yma gynnwys enw, oedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, manylion unrhyw gyflwr allai effeithio ar eich gallu i ddefnyddio cyfrifiadur, teitl swydd, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn.

Yn ystod y sesiwn ymchwil

Bydd staff o CLlLC yn cymryd manylion manwl yn ystod eich sesiwn ymchwil.

Mae’n bosibl y gall yr ymchwilydd ofyn am eich caniatâd i gasglu gwybodaeth ychwanegol megis recordiadau sain a fideo, lluniau a chopïau o ddogfennau. Gallwch ddewis peidio â rhoi caniatâd i’r wybodaeth ychwanegol yma gael ei gasglu.

Sut rydym ni’n defnyddio eich data

Bydd CLlLC yn defnyddio rhannau o unrhyw nodiadau, recordiadau, lluniau neu ddata arall o’ch sesiwn i ddangos casgliadau ein hymchwil. Bydd y casgliadau yma’n cael eu defnyddio i helpu i wella gwasanaethau llywodraeth.

Os byddwch chi’n cytuno i rannu eich data’n fwy eang, fe allem gynnwys y rhannau mewn unrhyw adroddiadau sydd ar gael yn gyhoeddus. Os byddwn ni’n gwneud hyn, fe fydd eich data’n ddienw er mwyn sicrhau nad oes modd eich adnabod.

Byddwn yn rhannu eich data os oes angen i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Er enghraifft, yn ôl gorchymyn llys, neu i atal twyll neu drosedd arall.

Fe fyddwn ni hefyd yn rhannu eich data os bydd achos o bryder diogelu difrifol. Er enghraifft, os ydym ni’n poeni am les plentyn neu oedolyn diamddiffyn.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall ar ôl eich sesiwn ymchwil, gallwch gysylltu â Chris Sutton neu Tom Brame drwy e-bostio chris.sutton@wlga.gov.uk neu tom.brame@wlga.gov.uk.

Hysbysiad preifatrwydd ymchwil defnyddiwr

Mae CLlLC yn cynnal ymchwil er mwyn deall ffyrdd i wella gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma’n rhoi gwybodaeth gyffredinol i chi am sut i drin data ymchwil yn CLlLC. 

I gael rhagor o fanylion am ddarn penodol o ymchwil, gallwch gyfeirio at y daflen wybodaeth a ddarperir pan fyddwch chi’n cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y prosiect hwnnw. Fe ddylai hyn gynnwys manylion cyswllt ar gyfer yr ymchwilydd a’u tîm rhag ofn bod gennych chi ragor o gwestiynau.

Cofnodion Diweddar