Wythnos Ddarllen: Gorffennaf 2022
ddydd Llun, 18 Gorffennaf, i ddydd Gwener, 22 Gorffennaf, bu’r tîm yn cymryd rhan mewn Wythnos Ddarllen. Yn ystod yr Wythnos Ddarllen, yr oeddem yn cadw ein prynhawniau i ganolbwyntio ar ddysgu ac uwchsgilio er mwyn ein cynorthwyo i ddatblygu ein sgiliau. Dyma’r hyn a wnaeth pob un ohonom am yr wythnos, a sut aeth hi.
Tom
Yn ystod yr Wythnos Ddarllen, treuliais lawer o wahanol sgyrsiau, canllawiau, erthyglau, podlediadau a llyfrau (wel, llyfr) ynglŷn â gwella dylunio gwasanaethau, ymgysylltu’n well â dinasyddion, agweddau cymdeithasol tuag at dlodi, creu gwell profiad defnyddiwr, deall niwroamrywiaeth, cydgynhyrchu, a mwy. Dyma ychydig o’r hyn a ddysgais (neu’r hyn a gefais fy atgoffa ohono) a gafodd fwyaf o argraff arnaf:
TEDx Talks – ‘Don’t Listen To Your Customers – Do This Instead’ gan Kristen Berman
Fel ymchwilydd defnyddwyr, mae gwrando ar bobl er mwyn deall eu profiadau a’u hanghenion yn bwysig iawn. Ond, yr oedd y sgwrs hon yn herio hynny i raddau drwy ddangos tystiolaeth nad yw’r hyn y mae pobl yn ei ddweud mor bwysig â’r hyn y mae pobl yn ei wneud pan fyddwn yn casglu dirnadaethau ar gyfer dylunio gwasanaethau.
Mae Kristen Berman, gwyddonydd ymddygiad, yn dangos tystiolaeth gymhellol bod y dirnadaethau a gesglir drwy gyfweliadau, arolygon, ac ati, yn aml yn gamarweiniol, gan nad yw pobl bob amser yn ymwybodol o’u gwir gymhellion ac ymddygiad, felly mae’r hyn maent yn ei ddweud wrth ymchwilwyr y byddent yn ei wneud yn wahanol i’r hyn y byddent yn ei wneud mewn gwirionedd. Ei dadl yw bod ymchwil ymddygiad fel profi defnyddioldeb ac astudiaethau maes yn rhoi dealltwriaeth lawer mwy cywir o’r hyn mae pobl yn ei wneud, sy’n rhoi gwell dirnadaeth i ni ar gyfer dylunio gwasanaethau ar gyfer y bobl hynny. Er bod rhaid i mi gytuno â’r hyn y mae’n ei ddweud (mae’n anodd dadlau gyda gwyddonydd!), yr wyf yn dal i feddwl bod gwrando ar bobl yn rhan bwysig a gwerthfawr o ymchwil defnyddiwr, a gall y ddirnadaeth a gesglir ychwanegu at unrhyw ddirnadaeth o ymddygiad.
Chris
Human Centred Design Toolkit gan IDEO
Yr oedd Human Centred Design Toolkit gan IDEO yn ddiddorol iawn, ac o gymorth i ffurfio a strwythuro Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl yn fy meddwl. Mae’r arweinlyfr yn egluro sut mae Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl yn canolbwyntio ar 3 pheth:
- Dymunoldeb. Mae hyn yn golygu deall anghenion y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. A ydynt yn dymuno cael y gwasanaeth neu’r cynnyrch yr ydym yn ei ddylunio ar eu cyfer?
- Dichonoldeb. A yw’n bosibl dylunio a darparu’r datrysiad hwn? A yw’n ddichonadwy – yn dechnegol ac yn sefydliadol?
- Hyfywedd. Pa effaith fydd y datrysiad yn ei gael ar ein cyllideb? A yw’r datrysiad yn ariannol hyfyw?
