Y Dechreuad
Ariennir ein tîm gan Lywodraeth Cymru ac mae’n falch o fod yn rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Mae CLlLC yn sefydliad trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol sy’n ceisio rhoi llais cryf i lywodraeth leol ar lefel genedlaethol. Mae’r Gymdeithas yn sefydliad aelodaeth sy’n cynrychioli’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, y 3 awdurdod tân ac achub a’r 3 awdurdod parc cenedlaethol.
Mae CLlLC yn llawn o bobl sy’n gweithio’n hynod o galed i wneud Cymru yn lle gwell i bawb, felly mae’n wych i ni allu gweithio gyda chydweithwyr y mae eu prif nod yr un peth â’n un ni.
Pwrpas
Yn syml, ein pwrpas yw helpu a chefnogi awdurdodau lleol i ddarparu’r gwasanaethau digidol gorau i holl drigolion ac ymwelwyr yng Nghymru.
Yn gyntaf, rydyn ni yma i gefnogi. Rydym yn helpu awdurdodau lleol i oresgyn heriau amrywiol sy’n ei gwneud hi’n anodd dylunio a gweithredu gwasanaethau digidol. Rydym yn gwneud hyn mewn sawl ffordd, megis annog cydweithredu rhwng awdurdodau lleol, helpu gydag adnoddau, a thrwy gynnal hyfforddiant a digwyddiadau i gynyddu’r sgiliau digidol ledled Cymru.
Yn ail, rydym yma i arloesi. Rydym yn credu mewn Arloesedd sy’n cael ei Sbarduno gan Ganlyniadau (Outcome Driven Innovation), felly rydym am sicrhau bod ein gwasanaethau’n canolbwyntio ar bobl. I wneud hyn, rydym yn manteisio ar yr arbenigedd a’r brwdfrydedd yn ein tîm a’n partneriaid i greu atebion arloesol i ddiwallu anghenion trigolion Cymru.
Yn olaf, rydym yma i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gynhwysol. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau yng Nghymru yn hygyrch i bawb. Mae pawb yn ein tîm yn credu’n gryf bod angen i bob gwasanaeth fod i bawb. Byddwn yn sicrhau ein bod yn byw yn ôl yr egwyddor o greu’r gwasanaethau gorau i’r holl bobl trwy’r amser.
Cyd-destun Polisi
Mae ein tîm yn ffurfio chwarter y dirwedd ddigidol yng Nghymru. Y timau eraill, y byddwn yn parhau i weithio’n agos â nhw, yw GIG Digidol Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, a Thîm Digidol Llywodraeth Cymru.
Isod rydym wedi rhestru polisïau Llywodraeth Cymru y daeth y syniad ar gyfer ein tîm ohonynt:
- Mae Maniffesto Prif Weinidog Cymru yn gosod ein huchelgais i fabwysiadu dull ‘Unwaith i Gymru’.
- Mae adroddiad System Reboot (Rhagfyr 2018) yr angen am bwyslais o’r newydd ar wella sgiliau digidol gweision cyhoeddus a dylunio gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion cwsmeriaid.
- Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn darparu cyd-destun hanfodol lle mae’n rhaid i ni sicrhau bod pawb â mynediad at wasanaethau cyhoeddus.
Lindsey Phillips
Pennaeth Darparu Hyblyg

Bu Lindsey yn gweithio yn y maes ddigidol a TG ers blynyddoedd lawer, wedi gweithio fel Rheolwr Technoleg ac Arloesi i gyn-Awdurdod Datblygu Cymru, ac fel Rheolwr Datblygu Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Qatar. Mae gan Lindsey brofiad helaeth o’r sector cyhoeddus hefyd, ac yn y gorffennol wedi cydlynu cynllun ddigidol cydweithredol sylweddol a ariennir gan Ewrop, ar draws sawl awdurdod lleol yng Nghymru. Yn fwy diweddar, bu’n gweithio yn y sector breifat ac ym maes trawsnewid awdurdodau lleol, gan gynnwys datblygu gwasanaethau newydd i ysgolion.
Mae Lindsey’n angerddol dros Gymru a dyfodol y Gymraeg. A hithau’n siaradwr Cymraeg rhugl, mae hi wedi ymrwymo i argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau Cymraeg i ddinasyddion. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ymgymryd â rôl Pennaeth Darparu Hyblyg yn CLlLC, a gweithio gyda’r Awdurdodau Lleol ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau digidol effeithiol.
Ebost: lindsey.phillips@wlga.gov.uk
Emma Willis
Dylunydd Cynnwys

