Y Pedwar Gwych ar gyfer y Byd Digidol yng Nghymru

Y Pedwar Gwych ar gyfer y Byd Digidol yng Nghymru

Yn 2018 fe gyhoeddwyd adroddiad gyda’r teitl ‘Newid y System‘ a oedd yn cynnig argymhellion ar sut i ddarparu newid digidol effeithiol yng Nghymru. Un argymhelliad oedd i sefydlu arweinyddiaeth ddigidol glir. Yn sgil yr argymhelliad hwn mae ymagwedd newydd wedi datblygu tuag at arweinyddiaeth ddigidol yng Nghymru.

Mae’r blog hwn yn mynd i roi trosolwg cryno o’r 4 tîm sy’n ffurfio’r arweinyddiaeth ddigidol yng Nghymru er mwyn rhoi eglurder (gobeithio) ynglŷn â sut y caiff y pedwarawd hwn ei ffurfio.

Y Tîm Digidol ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru

Prif Swyddog Digidol: Trafododd Sam Hall

Gorchwyl: Cynorthwyo a chefnogi’r maes digidol ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Crynodeb: Mae hwn yn dîm newydd. Fe ymunodd Sam â CLlLC tuag at ddiwedd Tachwedd 2020 fel yr aelod cyntaf, gyda gweddill y tîm yn dechrau yn hanner cyntaf 2021. Y ffocws ar gyfer y tîm yw gwella gwasanaethau digidol yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae strategaeth y tîm yn amlygu 3 o egwyddorion y byddant yn ceisio eu dilyn i wireddu hyn:

  • Cefnogi Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl, gyda’r nod o sicrhau fod pob gwasanaeth yn cael ei ddylunio i fynd i’r afael ag anghenion penodol pobl sy’n defnyddio gwasanaethau llywodraeth leol.
  • Yr ail egwyddor yw i weithio gyda phartneriaid i wella swyddogaethau Data Llywodraeth Leol. Mae hyn i alluogi proses lunio penderfyniadau wedi ei gyrru gan ddata ac i ganfod ffyrdd yn rhagweithiol o helpu cymunedau.
  • Y drydedd egwyddor yw model galluogrwydd. Mae’r tîm yn mynd i greu tîm amlddisgyblaethol a fydd ar gael i awdurdodau lleol gysylltu â nhw i helpu i greu gwasanaethau digidol effeithiol ar gyfer eu preswylwyr. 

Llywodraeth Cymru a’r Byd Digidol

Prif Swyddog Digidol: Glyn Jones

Gorchwyl: I ddarparu gwell gwasanaethau gan Lywodraeth Cymru ac i oruchwylio cynnig y gwasanaeth digidol yng Nghymru gyfan.

Crynodeb: Fe fydd Llywodraeth Cymru (LlC) yn canolbwyntio ar sut y gall wella ei wasanaethau digidol ei hun, ond hefyd y gwasanaethau a gaiff eu darparu gan Gymru gyfan. Mae LlC wedi crynhoi hyn yn eu gweledigaeth drwy roi manylion ar 6 cenhadaeth unigol.

  • Mission 1 is around digital services. WG will deliver and modernise services so that they are designed around user needs.
  • Mae Cenhadaeth 2 yn ymwneud â chynhwysiant digidol. Mae LlC yn canolbwyntio ar roi cymhelliant, mynediad, sgiliau a hyder i bobl i ymgysylltu â’r byd digidol. 
  • Mae Cenhadaeth 3 yn ymwneud â sgiliau digidol. Mae LlC yn awyddus i greu gweithlu sydd â’r sgiliau digidol, y gallu a’r hyder i ragori yn y gweithle a thu allan.
  • Mae Cenhadaeth 4 yn canolbwyntio ar yr economi ddigidol. Nod LlC yw gyrru ffyniant economaidd a gwytnwch drwy groesawu a manteisio ar arloesedd digidol.
  • Mae Cenhadaeth 5 yn ymwneud â chysylltedd digidol. Mae LlC eisiau sicrhau fod gwasanaethau’n cael eu cefnogi gan isadeiledd cyflym a dibynadwy.
  • Mae cenhadaeth 6 yn cyfeirio at ddata a chydweithio. Nod LlC yw sicrhau fod gwasanaethau’n cael eu gwella drwy gydweithio, gyda data a gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio a’i rannu.