Pe baech yn dychmygu diagram Venn gyda’r 3 gydran hyn, dylai’r datrysiad sy’n dod i’r amlwg fod yn y man lle mae’r 3 yn gorgyffwrdd. Yn yr arweinlyfr, mae IDEO yn ein harwain drwy eu fframwaith i ddarparu gwasanaethau a chynnyrch sy’n canolbwyntio ar bobl. Maent wedi rhannu eu model darparu i 3 cham sydd, fel ‘Human Centred Design’, â’r acronym HCD yn Saesneg:
- Clywed (‘Hear’). Y cam Clywed yw pan fo’r tîm dylunio’n casglu storïau a phrofiadau, ac yn arsylwi ar ymddygiad. Dyma pryd mae’r ymchwil yn cael ei gynllunio a’i gynnal.
- Creu (‘Create’). Yn ystod y cam hwn, mae’r tîm dylunio’n trosi canfyddiadau’r ymchwil i themâu, cyfleoedd, datrysiadau posibl a phrototeipiau.
- Darparu (‘Deliver’). Y cam Darparu yw pan fo timau dylunio’n dechrau cyflawni eu datrysiadau drwy fodelu refeniw a chost, asesiadau gallu a chynllunio gweithredu.
Mae’n bwysig peidio â cheisio canfod datrysiad sy’n ticio bocsys Dymunoldeb, Dichonoldeb, a Hyfywedd yn syth bin. Parhewch i brofi datrysiadau i sicrhau eu bod yn bodloni egwyddorion Dymunoldeb drwyddynt draw. Fodd bynnag, gall Dichonoldeb a Hyfywedd aros tan wedyn. Os ydym yn gweld nad yw’r ddwy gydran hynny’n cael eu bodloni, gellir ailadrodd y datrysiadau i fodloni’r meini prawf hynny.
Emma
Rhoddodd yr wythnos ddarllen y cyfle i mi archwilio pynciau nad oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’m gwaith, ond a allai fod o gymorth i wella fy ngwybodaeth a’m sgiliau mewn ffordd ehangach. Cefais amser gwych yn darllen amrywiaeth o lyfrau ac erthyglau, ac yn gwrando ar bodlediadau.
Dechreuais gyda ‘The Content Strategy Podcast’ gan Kristina Halvorson, ac yn benodol ei chyfweliad â Helen Lawson, sy’n Ddylunydd Cynnwys gyda Co-op Funeralcare. Mae Helen yn frwd dros wella’r sgwrs ynglŷn â marwolaeth, a siaradodd am sut i feddwl am iaith wrth ymdrin â phynciau sensitif. Er nad ydym yn ymdrin â’r un pwnc, yr ydym yn mynd i’r afael â phynciau sensitif eraill fel tîm, ac yr oedd cyngor defnyddiol yn hwn ar wella’r ffordd ydym yn gwneud hyn.
Hefyd, ni allwch guro llyfr go iawn i roi egwyl oddi wrth sgrin, felly, darllenais Good Services gan Lou Downe, a’r clasur Don’t Make Me Think gan Steve Krug. Yr oedd llyfr Lou Downe yn berthnasol dros ben i’r gwaith Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd yr wyf yn rhan ohono ar hyn o bryd, a gwnaeth i mi feddwl mwy am sut y mae gwahanol rannau o wasanaeth yn rhyngweithio â’i gilydd, a sut allwn wneud y profiad yn un mwy didrafferth i ddinasyddion.
Yn olaf, mwynheais ysgrif Scott Kubie am ecosystemau cynnwys. Er nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â dylunio cynnwys, mae ecosystemau cynnwys yn ymddangos fel offeryn defnyddiol i ganfod problemau a chyfleoedd, a all fod o fudd i bawb.
Paul
Dros sawl blwyddyn, bûm yn gweithio gyda thimau DevOps ar brosiectau datblygu meddalwedd. Rhai yn parhau am flynyddoedd. Rhai am fisoedd. Yr oedd defnyddio arferion gorau diogelwch digidol yn ofyniad craidd i bob un heb eithriad. Felly, yn seiliedig ar y profiadau hyn, yr oedd treulio amser yn dysgu am yr hyn all sefydliadau ei wneud i ddatblygu cadernid yn erbyn seiberdrosedd yn ymddangos fel dewis naturiol. Yn fwy felly gan fod fy swydd bresennol yn ymwneud mwy â thrawsnewid digidol sefydliadol na datblygu meddalwedd.
Y peth cyntaf i’w egluro oedd y gwahaniaeth rhwng seiberddiogelwch a seibergadernid. Er mwyn gwneud hyn, nid yw’n syndod fy mod wedi gofyn i Google. Nid yw’n syndod chwaith fy mod wedi canfod llond trol o bethau defnyddiol (i ddechrau, byddwn yn awgrymu edrych ar wefan Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. Yn galonogol, mae ffynonellau dibynadwy’n cytuno bod seiberddiogelwch yn ymwneud â chloi systemau gymaint â phosibl yn seiliedig ar y gyllideb sydd ar gael, anghenion perfformiad systemau, ac ymarferoldeb cefnogaeth barhaus.
Yn ôl y cyhoeddiad AXELOS ‘Cyber Resilience Best Practices’ , mae seibergadernid, ar y llaw arall, yn ymwneud â datblygu’r gallu i atal, canfod, a chywiro unrhyw effaith y mae digwyddiadau’n eu cael ar y wybodaeth sydd ei hangen i wneud busnes. A chanddo 260 o dudalennau am y pwnc, a 40 o dudalennau o fyrfoddau a geirfa (mae’r diwydiant seiber yn bendant yn cael medal aur am acronymau a theitlau cymhleth), treuliais y rhan fwyaf o’m hwythnos ddarllen yn mynd drwy’r llyfr hwn.
Yr oeddwn yn deall rhai pethau, ac eraill ddim cystal, ac er bod y cyhoeddiad wedi ei ddiweddaru ddiwethaf yn 2015 ac ambell beth wedi dyddio, credaf ei fod yn gyflwyniad da i seibergadernid, ac mae’n werth ei ddarllen.
Os nad oes awydd gennych, byddwn yn mynd yn syth i’r darn am y pum elfen allweddol sydd i ddatblygu seibergadernid, sef (o’u crynhoi): strategaeth; dylunio; pontio; gweithredu; a gwella’r gwasanaeth yn barhaus.
- Mae Strategaeth yn nodi’r asedau hanfodol, megis gwybodaeth, systemau a gwasanaethau, sydd fwyaf pwysig i’r sefydliad a’i fudd-ddeiliaid, ac yn nodi’r gwendidau a’r risgiau.
- Mae Dylunio’n dewis rheolyddion systemau rheoli, gweithdrefnau a hyfforddiant priodol a chymesur er mwyn atal niwed i asedau hanfodol, ac yn nodi pwy sydd â pha awdurdod i wneud penderfyniadau a gweithredu.
- Mae Pontio’n cyflwyno dyluniadau i’r amgylchedd gweithredol, gan sicrhau bod newidiadau’n ategu amcanion seibergadernid, a bod prosesau a rheolyddion newydd neu rai sydd wedi eu haddasu yn cyflawni’r canlyniadau disgwyliedig.
- Mae Gweithredu’n canfod ac yn rheoli digwyddiadau seiber, ac yn golygu profi rheolyddion yn barhaus er mwyn sicrhau effeithiolrwydd a chysondeb.
- Mae gwaith gwella’r gwasanaeth yn barhaus yn sicrhau bod y sefydliad yn dysgu o ddigwyddiadau, ac yn addasu gweithdrefnau, hyfforddiant, dyluniad, a strategaeth, hyd yn oed, fel bo’r angen.
