Sut i ddefnyddio ymchwil wrth ddylunio gwasanaethau

Sut i ddefnyddio ymchwil wrth ddylunio gwasanaethau

Mae gwneud ymchwil trwy gydol oes prosiect yn ein galluogi i ddeall anghenion ein defnyddwyr a gwirio ein bod yn bodloni gofynion y busnes a defnyddwyr.

Yn ddelfrydol, byddech chi’n gweithio gydag ymchwilydd defnyddwyr er mwyn deall eich cynulleidfa’n well, eu hanghenion a’u cymhelliant, a’r iaith y maen nhw’n ei defnyddio. Rydym yn gwybod nad yw hyn yn bosibl bob amser mewn awdurdodau lleol, felly rydym wedi nodi rhai ffyrdd isod y gallech chi gynnal eich ymchwil eich hunain i helpu i ddylunio gwasanaethau.

Adolygiad Llenyddiaeth

Yn y byd academaidd, ar ddechrau pob prosiect ymchwil, mae adolygiad llenyddiaeth, lle byddech chi’n darllen, arolygu, beirniadu, dadansoddi a chrynhoi popeth sydd eisoes wedi’i ysgrifennu am y pwnc rydych chi’n ymchwilio iddo. Mae’r Gronfa Lenyddol Frenhinol (rlf.org.uk) wedi ysgrifennu erthygl wych sy’n amlinellu ‘beth yw adolygiad llenyddiaeth‘.

Mae hyn yn rhan hanfodol o ymchwil, oherwydd mae’n rhoi sail gadarn i chi am y pwnc. Mewn unrhyw brosiect, gall dull tebyg roi cipolwg i chi ar beth mae pobl eraill yn ei ddweud am y pwnc, gan gynnwys themâu poblogaidd, yr iaith a ddefnyddir, ac unrhyw fylchau. Gall y lenyddiaeth hon gynnwys blogiau, papurau gwyn, erthyglau, llawlyfrau neu lyfrau.

Adolygu cynnyrch presennol

Os oes cynnyrch neu wasanaethau presennol sy’n debyg i’r un rydych chi’n gweithio arno, gallwch adolygu eu cysyniadau, rhyngweithio, iaith a phrofiadau. Gallai hyn fod yn eich sefydliad, ymhlith eich cystadleuwyr, partneriaid neu gyrff annibynnol. Mae’r un gwerth wrth edrych ar gynnyrch a gwasanaethau tebyg yn fewnol ac allanol.   

Adolygiad dadansoddol

Mae’n anodd dweud pa ddata dadansoddol fyddai fwyaf defnyddiol i’ch prosiect. Mae Google Analytics yn blatfform dadansoddol cyffredin, ond mae nifer o rai eraill ar gael gyda gwahanol ffyrdd o gyflwyno data.

Cyn penderfynu pa ddata dadansoddol rydych chi am ei ddadansoddi, mae’n bwysig gwybod beth rydych chi’n ceisio ei gyflawni, fel bod y data’n alinio â’ch prosiect a’ch helpu i ddeall y gwaith. Fel enghraifft, os ydych chi’n gweithio ar arolwg, efallai byddai’n ddefnyddiol edrych ar ddata am nifer yr arolygon a ddechreuwyd ac a gwblhawyd.

Byddwch yn ofalus gyda metrigau balchder a allai edrych yn dda, ond ni fyddant yn eich helpu i gyrraedd eich nodau o reidrwydd.

Chwiliad Boole

Mae chwiliad Boole yn fformiwla i chwilio’r we, gan ganiatáu i chi fireinio eich chwiliad trwy gyfuno geiriau allweddol i gynhyrchu canlyniadau mwy perthnasol. Er enghraifft, gallai chwiliad Boole gynnwys y geiriau “Tafarn” A “Caerdydd”. Byddai hyn yn cyfyngu canlyniadau’r chwiliad i eitemau â’r ddau air allweddol hynny yn unig.

Mae chwiliad Boole yn gweithio ar beiriannau chwilio (fel Google, Yahoo neu Bing), rhwydweithiau cymdeithasol (fel LinkedIn, Facebook, Twitter neu Instagram), ac mewn nifer o gronfeydd data a chyfeirlyfrau proffesiynol.

Dadansoddi allweddeiriau

Yr adnodd chwilio geiriau allweddol mwyaf poblogaidd a ddefnyddir yw Google AdWords. Byddai hyn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r geiriau allweddol mwyaf poblogaidd mae pobl yn eu defnyddio mewn chwiliadau o ran eich pwnc, yn ogystal â chwestiynau allweddol sy’n cael eu gofyn. Mae hyn yn arbennig o werthfawr ar gyfer adolygiad cynnwys ac er mwyn deall y geiriau a’r iaith mae pobl yn eu defnyddio.

