Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gronfa Trawsnewid Digidol Llywodraeth Leol
Ers ein blog diwethaf ym mis Medi, rydym wedi cynnal cyfarfodydd cyntaf gyda’r 5 tîm prosiect cyngor llwyddiannus. Yn y sgyrsiau hyn, daeth i’r amlwg y byddai angen rolau digidol nad oedd ar gael o fewn y cynghorau eu hunain. Yn dilyn trafodaethau o fewn CLlLC, cytunwyd y byddai Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru’n camu i’r adwy i helpu gyda chaffael y contractwyr angenrheidiol i gychwyn arni cyn gynted â phosibl yn sgil yr amserlen dynn.
Rydym hefyd wedi mireinio’r ddogfen ar gyfer cyflwyno adroddiadau gwariant a’r adroddiad terfynol y dylid ei anfon at CLlLC ym mis Mawrth. Lluniwyd y ddogfen hon fel adroddiad gwariant misol y gallai’r cynghorau ei ddefnyddio i gyflwyno anfonebau ar gyfer taliadau i CLlLC, bydd y ddogfen hon hefyd yn cael ei chyflwyno fel eu hadroddiad terfynol ym mis Mawrth. Rydym wedi gwneud hyn er mwyn arbed amser a gwaith i gynghorau a byddwn yn adolygu’r dull hwn yn y sesiwn ôl-weithredol ym mis Mawrth.
Mae’r tîm hefyd wedi derbyn cais i ychwanegu’r Prosiect Systemau Gwybodaeth Rheoli Ysgolion at y gronfa drawsnewid eleni, dechreuwyd gwaith ar y prosiect hwn ychydig dros flwyddyn yn ôl. Yn sgil y tanwariant a ragwelir yn y gronfa drawsnewid, mae’r prosiect wedi bod drwy’r dull comisiynu a phanel y gronfa drawsnewid, sydd wedi arwain at gynnig gwariant o gronfa eleni i’r prosiect hefyd.
Mae tîm Digidol CLlLC yn parhau i ddal i fyny bob mis gydag arweinwyr prosiect cynghorau, gan gynnig cyngor a chymorth. Bydd y contractwyr yn dechrau gweithio yn y flwyddyn newydd er mwyn paratoi ar gyfer cyflawni gwaith yn gyflym rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023.
Diolch o galon i Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru am weithredu’n gyflym o ran y costau arfaethedig mewn perthynas â llafur wrth gefn ar gyfer bob prosiect ac am rannu’r dogfennau gofynnol gyda’r cyngor a CLlLC er mwyn rheoli’r gwariant.
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’n rhestr bostio, ac yn hyrwyddo sesiynau dangos a dweud ar gyfer bob prosiect o fewn y gronfa. Os hoffech chi gofrestru ar gyfer y rhestr bostio, dilynwch y ddolen hon: https://digidolllywodraethleol.cymru/cysylltwch-a-ni-a-thanysgrifio/
Gadael Ymateb