Newyddlen Mawrth 2023

Newyddlen Mawrth 2023

Yn dilyn seibiant byr rydym yn dychwelyd gyda rhifyn swmpus o newyddlen Ddigidol CLlLC ar gyfer mis Mawrth. Cewch weld beth rydym wedi bod yn ei wneud dros y misoedd diwethaf, yr hyn rydym yn edrych ymlaen ato a sut y gallwch ddod yn rhan o hyn.

Strategaeth Ddigidol

Fel y crybwyllwyd yn newyddlen mis Ionawr mae ein Pennaeth Cyflawni, Lindsey Phillips, wedi treulio rhan gyntaf y flwyddyn yn ymweld â chynghorau ar hyd a lled Cymru er mwyn hysbysu  rhaglen waith a strategaeth y tîm i’r dyfodol. Cafodd cynnig cychwynnol ar gyfer hyn ei gylchredeg i gynghorau yn gynharach yn y mis ac fe dderbyniodd adborth cadarnhaol iawn. Yna cafodd ei gyflwyno i’r Bwrdd Arweinyddiaeth Ddigidol ar 23 Mawrth.

Fe fyddwn yn cylchredeg y cynnig i fudd-ddeiliaid ehangach nesaf ac yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ar ychwanegu mwy o fanylion o ran cyflawni. Byddwn hefyd yn creu’r rhaglenni gwaith ar gyfer pob un o dair blaenoriaeth strategol Pobl, Gwasanaethau a Thechnoleg.  

Diweddariad Digidol / y Grwp Cynghori Digidol

Nid yw’r sesiwn diweddariad digidol a oedd wedi ei drefnu ar gyfer 12 Ebrill yn cael ei gynnal mwyach. Y rheswm am hyn yw gan ein bod yn paratoi i gynnal cyfarfod cyntaf y Grwp Cynghori Digidol ar 19 Ebrill – mae pob cyngor wedi eu gwahodd i’r sesiwn yma. Byddwn hefyd yn adolygu ein cynllun cyfathrebu ehangach i sicrhau ein bod yn cyfathrebu ein cynnydd i’r bobl gywir yn y dull cywir ar yr amser cywir.

Os hoffech wybod pwy yw cynrychiolydd eich cyngor ar y Grwp Cynghori Digidol anfonwch e-bost atom i’r cyfeiriad hwn digitalteam@wlga.gov.uk.

Adroddiad Ymchwil – Cynghorau Tref a Chymuned

Cafodd adroddiad yn dadansoddi capasiti a galluogrwydd digidol y sector cynghorau tref a chymuned yng Nghymru ei lansio ar 16 Mawrth. Cafodd y prosiect hwn ei gomisiynu yn yr Hydref y llynedd gyda’r nod o benderfynu beth fyddai’r dull gorau i roi adnoddau i’r sector yn gynaliadwy. Mae neges flog y prosiect  wedi ei chyhoeddi sydd hefyd yn cynnwys dolen i’r adroddiad llawn.

Crynodeb o Gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol

Mae Cronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol  22/23 wedi cwblhau gan gyflawni 6 prosiect llwyddiannus a chyflwyno papur terfynol i Lywodraeth Cymru. Roedd y papur hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer darparu’r gronfa yn 23/24 ac rydym yn gobeithio cadarnhau manylion cronfa’r flwyddyn nesaf yn ystod yr wythnosau sydd i ddod. Unwaith y bydd wedi ei gadarnhau fe fyddwn yn cychwyn pethau yng nghyfarfod y Grwp Cynghori Digidol ac yn dilyn hyn bydd cyfathrebu pellach maes o law.