Gwybodaeth fewnol

Cofiwch rwydweithio, ymchwilio a gofyn cwestiynau yn eich sefydliad eich hunain. Mae’n bosibl y bydd hen ffolderi ar yriant a rennir y gallwch gael mynediad iddynt, neu bobl yn eich canolfan cyswllt cwsmeriaid sydd wedi delio ag ymholiadau tebyg (mae data gwasanaeth i gwsmeriaid ac ymholiadau cwsmeriaid yn ffynhonnell ddata wych ar gyfer ymchwil desg!). Mae’n bosibl y bydd timau eraill sydd wedi gweithio ar rywbeth tebyg hefyd.

Edrychwch ar brofiadau y tu mewn i’ch sefydliad er mwyn casglu cipolwg gwell ar eich prosiect eich hunain.

Adolygiadau cwsmeriaid

Mae adolygiadau cwsmeriaid ar eich gwefan, fforymau neu gyfryngau cymdeithasol yn ffynhonnell dda i helpu gydag ymchwil desg.

Adolygiad hygyrchedd

Gall adolygiad hygyrchedd roi cipolwg cyflym i chi ar eich prosiect os oes cynnwys sy’n bodoli eisoes.

Mae rhai ffyrdd cyflym y gallwch wneud hyn ar eich pen eich hunain o’ch desg, gan gynnwys gwirio pa mor ddarllenadwy yw eich cynnwys trwy gymhwysiad (fel HemingwayGrammarly, neu wirio ystadegau darllenadwyedd yn Microsoft Word), defnyddio adnodd gwirio cyferbynnedd lliwiau ar-lein, neu ddefnyddio gwefannau hygyrchedd ar-lein i asesu eich cynnwys.

Archwilio cynnwys

Byddai archwiliad cynnwys yn rhoi golwg glir i chi o’r cynnwys sy’n bodoli eisoes ar y wefan, platfformau neu wasanaeth rydych chi’n gweithio ynddynt.

I gael rhagor o wybodaeth am beth yw archwiliad cynnwys, a sut i gynnal un, gweler y blog hwn,‘How to Conduct A Content Audit’ gan UX Mastery.

Ymchwil sylfaenol

Os nad oes gennych fynediad at ymchwilydd defnyddwyr, ond yr hoffech wneud rhywfaint o ymchwil sylfaenol, a bod gennych fynediad at sampl o’ch defnyddwyr, gallech gynnal arolwg byr i roi cipolwg gwell i chi ar anghenion defnyddwyr.

Gellir gwneud hyn trwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich sefydliad, tanysgrifwyr e-bost neu ddigwyddiadau mae eich cwmni’n eu cynnal.

Mae dull cyffredin i’w ddefnyddio hefyd os yw eich cynulleidfa’n fewnol.

Dyma rai ffyrdd o gynnal eich ymchwil sylfaenol eich hunain:

  • Mae pleidleisiau’n cynnig ffordd gyflym o gael cipolwg gan eich cynulleidfa, ac mae pleidleisiau Twitter yn ffordd boblogaidd o gael data sylfaenol.
  • Mae arolygon yn rhoi rhagor o ffyrdd i chi gasglu data, o flychau testun rhydd i gwestiynau amlddewis – mae meddalwedd gyffredin a ddefnyddir yn cynnwys Survey Monkey neu ffurflenni Google.
  • Mae gan y feddalwedd rhad ac am ddim ar y we, Slido, amrywiaeth o ffyrdd o gasglu mewnwelediad defnyddwyr, gan gynnwys pleidleisiau, pleidleisiau math word cloud, neu adborth testun rhydd uniongyrchol.

Peidiwch byth â defnyddio un ffynhonnell ddata yn unig

Mae hen ddywediad sy’n dweud “mae dwy ochr i’r ddalen”, ac mae’r un peth yn wir am unrhyw ddata a gesglir. P’un ai data ansoddol neu feintiol yw hyn, mae bob amser rhagor o wybodaeth i’w chael. Ystyriwch pob darn o ddata fel pos jig-so, nid oes angen iddo fod yn gyflawn er mwyn gweld y darlun, ond mae angen mwy nag un darn er mwyn ei ddeall!

Enghraifft fyddai defnyddio cyfraddau bownsio i lywio prosesau gwneud penderfyniadau. Gallant ddangos bod dyluniad y dudalen yn wych, lle gallai’r cwsmer gael popeth o un dudalen cyn mynd oddi ar y safle… neu gallant ddangos bod unigolyn wedi dod i’r dudalen anghywir ac wedi gadael cyn gynted ag sy’n bosibl. Bydd defnyddio data arall i lunio naratif yn eich helpu i ddysgu pa un o’r rhain sy’n gywir.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *