Pwy ydym ni

Cyfeiriad ein gwefan yw: http://www.digidolllywodraethleol.cymru.

Sylwadau

Pan fydd ymwelwyr yn gadael sylwadau ar y wefan rydym yn casglu’r data a ddangosir ar y ffurflen sylwadau, a hefyd cyfeiriad IP yr ymwelydd a llinyn asiant defnyddiwr porwr i helpu i ganfod sbam.

Gellir darparu llinyn anhysbys a grëwyd o’ch cyfeiriad e-bost (a elwir hefyd yn hash) i’r gwasanaeth Gravatar i weld a ydych chi’n ei ddefnyddio. Mae polisi preifatrwydd gwasanaeth Gravatar ar gael yma: https://automattic.com/privacy/. Ar ôl cymeradwyo’ch sylw, mae’ch llun proffil yn weladwy i’r cyhoedd yng nghyd-destun eich sylw.

Cyfryngau

Os ydych chi’n uwchlwytho delweddau i’r wefan, dylech osgoi uwchlwytho delweddau gyda data lleoliad wedi’i fewnosod arno (EXIF GPS). Gall ymwelwyr â’r wefan lawrlwytho a thynnu unrhyw ddata lleoliad o ddelweddau ar y wefan.

Cwcis

Os byddwch chi’n gadael sylw ar ein gwefan, gallwch optio i mewn i arbed eich enw, cyfeiriad e-bost a’ch gwefan mewn cwcis. Mae’r rhain er hwylustod i chi fel na fydd yn rhaid i chi lenwi’ch manylion eto pan fyddwch chi’n gadael sylw arall. Bydd y cwcis hyn yn para am flwyddyn.

Os ymwelwch â’n tudalen fewngofnodi, byddwn yn gosod cwci dros dro i benderfynu a yw’ch porwr yn derbyn cwcis. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol ac mae’n cael ei ddiystyru pan fyddwch chi’n cau’ch porwr.

Pan fyddwch yn mewngofnodi, byddwn hefyd yn sefydlu sawl cwci i arbed eich gwybodaeth mewngofnodi a’ch dewisiadau arddangos sgrin. Mae cwcis mewngofnodi yn para am ddau ddiwrnod, ac mae cwcis opsiynau sgrin yn para am flwyddyn. Os dewiswch “Cofiwch Fi”, bydd eich mewngofnodiad yn para am bythefnos. Os byddwch yn allgofnodi o’ch cyfrif, bydd y cwcis mewngofnodi yn cael eu tynnu.

Os ydych chi’n golygu neu’n cyhoeddi erthygl, bydd cwci ychwanegol yn cael ei gadw yn eich porwr. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol ac yn syml mae’n nodi ID post yr erthygl rydych chi newydd ei golygu. Mae’n dod i ben ar ôl 1 diwrnod.

Cynnwys wedi’i ymgorffori o wefannau eraill

Gall erthyglau ar y wefan hon gynnwys cynnwys wedi’i ymgorffori (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati). Mae cynnwys wedi’i ymgorffori o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un ffordd yn union â phe bai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.

Efallai y bydd y gwefannau hyn yn casglu data amdanoch chi, yn defnyddio cwcis, yn ymgorffori olrhain trydydd parti ychwanegol, ac yn monitro eich rhyngweithio â’r cynnwys hwnnw wedi’i ymgorffori, gan gynnwys olrhain eich rhyngweithio â’r cynnwys wedi’i ymgorffori os oes gennych gyfrif ac wedi mewngofnodi i’r wefan honno.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data

Os gofynnwch am ailosod cyfrinair, bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gynnwys yn yr e-bost ailosod.

Pa mor hir rydym yn cadw eich data

Os byddwch chi’n gadael sylw, cedwir y sylw a’i fetadata am gyfnod amhenodol. Mae hyn er mwyn i ni allu cydnabod a chymeradwyo unrhyw sylwadau dilynol yn awtomatig yn lle eu dal mewn ciw cymedroli.

Ar gyfer defnyddwyr sy’n cofrestru ar ein gwefan (os oes rhai), rydym hefyd yn storio’r wybodaeth bersonol y maent yn ei darparu yn eu proffil defnyddiwr. Gall pob defnyddiwr weld, golygu, neu ddileu eu gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg (heblaw na allant newid eu henw defnyddiwr). Gall gweinyddwyr gwefannau hefyd weld a golygu’r wybodaeth honno.

Pa hawliau sydd gennych dros eich data

Os oes gennych gyfrif ar y wefan hon, neu os ydych wedi gadael sylwadau, gallwch ofyn am dderbyn ffeil wedi’i hallforio o’r data personol sydd gennym amdanoch chi, gan gynnwys unrhyw ddata rydych wedi’i ddarparu i ni. Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch chi. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata y mae’n ofynnol i ni ei gadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol neu ddiogelwch.

Ble rydym yn anfon eich data

Gellir gwirio sylwadau ymwelwyr trwy wasanaeth canfod sbam awtomataidd.