Yn y cyfamser os oes gennych unrhyw syniadau am brosiectau y gallwn eu harchwilio fel ymgeiswyr am gyllid yn 23/24, rhowch wybod i ni – fe fyddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Crynodeb o’r Gronfa Sgiliau Digidol

Dyrannwyd cyllid i ni gan Lywodraeth Cymru i’w wario ar sgiliau a hyfforddiant yn 22/23. Mae papur wedi ei anfon at Lywodraeth Cymru yn crynhoi’r hyn wnaethom ni gyda’r cyllid, gan gynnwys sefydlu fframweithiau dysgu ar gyfer dylunio cynnwys ac ymchwil defnyddiwr, rhaglen fentora ymchwil defnyddiwr a Chymuned Ymarfer dylunio cynnwys.

Yn ychwanegol rydym wedi darparu cyfres o sesiynau hyfforddi wedi eu hariannu i gefnogi’r fframweithiau dysgu a datblygu sgiliau eraill ar draws y disgyblaethau digidol o fewn cynghorau gan gynnwys methodoleg hyblyg cyffredinol, rheoli cyflawni a phrofiad defnyddiwr.

Roedd y cyllid hefyd yn cefnogi prynu a dosbarthu cyfres o lyfrau ar bynciau digidol i bob un o’r 22 awdurdod lleol er mwyn iddynt eu rhannu gyda chydweithwyr i hybu gwybodaeth a sgiliau. Os hoffech fanylion pwy a dderbyniodd y llyfrau hyn o fewn eich awdurdod, rhowch wybod i ni. 

Roedd y papur ar gyfer Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer cyllid ychwanegol yn 23/24. Fe fydd hwn yn cael ei ddefnyddio i gyflawni’r ffrwd rhaglen Pobl yn ein strategaeth newydd, ac os oes gennych chi unrhyw syniadau o sut y gallwn ni ganolbwyntio ein hymdrechion ymhellach fe fyddem wrth ein bodd yn eu clywed.

Cymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys

Mae sesiwn nesaf y Gymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 4 Ebrill am 4pm. Fe allwch ddarganfod mwy am y gymuned yn ein neges flog Cylch Gorchwyl, ac os hoffech fynychu anfonwch e-bost at digitalteam@wlga.gov.uk ac fe anfonwn wahoddiad i chi.

Yn y sesiwn hwn rydym yn bwriadu rhoi’r cyfle i gynghorau sydd â rhywbeth i’w rannu, sy’n chwilio am gefnogaeth neu sydd eisiau codi pwnc i’w drafod i ddatgan hynny. Gallai hyn fod ar ffurf sesiwn feirniadol, dangos a dweud neu adolygiad cydweithredol ac os oes gennych chi rywbeth yr hoffech ei gyflwyno i’r drafodaeth rhowch wybod i ni.

Prosiect Costau Byw Sir Gâr

Rydym wedi bod yn gweithio gyda thîm digidol Sir Gâr i helpu i ddylunio cynnyrch ffeithlun ar gyfer sianelau’r cyfryngau cymdeithasol ac yna ei brofi gyda dinasyddion. Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth o’u gwefan Hawliwch Bopeth a’r gwasanaeth Hwb cysylltiedig i ddinasyddion. Rydym wedi cynnal ychydig o brofion defnyddioldeb ar gynnyrch cychwynnol ac rydym nawr yn bwriadu ail gyflwyno fersiwn ddiwygiedig a fydd wedyn yn cael ei brofi ymhellach.

Prosiect Costau Byw Sir Benfro

Rydym yn gweithio gyda’r tîm digidol yng Nghyngor Sir Benfro i’w helpu i ddylunio, profi a gweithredu gwefan Costau Byw newydd ar gyfer eu dinasyddion. Ar hyn o bryd mae gennym ni brototeip cychwynnol a fydd yn destun profion defnyddioldeb ddiwedd Mawrth.

