Enw’r gymuned
Dylunio Cynnwys Llywodraeth Leol yng Nghymru
Aelodaeth
Mae’r Gymuned Ymarfer ar gyfer unrhyw un sy’n ymgymryd â gweithgareddau dylunio cynnwys mewn llywodraeth leol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd:
- Yn gweithio mewn rôl sy’n ymwneud yn benodol â dylunio cynnwys
- Yn ymgymryd â gweithgareddau neu gyfrifoldebau dylunio cynnwys fel rhan o’u rôl
- Yn cyflawni gweithgareddau dylunio cynnwys mewn rôl swyddogol arall
Rydym hefyd yn croesawu pobl sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddylunio cynnwys ac mewn ymgymryd â chyfrifoldebau dylunio cynnwys yn eu tîm, adran neu awdurdod.
Pwrpas
Darparu lle i staff awdurdod lleol drafod a chydweithio er mwyn sefydlu a hyrwyddo dylunio cynnwys mewn llywodraeth leol yng Nghymru, gwella darpariaeth gwasanaeth a darparu gwell canlyniadau i ddinasyddion, gweithwyr yr awdurdod a budd-ddeiliad eraill.
Yn benodol, rydym yn ceisio cyflawni hyn trwy rannu gwybodaeth ac ymarfer da, gweithio ar heriau a chyfleoedd cyffredin, ac adeiladu rhwydwaith cymorth i helpu holl aelodau’r gymuned i lwyddo yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Nodau.
Trwy’r Gymuned Ymarfer rydym yn anelu at gyflawni’r canlynol:
- Hwyluso’r gwaith o greu corff o ganllawiau ymarfer da ac enghreifftiau y gall aelodau o’r gymuned eu defnyddio wrth greu a gwella gwasanaethau.
- Canfod syniadau ynglŷn â sut y gellir sefydlu a hyrwyddo dylunio cynnwys mewn llywodraeth leol yng Nghymru, a dod â’r syniadau hyn i’w datblygu ar y cyd lle bo hynny’n ddichonadwy a phriodol.
- Rhannu ymarfer da ac enghreifftiau o’r sector cyhoeddus ehangach yn ogystal â’r sector preifat, ac archwilio sut y gellir cymhwyso’r rhain yng nghyd-destun llywodraeth leol.
- Galluogi aelodau i dyfu eu sgiliau dylunio cynnwys, a chanfod syniadau i dyfu’r sgiliau hyn ymhellach.
- Codi ymwybyddiaeth o’r Gymuned Ymarfer ac o ddylunio cynnwys yn gyffredinol, i ymgysylltu ag ystod eang ac amrywiol o gydweithwyr awdurdodau lleol.
Bydd y nodau hyn hefyd yn cael eu defnyddio i helpu i fesur effeithiolrwydd y Gymuned Ymarfer a nodi gwelliannau posibl.
Ymgysylltu â’r gymuned
Bydd y Gymuned Ymarfer yn cael cyfarfodydd ar-lein dros Teams bob deufis. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal i ddechrau ar ddydd Mawrth olaf bob mis ond gallwn ymateb i anghenion aelodau’r gymuned ac addasu dyddiadau ac amseroedd y sesiynau wrth i ni ddysgu beth sy’n gweithio orau i’r aelodau.
Bydd Tîm Digidol CLlLC yn gyfrifol am gynnal y sesiynau a chadarnhau’r rhaglen o flaen llaw. Bydd aelodau’r gymuned yn gyfrifol am osod cyfeiriad y rhaglen ac fe’u hanogir i ddarparu enghreifftiau o ddylunio cynnwys lle bo hynny’n berthnasol (er enghraifft wrth drafod ymarfer gorau, rhedeg trafodaeth feirniadol, neu gyflwyno sesiwn dangos a dweud).
Byddwn yn defnyddio Teams i reoli cyfathrebu rhwng sesiynau, ac fe anogir aelodau’r gymuned i gyflwyno ac ymateb i gwestiynau, enghreifftiau a phynciau trafod trwy Teams.
Gall pobl sydd â diddordeb mewn ymuno â’r gymuned ofyn am wahoddiad trwy e-bostio digitalteam@wlga.gov.uk. Bydd tîm Digidol CLlLC yn eu hychwanegu at y rhestr wahoddiadau i’r sesiynau ac i’r gofod Teams.
Rydym am i aelodau’r gymuned fod yn berchnogion cyfartal y Gymuned Ymarfer. Anogir aelodau i fod yn rhagweithiol o ran cynnwys a rheolaeth y gymuned. Fodd bynnag, bydd tîm Digidol CLlLC bob amser wrth law i gefnogi a hwyluso ble bo hynny’n ofynnol.
Ein Gwerthoedd
Mae’n bwysig bod y Gymuned Ymarfer yn darparu lle diogel i aelodau drafod pynciau, heriau a chyfleoedd yn ymwneud â dylunio cynnwys.
Mae’n rhaid i aelodau’r gymuned roi eu mewnbwn mewn modd parchus ac adeiladol. Mae’r cyfraniadau’n gwbl wirfoddol, ond mae’r gymuned yn gweithio orau pan mae pawb yn cymryd rhan a phan mae gennym amrywiaeth barn felly mae cyfraniadau’n cael eu hannog yn gryf.
Ni fydd sesiynau’n cael eu recordio ac ni fydd unrhyw gyfraniadau a rennir y tu allan i’r grŵp yn nodi pwy ddywedodd beth (a elwir ambell waith yn ‘reolau Chatham House’). Gall aelodau ofyn i’w cyfraniadau beidio â chael eu rhannu’n gyhoeddus o gwbl, a bydd y ceisiadau hynny’n cael eu hanrhydeddu bob tro.
Dyddiad Adolygu
Bydd y cylch gorchwyl hwn yn cael ei adolygu ar y cyd gan y gymuned erbyn 1 Tachwedd 2023, i wneud yn siŵr ei fod yn parhau’n realistig ac yn canolbwyntio ar ddarparu gwerth i aelodau.
Cyswllt
Cyswllt CLlLC: emma.willis@wlga.gov.uk