GIG Cymru a’r Byd Digidol

Prif Swyddog Digidol: Heb ei benodi eto.

Gorchwyl: I ddarparu gwell gwasanaethau ar gyfer y 7 bwrdd iechyd a thair ymddiriedolaeth y GIG.

Crynodeb: Y ffocws ar gyfer y tîm hwn fydd yr holl wasanaethau digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fe fydd y Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal yn diffinio safonau cenedlaethol ar gyfer meddalwedd a gwasanaethau digidol, fel rhan o symudiad tuag at bensaernïaeth ddigidol agored, ar draws yr holl systemau digidol. Fe fydd y Prif Swyddog Digidol hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar strategaeth ddigidol, bydd yn arwain y proffesiwn digidol a bydd yn hyrwyddwr iechyd a gofal digidol yng Nghymru.

Mae mwy o fanylion ynglŷn â hyn ar wefan Llywodraeth Cymru.

Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru

Prif Weithredwr: Sally Meecham (Dros dro)

Gorchwyl: Cefnogi darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus ar draws y sector cyhoeddus cyfan yng Nghymru.

Crynodeb: Mae’r Ganolfan yn sefydliad eithaf newydd sy’n gorff hyd braich o Lywodraeth Cymru. Ffurfiwyd y Ganolfan i fynd i’r afael â’r heriau cyffredin a brofir yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn arbennig yn ymwneud â hyfforddiant, rhannu arferion da a phersonél arbenigol ar gyfer trawsnewid gwasanaeth. Er mwyn helpu i ddatrys yr heriau hyn, mae’r ganolfan ar hyn o bryd yn gweithio ar 3 prif brosiect:

  • Y cyntaf yw’r Sgwad Trawsnewid Digidol. Fe fydd y sgwad yn darparu ymgysylltiad ymarferol, gan helpu timau sy’n gweithio ar brosiectau digidol yng Nghymru i ddechrau defnyddio dulliau gweithio hyblyg ac offer a thechnegau perthnasol i oes y rhyngrwyd.
  • Yn ail, mae’r Ganolfan yn canolbwyntio ar sgiliau digidol. Mae’n darparu hyfforddiant digidol wedi’i dargedu i uwch arweinwyr, prif weithredwyr, aelodau etholedig a staff eraill y sector cyhoeddus.
  • Yn olaf, creu Hwb Gwybodaeth. Fe fydd yr Hwb yn edrych ar ddulliau i helpu i egluro a rhannu safonau technegol a dylunio gwasanaeth yn hawdd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Casgliad

I grynhoi, o fewn y timau hyn fe fydd yna orgyffwrdd ac fe fyddant yn cefnogi ei gilydd ar brosiectau neu ffrydiau gwaith. Ond mae ganddynt i gyd eu meysydd penodol eu hunain ar gyfer eu cefnogi.

Bydd y Tîm Digidol ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru yn rhoi blaenoriaeth i’r 22 o Awdurdodau Lleol.

Bydd Tîm Digidol Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar Wasanaethau Digidol Llywodraeth Cymru.

Fe fydd Tîm Digidol y GIG yn cefnogi’r holl ddatblygiad digidol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Fe fydd Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru yn canolbwyntio ar brosiectau lle mae angen i sefydliadau cyhoeddus unigol gydweithio.

Mae’r arweinyddiaeth ddigidol ar draws Cymru yn rhannu un nod, sef i wella gwasanaethau cyhoeddus digidol ar gyfer pobl sy’n byw, gweithio a sy’n ymweld â Chymru.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *