Y Gronfa Trawsnewid Digidol – Prosiect Allgáu Digidol
Ysgrifennwyd gan Awdurdod Lleol Torfaen
Y broblem yw allgáu digidol: nid oes gan bartneriaid ddealltwriaeth gref na dealltwriaeth yn seiliedig ar dystiolaeth o bwy sydd wedi eu heithrio’n ddigidol a pham (e.e. capasiti (economaidd, isadeiledd, cyfleoedd ayb) a/neu allu (addysg; defnyddio dyfeisiau ayb)); pwy sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n ddigidol; ac felly sut y gallwn ni weithio’n lleol a thrwy sir Gwent gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus (yn cynnwys o bosibl Heddlu Gwent, Aneurin Bevan ac ar lefel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lleol) i dargedu dulliau ymyrryd er mwyn lleihau allgáu digidol, mesur canlyniadau a sicrhau bod anghenion cwsmeriaid sydd wedi eu heithrio’n ddigidol yn cael eu cynnwys mewn gweithgareddau dylunio gwasanaethau.
Rydym wedi ein cyfyngu i archwilio allgáu digidol o gyfyngiadau data cynhwysiant digidol gan ein cwsmeriaid presennol ac ystadegau gwladol. Mae hyn yn rhoi golwg lefel uchel i ni o allgáu digidol, ond gyda dealltwriaeth gyfyngedig ynglŷn â phwy mae hyn yn ei effeithio a sut fyddai orau i ddarparu cefnogaeth wedi’i thargedu a sy’n cael effaith.
Fe allwch wylio’r dangos a dweud terfynol yma a gweld y dec sleidiau yma.
Gadael Ymateb