Prosiect Gwella Gwasanaeth Blaenau Gwent

Mae gwasanaeth newydd y cyngor i roi gwybod am sbwriel wedi mynd yn fyw ac rydym yn caniatáu cyfnod ar gyfer ei ddefnyddio cyn cynnal dadansoddiad o’i berfformiad mewn cymhariaeth â’r gwasanaeth blaenorol.  Tra bod hyn yn digwydd fe fyddwn yn cynnal sesiwn Dangos a Dweud gyda’r cyngor ar 20 Ebrill. Fe fydd hyn yn adolygu’r prosiect a’r cydweithio rhyngom â’r cyngor i greu’r gwasanaeth newydd.  Cysylltwch â’r tîm digidol digitalteam@wlga.gov.uk os hoffech fynychu’r sesiwn Dangos a Dweud.

Gwaith Offer Sgrin Arddangos

Cafodd Asesiad Aeddfedrwydd Digidol ei gynnal gyda Chyngor Bro Morgannwg ym mis Ionawr 2023. Croesawyd yr ymarfer yn fawr ac roedd yr holl gyfranogwyr yn teimlo ei fod yn ddefnyddiol. Roedd yna ychydig o adborth adeiladol gan y cyfranogwyr a hwylusydd tîm digidol CLlLC ar welliannau posibl i’r ymarfer i roi mwy o werth i’r cyngor a oedd yn cymryd rhan.

Gyda chynghorau eraill wedi mynegi llawer o ddiddordeb i gynnal asesiad digidol, rydym wedi bod yn gweithio ar ail ddylunio’r gweithgaredd cyfan a fydd yn ei wneud yn llai goddrychol ac yn darparu mwy o fewnwelediad i gynghorau sy’n cymryd rhan. O ganlyniad Hunan Werthusiad Digidol cynorthwyedig fydd yr ymarfer nawr.

Rydym mewn cyswllt gyda nifer o gynghorau ac rydym yn bwriadu profi’r Hunan Werthusiad Digidol newydd gyda nhw dros yr wythnosau nesaf gydag unrhyw adborth yn cael ei ymgorffori i fireinio’r ymarfer ymhellach. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan wrth i ni gyflwyno’r ymarfer fesul cam, ebostiwch timdigidol@wlga.gov.uk.

Negeseuon blog diweddaraf

Ers ein newyddlen ddiwethaf rydym wedi cyhoeddi: Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Blog Cau’r Prosiect, Cylch Gorchwyl ar gyfer ein Cymuned Ymarfer, Y Gronfa Trawsnewid Digidol – Prosiect Darganfod Dylunio Cynnwys, Y Gronfa Trawsnewid Digidol – Prosiect Byw’n Annibynnol,
Prosiect Gwella Gwasanaeth Blaenau Gwent – blog clo , Ymchwil Capasiti Digidol Cynghorau Tref a Chymuned, Dod â’r Prosiect Darganfod Cynnwys i ben, Prosiect Darganfod Dylunio Cynnwys – ein hargymhellion ar gyfer y camau nesaf, Y Gronfa Trawsnewid Digidol – Prosiect Prinder Sgiliau Digidol a’r Gronfa Trawsnewid Digidol – y Prosiect Allgáu Digidol.

Newyddion y Tîm

Ers y rhifyn diwethaf o’r newyddlen mae ein Hymchwilydd Defnyddwyr, Tom Brame, a’r Dadansoddwr Busnes, Aimee Sharratt, wedi symud ymlaen o dîm digidol CLlLC. Mae’r Rheolwr Cyflawni, Sarah Evans, hefyd wedi dychwelyd i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ôl cyfnod o secondiad. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl waith a wnaethant fel rhan o’r tîm ac rydym yn dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

Rydym ar hyn o bryd yn hysbysebu am Brif Swyddog Digidol dros dro ar secondiad hyd at mis Mawrth 2024 ac rydym yn disgwyl newyddion cyffrous am fwy o benodiadau wrth i ni sefydlu ein rhaglen waith – cadwch lygad am y wybodaeth ddiweddaraf.

Os hoffech gael gwybod y newyddion Digidol diweddaraf gan CLlLC fe allwch gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio ac fe fyddwn yn anfon rhifynnau ein newyddlen atoch chi ar e-bost yn y dyfodol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *