Uchelgais
ENW – awydd cryf i wneud neu gyflawni rhywbeth, a hynny fel arfer yn gofyn am benderfyniad neu waith caled.
Ers cychwyn fy rôl fel Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol yng Nghymru, gofynnwyd i mi siarad mewn nifer o ddigwyddiadau. Ac mae nifer o gwestiynau o hyd ynglŷn â’r pethau pwysicaf y dylen ni ganolbwyntio arnyn nhw yng Nghymru. Ac i fod yn onest, mae pobl fwy galluog na fi sy’n gallu dadansoddi, deall a chyfathrebu blaenoriaethau i ni fel cenedl rhoi sylw iddyn nhw. Ac fe wnawn ni hynny. Wrth gwrs y gwnawn ni, oherwydd mae digon o uchelgais yng Nghymru.
Mae uchelgais wedi mynd ar daith ryfedd, o fod yn rhywbeth sy’n perthyn i bob un ohonom – yw awydd i wneud rhywbeth neu wella, a throi’n air budr sy’n ymwneud ag enwogrwydd a bri. Erbyn hyn, mae’n amser adennill hynny ac adfer y gair i’w wir ystyr – cyflawni rhywbeth sydd fel arfer yn golygu gwaith caled ond sy’n gwobrwyo yn y pen draw.
Yn sicr, mae Llywodraeth Leol Cymru yn gorlifo ag uchelgais. Dydw i ddim wedi siarad hefo’r un swyddog neu aelod etholedig nad yw am wella profiadau ei ddinasyddion, iddyn nhw gael gwell mynediad at wasanaethau a gallu byw bywydau gwell (ac rydw i wedi siarad hefo nifer o bobl!) Dylai pob darn o waith, pob prosiect, pob penderfyniad ein symud tuag at well stâd.
Dyma ble mae fy uchelgais dros fy nhîm yn cychwyn. Rydym ni gyd yn rhannu uchelgais y llywodraeth leol, oherwydd rydym ni’n ddinasyddion hefyd. Rydym yn deall hefyd y gallwn ddefnyddio ein setiau penodol o sgiliau, profiad a rhwydweithiau er mwyn i hynny ddigwydd. Y cyfan sydd ei angen yw sicrhau ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir, a bod pawb yn dod gyda ni i’r cyfeiriad hwnnw neu yn bwysicach, fod pobl yn mynd â ni gyda nhw.
Treuliwyd rhan gynta’r flwyddyn hon yn gwneud ymchwil helaeth i’n helpu i greu darlun o ble ddylen ni ganolbwyntio ein hymdrechion a ble allen ni helpu i gyflawni uchelgais.
Rydym wedi dysgu cymaint mewn ychydig fisoedd yn unig, a dyma rai o’r pethau pwysicaf:
- rhaid i ni wneud mwy er mwyn i bobl ddeall nad yw digidol yn golygu dim ond prynu technoleg.
- cynnal mwy o ymchwil defnyddwyr fydd yn cyfoethogi ein darlun – hyd yn oed os rydym yn meddwl ein bod yn gwybod beth fydd ein defnyddwyr yn ei ddweud, dylem holi beth bynnag.
- ni ddylai digidol fod yn label i’w roi ar dîm mewn sefydliadau, ond yn hytrach, yn rhan o’r ffordd rydym yn gweithio, cyflawni ein busnes, a byw.
- mae angen i ni ddod o hyd i gyfle cynaliadwy i gyfuno talent a phosibiliadau gyda’r hyfforddiant a’r sgiliau perthnasol.
- pobl llywodraeth leol yw’r rhai gorau am ddatrys problemau – maen nhw’n gwneud hynny bob dydd, felly sut allwn ni ddefnyddio hynny i gyflwyno gwell gwasanaethau?
- mae ystod y gwasanaethau a gyflwynir yn anferth, ac mae ymrwymiad cryf i wella, a chynnig arbedion effeithlonrwydd a gwerth am arian.
- dydyn ni ddim yn rhai da iawn am ddweud wrth bobl am y pethau gwych y mae awdurdodau lleol yn ei wneud bob dydd – mae’n hen bryd dechrau dweud y stori.
- mae awdurdodau lleol yn berchen ar gyfoeth o ddata anhygoel am ein cymunedau, ond sut allwn ni wneud gwell defnydd ohono er mwyn ymyrryd yn gynt a rhagweld problemau cyn iddyn nhw ddigwydd?
- gallwn rannu cymaint mwy o’r hyn a wnawn ar draws y 22 awdurdod lleol – rhannu a gofalu.
- rydym yn rhannu’r gofod sector cyhoeddus gyda phobl ddigidol wych ar draws Llywodraeth Cymru, Iechyd a thu hwnt.
- mae gwerth anhygoel mewn cryfhau ein perthnasau gyda phartneriaid cymunedol a’r trydydd sector – a gyda’n gilydd gallwn gyflawni cymaint mwy.
Yn amlwg, rydym wedi dysgu llawer mwy a byddwn yn parhau i ddysgu. O’r hyn a wyddom ar hyn o bryd, gallwn fynd â’n strategaeth o nerth i nerth a symud y baich gwaith ymlaen. Gwyddom ein bod yn gwneud y pethau iawn, gwyddom y gallwn helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac ni fydd gennym gywilydd mewn bod yn uchelgeisiol. Oherwydd yng ngeiriau’r anfarwol Salvador Dali,
“Mae gwybodaeth heb uchelgais, fel aderyn heb adenydd”
Salvador Dali
Gadael Ymateb