Diweddariad Tîm – Hydref 2021

Diweddariad Tîm – Hydref 2021

Dyma ddiweddariad gan Dîm Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Hydref 2021.

Diweddariadau

Gweithgorau

Fe ddechreuom 8 gweithgor ar 27 Medi – ac mae’r blog hwn yn cynnwys manylion am bob grŵp a’r hyn rydym yn canolbwyntio arno. Rydym bellach 6 wythnos (hanner ffordd) trwy’r broses. Maent yn mynd rhagddynt yn llyfn, ac mae rhai ohonynt wedi gwasgaru i weithio ar brosiectau penodol a benderfynwyd arnynt yn y grwpiau eu hunain. Bydd y sesiynau olaf ar yr wythnos yn dechrau ar 13 Rhagfyr, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan ynddynt ar draws yr Awdurdodau Lleol. Rydym wedi cael adborth gwych ar ddefnyddioldeb y rhain gan bobl, y swm o gydweithio sydd wedi digwydd, a’r sgiliau newydd maent wedi dysgu o’r broses. Disgwylir i’r grwpiau adrodd ym mis Rhagfyr 2022.

LMS/LXP

Rydym bellach yn y 2 gam olaf y prosiect ac mae’r gwaith ym mis Hydref, yn canolbwyntio ar sefydlu ymchwil defnyddiwr wedi ein galluogi i gyrraedd y cam hwn. Mae’r blogiau ar y gwaith hwn ar y wefan, ac os oes gennych ddiddordeb mewn dod i sesiwn dangos a dweud, anfonwch e-bost ataf.

Darganfod Llyfrgell Delweddau

Rydym wedi cwblhau darganfyddiad o ofynion ar gyfer llyfrgell delweddau a rennir ar gyfer holl awdurdodau lleol, ac wedi cyflawni ymchwil defnyddiwr gyda thimoedd cyfathrebu, marchnata, gwe a digidol ar draws yr awdurdodau.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio drwy’r argymhellion i fynd a’r prosiect i gam Alpha ac yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i weld os allwn gydweithio ar hyn.

Digwyddiadau

Rydym yn parhau i gynnal digwyddiadau cwrdd misol a sesiynau dangos a dweud rheolaidd. Ym mis Hydref, fe wnaethom gynnal digwyddiad gyda Dr Jeremy Evas ar Ddefnydd Dyddiol o’r Iaith Gymraeg a’r defnydd o Gymraeg mewn technoleg. Fe wnaethom hefyd gynnal sesiwn gyda’r grŵp Drupal Llwyodraeth Leol, system rheoli cynnwys, ffynhonnell agored, nid er elw, ar gyfer gwefannau llywodraeth leol. Fe eglurodd y grŵp y system i ni, y datblygiadau yn y dyfodol a chamau nesaf ar gyfer eu gwaith. I weld y digwyddiadau rydym wedi’u cynnal, neu i gofrestru ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i’n tudalen Eventbrite.

Gweithio’n agos gyda Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru

Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r ganolfan o amgylch cyfathrebu ac angen llywodraeth leol ar gyfer eu hadolygiad tirlun.

Recriwtio ac ymestyn ein tîm

Rydym wedi cyfweld ar gyfer 3 swydd ym mis Hydref (Dylunydd Cynnwys, Ymchwilydd Defnyddiwr a Dylunydd Rhyngweithiad) ac wedi cyflogi Ymchwilydd Defnyddiwr. Rydym yn ystyried hysbysebu’r rôl Cymorth Cyflawni a’r Dylunydd Cynnwys eto er mwyn llenwi’r swyddi hyn.

Prosiect Tlodi Bwyd Merthyr

Mae prosiect darganfod yn mynd rhagddo gyda’r nod o gadarnhau’r broblem sydd angen ei ddatrys a diogelu adnoddau i gyflawni’r ymchwil angenrheidiol ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid i ddeall os oes unrhyw ddatrysiadau hyfyw, cost effeithiol wedi’i arwain gan ddata, a ellir eu profi mewn Cam Alpha. Y cwestiwn problem yw: Sut all ddealltwriaeth gwell a’r defnydd o ddata, helpu Cyngor Merthyr i ddarparu ymyrraeth gynnar wedi’i dargedu sy’n lleihau’r tebygolrwydd i ddinasyddion ddisgyn i dlodi bwyd?

Beth sydd wedi oedi

Hyfforddiant Prif Weithredwr

Rydym am oedi’r hyfforddiant tan ar ôl etholiadau lleol ym Mai 2022.

Yn dod yn fuan

Panel

Rydym yn parhau i weithio i ddod a’r panel hwn ynghyd a byddwn yn rhoi diweddariad unwaith y bydd mewn lle.

Glasbrintiau Gwasanaeth

Dyma brosiect i adolygu modelau darparu gwahanol ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol ac i rannu arferion da ar draws Cymru.

Digwyddiadau Bywyd

Mae bron i holl wasanaethau awdurdod lleol wedi’u cysylltu drwy ddigwyddiadau bywyd. Gall hyn fod yn symud i ardal newydd, cael plentyn, anabledd newydd ac ati. Pan fydd y digwyddiadau bywyd hyn yn digwydd, yn aml mae’r person neu’r teulu ynghlwm yn cysylltu â nifer o wasanaethau ar draws awdurdod lleol. Bydd y prosiect hwn yn archwilio’r cysylltiadau hyn o safbwynt siwrnai defnyddiwr.

Hyfforddiant

Rydym yn archebu dau gwrs hyfforddi NN/g (nngroup.com) ar gyfer diwedd Ionawr/dechrau Chwefror 2022. Mae’r cyrsiau diwrnod llawr ar-lein hyn yn cynnwys ‘Siwrneiau Omnichannel a Phrofiad Cwsmeriaid’, a ‘Glasbrint Gwasanaeth’ ac ni fydd unrhyw gyfyngiad o ran y nifer o gynrychiolwyr. Mae cwrs ‘Hanfodion Ymchwil Defnyddiwr’ ar-wahân wedi’i archebu ar gyfer 12 swyddog sydd wedi cael eu dewis yn sgil eu hymgysylltiad mewn digwyddiadau, hyfforddiant, a/neu weithgorau. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros 9 sesiwn 2 awr yr un, yn ystod mis Chwefror a Mawrth 2022.

Cynhadledd

Bydd ein cynhadledd ar-lein yn cael ei gynnal ar Ionawr 20, 2022. Yn y digwyddiad bydd 4 sesiwn panel gydag holi ac ateb (2 yn y bore, 2 yn y prynhawn). Byddwn yn anfon gwahoddiadau a rhagor o fanylion yn niwedd Tachwedd/dechrau Rhagfyr.

Asesiad Aeddfedrwydd Digidol

Rydym wedi trefnu peilot i ddechrau ym mis Tachwedd o ran y ffordd orau o gael mynediad at aeddfedrwydd digidol y cyngor, gan weithio gyda Blaenau Gwent.

Gweithgorau Newydd

Rydym yn datblygu gweithgorau newydd yn sgil y sesiynau gweithgor a gynhaliwyd yn flaenorol, gan ddewis themâu allweddol sydd angen eu hymchwilio ymhellach. Bydd gennym ragor o wybodaeth am y rhain yn ein diweddariad nesaf.

Os hoffech ragor o wybodaeth ar y gwaith, anfonwch e-bost atom ni timdigidol@wlga.gov.uk a byddwn yn hapus i siarad â chi.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *