Telerau ac amodau

Telerau defnyddio’r wefan

Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnydd hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych yn cytuno, ni ddylech ddefnyddio ein gwefan.

Newidiadau i’r telerau hyn

Dylech edrych ar y dudalen hon o dro i dro i weld unrhyw newidiadau a wnaed, gan eu bod yn rhwymol arnoch.

Newidiadau i’n gwefan

Rydym bob amser yn cymryd camau rhesymol i sicrhau fod cynnwys ar ein gwefan wedi ei gynnal cyn gywired â phosib. Fodd bynnag, dylid nodi, efallai na fydd y cynnwys yn gyfredol bob amser. Nid ydym yn gwarantu na fydd ein gwefan, neu unrhyw gynnwys arni, yn cynnwys unrhyw wallau neu hepgoriadau.

Defnyddio ein gwefan

Ni allwn warantu y bydd ein gwefan bob amser ar gael. Caniateir mynediad i’n gwefan ar sail dros dro. Gallwn atal, dileu, terfynu neu newid bob rhan neu unrhyw ran heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol i chi os nad yw ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod.

Defnyddio’r cynnwys

Wrth ddefnyddio cynnwys o’n gwefan, rhaid i chi atgynhyrchu’r deunydd yn gywir a pheidio â’i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

Dim dibyniaeth ar gynnwys

Cymerwn gamau rhesymol i sicrhau fod y cynnwys ar ein gwefan cyn gywired â phosib. Fodd bynnag, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau, yn gwarantu nac yn rhoi sicrwydd, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg, bod cynnwys ein gwefan yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol.

Cyfyngiad ein hatebolrwydd

Nid yw unrhyw beth yn y telerau hyn yn eithrio, neu’n cyfyngu, ein hatebolrwydd am farwolaeth neu niwed personol o ganlyniad i’n hesgeulustod, neu ein twyll neu gamgynrychiolaeth twyllodrus, neu unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu gan gyfraith Lloegr.

I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym yn eithrio holl amodau, sicrwydd, sylwadau, neu delerau eraill a all fod yn berthnasol i’n gwefan neu unrhyw gynnwys, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg.

Ni fyddwn yn atebol i unrhyw ddefnyddiwr am unrhyw golled neu ddifrod, un ai mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeuluster), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os yw’n rhagweladwy, yn codi o dan neu mewn cysylltiad â:

  • Defnydd o, neu anallu i ddefnyddio, ein gwefan; neu
  • Defnydd o neu ddibyniaeth ar unrhyw gynnwys ar ein gwefan.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan feirws neu ddeunydd arall sy’n dechnolegol niweidiol a allai effeithio ar eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data, neu ddeunydd perchnogol arall oherwydd eich defnydd o’n gwefan, neu unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hi.

Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau sy’n gysylltiedig â’n gwefan. Darperir dolenni o’r fath er gwybodaeth yn unig ac ni ddylid eu dehongli fel ardystiad gennym ni o’r gwefannau hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i’ch defnydd chi ohonynt.

Diogelu data a phreifatrwydd

Mae ein polisi preifatrwydd yn nodi sut y byddwn yn diogelu eich gwybodaeth a sut y’i defnyddir ar ein gwefan.

Eiddo Deallusol

Mae enwau, delweddau a logos sy’n adnabod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn berchnogol. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd o’r cynnwys hwn heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

I drafod y defnydd o’n henw, delwedd neu logo cysylltwch â: digitalteam@wlga.gov.uk

Cysylltu â’n gwefan

Gallwch gysylltu â’n gwefan os ydych yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg a chyfreithlon ac nad yw’n difrodi ein henw da neu gymryd mantais ohono.

Ni ddylech wneud hynny mewn modd sy’n awgrymu unrhyw fath o gyswllt, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan pan nad yw’n bodoli.

Mae gennym yr hawl i dynnu’r caniatâd cysylltu yn ôl heb rybudd.

Feirysau

Nid ydym yn gwarantu na fydd ein gwefan yn cynnwys feirysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a phlatfform i gael mynediad at ein gwefan. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firysau eich hun.

Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990

Ni ddylech gamddefnyddio ein gwefan trwy gyflwyno deunydd, sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol yn fwriadol. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i’n gwefan, y gweinydd y caiff ei storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwefan.

Ni ddylech ymosod ar ein gwefan drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwasgaredig ar wrthod gwasanaeth. Drwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw doriad o’r fath i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt. Os bydd toriad o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith.

Cyfraith berthnasol

Bydd y telerau defnydd hyn, y testun a’i ffurfiant yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr.Rydych chi a ni yn cytuno mai llysoedd Cymru a Lloegr fydd ag awdurdodaeth unigryw.

Cysylltwch

To contact us, please email timdigidol@wlga.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19/07/2021