Hyfforddiant a digwyddiadau
Mae ein digwyddiadau sydd ar y gweill ar gael i’w harchebu drwy ein tudalen Eventbrite.
Rydym yn cynnal tri math o ddigwyddiad rheolaidd:
- Cyfarfodydd – Byddwn yn cynnal cyfarfod anffurfiol i drafod thema ddigidol ar ddydd Gwener olaf bob mis. Yn ystod y digwyddiad hwn byddwn yn rhannu profiadau, yn dathlu llwyddiannau ac yn cael bwrw ein bol am rwystredigaethau.
- Digwyddiadau dangos a dweud – Cynhelir digwyddiadau dangos a dweud bob mis, ar ddydd Mawrth cyntaf y mis. Byddwn yn gwahodd cynghorau a gwesteion i rannu eu gwaith neu eu syniadau yn ystod y sesiynau hyn, ac yn gwahodd cwestiynau gan y rhai sy’n bresennol.
- Crits – Sesiwn drafod yw Crit (Critique yn y Saesneg). Byddwn yn adolygu un o wasanaethau penodol y cyngor yn ystod y digwyddiad wythnosol byr hwn (bob amser cinio dydd Mercher), ac yn trafod yr arferion da a syniadau am sut y gellid ei wella.