Sarah
Yn ystod fy wythnos ddarllen, canolbwyntiais ar ddatblygu fy sgiliau WordPress Ar hyn o bryd yr ydym yn dyblygu ein gwefan bresennol i ddwy wefan ar wahân (un yn y Gymraeg a’r llall yn Saesneg) er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni arferion gorau o ran gwasanaethau dwyieithog. Fel rhywun sydd â rhywfaint o brofiad o ddefnyddio WordPress, yr wyf wedi bod yn gweithio arno yn ystod fy amser hamdden, ond yr oeddwn eisiau ychydig o amser i ganolbwyntio ar ddarllen ynglŷn â dyblygu gwefannau, creu a chysylltu URL, dyblygu cynnwys ac ategion ailgyfeirio. Rhoddodd yr Wythnos Ddarllen yr amser i mi ganolbwyntio a gwisgo fy het Gyfathrebu am gyfnod estynedig. Darllenais erthyglau a blogiau’n ymwneud â WordPress, gan roi cynnig ar yr hyn oeddwn wedi ei ddysgu a gweld a oedd yn gweithio’n ymarferol cyn ei ryddhau i’r cyhoedd.
Yr oedd yn wych gallu rhoi amser i hyn, yn hytrach na fy mod yn mynd ar ôl ysgyfarnog ac wedyn yn cynhyrfu a gorfod gadael yr ysgyfarnog i fynd i gyfarfod, sef yr hyn sydd fel arfer yn digwydd! Er ei bod yn bosibl y byddwn yn dal i fod angen datblygwr i gynorthwyo gyda rhywfaint o’r gwaith anodd, yr wyf yn falch iawn fy mod wedi llwyddo i dynnu dau safle wedi eu dyblygu ynghyd ar ddiwedd yr wythnos, gyda’r cynnwys cywir ar bob un, ac ôl-groniad o’r gwaith a oedd ei angen i gwblhau’r prosiect. Yr oedd y caniatâd i beidio â chymryd sylw o’m e-byst, a chael darllen, yn hanfodol i allu gwneud cynnydd yn y gwaith – byddaf yn ymgyrchu am wythnos ddarllen arall ar gyfer yr amser hwn y flwyddyn nesaf.
Aimee
Canolbwyntiais ar ddau faes dylunio gwasanaethau a chreu prototeipiau rhyngweithiol yn ystod fy wythnos ddarllen. Yn gyntaf, darllenais Good Services gan Lou Downe, gan ei fod yn rhan o anrheg ‘croeso i’r tîm’ gan yr Uwch Reolwr Darparu. Mwynheais y llyfr hwn yn fawr gan ei fod yn cysylltu â’m hawydd i wneud gwasanaethau’n hygyrch i ddefnyddwyr, ac mae wedi fy nghynorthwyo i ehangu fy meddylfryd i ystyried pethau nad oeddwn wedi meddwl amdanynt. Bu’r llyfr o gymorth i mi ddeall y sector cyhoeddus hefyd, a minnau wedi ymuno â’r tîm o’r sector preifat.
Yn ogystal â llyfr Lou, canolbwyntiais hefyd ar diwtorialau Figma, gan fod ein tîm angen rhywun i weithio ar brototeip Figma sydd eisoes yn bodoli, er mwyn ei gael i’r stad lle gallwn ddechrau profi defnyddioldeb. Yr oeddwn angen bod yn chwilfrydig gyda’r feddalwedd (heb dorri’r prototeip), felly dechreuais ymchwilio i sut i greu a defnyddio cydrannau.
Canfûm ambell ddolen isod a oedd yn ddefnyddiol iawn i rywun hollol ddibrofiad nad oedd ag unrhyw wybodaeth o’r derminoleg i ganfod sut i ddefnyddio’r feddalwedd:
- ‘Create and use component properties’ – Figma Help Center
- ‘Component architecture in Figma’
- ‘Figma Basics Tutorial for Beginners (Free Design Tool!)’ – YouTube
- CodeWithChris – YouTube
Dyna beth oedd wythnos o ddysgu! Yn ein hadolwg ddiweddaraf, trafodwyd ein barn, ac fel tîm yr oedd yn gadarnhaol dros ben. Yr oedd y caniatâd i gael canolbwyntio’n gyfan gwbl ar bwnc heb unrhyw beth i dynnu ein sylw o fudd mawr i ni. Yr ydym bellach yn cynllunio Wythnos Ddarllen arall ar gyfer y gaeaf i’n cadw i fynd!
Gadael Ymateb