Fel Dylunydd Cynnwys, mae Emma yn hyrwyddwr angerddol dros gynnwys eglur a hygyrch, ac mae wedi ymrwymo i helpu i wella safonau a chefnogi trosglwyddo gwybodaeth o fewn llywodraeth leol er budd dinasyddion ac ymwelwyr. Mae’n llawn cyffro i weld y gwahaniaeth y gall cynnwys clir a hygyrch ei wneud i ddefnyddwyr gwasanaethau digidol ar draws awdurdodau lleol Cymru.
Ebost: emma.willis@wlga.gov.uk
Twitter: @emmwillis
Chris Carter
Dylunydd Profiad Defnyddiwr

Mae Chris wedi gweithio mewn llywodraeth leol ers sawl blwyddyn mewn rôl ddigidol i Gyngor Torfaen, gan greu amrywiaeth o wasanaethau digidol megis gwefannau ac e-ddysgu. Mae hyn wedi rhoi cipolwg iddo ar rai o’r heriau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu ar-lein. Mae hefyd wedi gweithio yn y sector preifat fel dylunydd graffeg.
Fel Dylunydd Profiad Defnyddiwr, mae Chris yn angerddol am ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn ogystal â gwella gwasanaethau a’u gwneud yn hawdd i ddinasyddion eu defnyddio. Tra’n sicrhau bod hygyrchedd wrth galon popeth mae’n ei wneud.
E-bost: chris.carter@wlga.gov.uk
Sheena Thomas
Swyddog Cefnogi Cyflenwi Ystwyth

Mae Sheena yn newydd i’r sector cyhoeddus wedi iddi weithio’n flaenorol yn y maes addysg, felly mae’n dod â blynyddoedd o brofiad mewn gweinyddiaeth a chydlynu. Mae profiadau blaenorol Sheena wedi ei galluogi i gefnogi prosiectau a’r tîm drwy sicrhau eu bod ar y trywydd iawn i gyflawni. Mae Sheena yn edrych ymlaen at gyfarfod pobl newydd ac yn gyffrous i weithio gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru mewn dull cydweithredol.
Mae Sheena yn dod yn wreiddiol o ran wledig yng Nghernyw, mae hi’n deall y rhwystrau y mae rhai dinasyddion yn eu hwynebu ac yn falch o fod yn rhan o’r tîm digidol sydd yn canolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr i gefnogi dinasyddion Cymru.
E-bost: sheena.thomas@wlga.gov.uk
Paul Owens
Rheolwr Darparu Hyblyg

Rôl Paul yw gweithio gydag arweinwyr digidol a thechnegol ar draws llywodraeth leol er mwyn helpu i nodi, deall a blaenoriaethu gwella gwasanaethau i’n dinasyddion – gan sicrhau bod safbwyntiau defnyddwyr terfynol yn cael eu hystyried yn llawn drwyddi draw.
Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad digidol yn y sector preifat yn gweithio i sefydliadau sy’n amrywio o gwmnïau rhyngwladol Global 500 i fusnesau newydd sy’n tyfu’n gyflym. Mae Paul wedi gweithio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys iechyd, ynni, addysg a manwerthu. Mae’n hyrwyddwr hyblyg, ar ôl gweithio ar amrywiaeth eang o ddatblygiadau digidol llwyddiannus drwy gydol ei yrfa.
Ebost: paul.owens@wlga.gov.uk