Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru o gymharu â Strategaethau Digidol Awdurdodau Lleol
Mae strategaeth ddigidol newydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar atebolrwydd, arweiniad a chyflawni.
Mae hyn i sicrhau bod holl drigolion Cymru, gan gynnwys ei gweithluoedd, yn cael profiadau effeithlon a chadarn o’r radd flaenaf wrth ddefnyddio gwasanaethau llywodraeth leol ar draws Cymru, ble bynnag y maen nhw. Ar y llaw arall, mae cynghorau llywodraeth leol yn dibynnu ar strategaeth ddigidol gyffredinol Cymru i greu isadeiledd digidol ymarferol ar gyfer e.e. rhwydwaith 5G, cartrefi, llecynnau wi-fi, pwyntiau gwefru ceir trydan, ac ati, a fydd yn sail i strategaethau unigol llywodraeth leol.
Yn y blog hwn, byddaf yn tynnu sylw at y tebygolrwydd a’r gwahaniaethau rhwng strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru a strategaethau digidol unigol llywodraeth leol ar draws Cymru.
Strategaeth Ddigidol Cymru o gymharu â Strategaethau Llywodraeth Leol
Mae gan Strategaeth Ddigidol Cymru bum pwynt i gefnogi ei gweledigaeth, gan gynnwys ei huchelgeisiau cysylltiedig. Isod mae’r tebygolrwydd a’r gwahaniaethau o gymharu â strategaethau unigol llywodraeth leol.
Gwasanaethau Digidol
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n gweithio ar ddatblygu platfformau ar-lein (Fy Nghyfrif) o wybodaeth am wasanaethau, adnoddau adrodd a thrafodion arferol sy’n hawdd eu defnyddio gydag un broses fewngofnodi. Mae hyn yn rhoi profiad di-dor, awtomataidd, o’r cychwyn i’r diwedd sy’n annog ac yn cefnogi annibyniaeth a chyfleustra. Er enghraifft, blaenoriaeth Merthyr Tudful yw sicrhau bod cwsmeriaid yn dewis prosesau digidol yn gyntaf. Mae gan Gaerffili ar y llaw arall lawer o ddata am ddefnydd digidol eu trigolion ac maent am annog a hyrwyddo gwasanaethau ar-lein.
Mae awdurdodau lleol yn awyddus i ganolbwyntio ar ddatrysiadau digidol hawdd eu defnyddio a dibynadwy sy’n galluogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau 24/7 yn unol â Strategaeth Cymru sy’n ceisio cael pob gwasanaeth sy’n gallu bod ar-lein i fod ar gael ar-lein. Mae hyn yn rhan o fatrics cymhleth i sicrhau bod sianeli oddi-ar-lein yn parhau i fod ar gael lle mae cwsmeriaid angen hynny. Bydd pobl sy’n defnyddio gwasanaethau llywodraeth leol yn dewis defnyddio gwasanaethau digidol, a fydd yn golygu mwy o drafodion hunanwasanaeth rhwng trigolion a’r llywodraeth sy’n rhyddhau staff y rheng flaen i ddarparu gwasanaethau mwy personol, trylwyr oddi-ar-lein.
Mae strategaethau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cydnabod gwerth gwasanaethau ar-lein sy’n gallu cael eu cwblhau’n llwyddiannus, y tro cyntaf, heb gymorth. Mae hyn yn cynnwys y gallu i ymwneud â phrosesau democrataidd ar-lein a derbyn hysbysiadau am wasanaethau a phenderfyniadau democrataidd sy’n berthnasol iddyn nhw.
Mae Strategaeth Ddigidol Cymru’n bwriadu gweithio gyda busnesau i ddatblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu Technoleg yr Iaith Gymraeg, gan greu rhannau sy’n gallu cael eu defnyddio am ddim gan bawb ac ychwanegu at brofiad defnyddwyr dwyieithog hefyd, a meithrin arferion dwyieithrwydd da mewn sefydliadau. Nid yw’r duedd hon yn gyffredin iawn mewn awdurdodau lleol ond mae sôn amdani yng Nghasnewydd, Ceredigion a Phen-y-bont ar Ogwr.

Economi Ddigidol
Mae sawl awdurdod lleol wedi dynodi’r angen i hyrwyddo twf economaidd a gwella ansawdd bywyd yng Nghymru. Er mwyn cyflawni’r uchelgais hwn, mae’n rhaid i drawsnewid digidol fod yn rhan sylweddol o’r fenter. Er enghraifft, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cydnabod bod angen band eang cyflym iawn i greu economi lewyrchus ac uchelgeisiol. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws darparu wi-fi cyhoeddus, cefnogi isadeiledd TG mewn ysgolion, swyddfeydd a busnesau ar draws y Cyngor ac yn bwysicach na dim, cefnogi eu nod ‘cwmwl yn gyntaf’.
Mae strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru wedi nodi bod angen hyrwyddo Fframwaith TGCh a phlatfform eGaffael i gefnogi’r economi a diwallu anghenion sector cyhoeddus Cymru. Ar y llaw arall, nid yw hyn wedi’i grybwyll ym mhob un o strategaethau digidol llywodraeth leol.

Gallu Digidol
Mae’r awdurdodau lleol sydd wedi amlinellu blaenoriaeth ac uchelgais i ddatblygu gallu digidol wedi dweud y bydd hyn yn hwyluso ac yn ategu gwaith i gyflawni strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru.
Er enghraifft, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi nodi y bydd galluogi ei weithlu a’i drigolion i fod yn effeithlon ac yn effeithiol wrth ddefnyddio technolegau digidol yn galluogi darparu gwasanaethau ar-lein yn well. Mae hyn yn cyd-fynd â strategaeth ddigidol Cymru sy’n canolbwyntio ar adeiladu fframwaith digidol sy’n annog rhannu gwybodaeth, technoleg ‘cwmwl yn gyntaf’ a hyfforddi’r gweithlu a thrigolion mewn sgiliau digidol a fydd yn cynorthwyo twf digidol ar draws Cymru.

Cynhwysiant Digidol
Mae Strategaeth Ddigidol Cymru’n ceisio darparu gwasanaethau cyhoeddus sydd ar gael i bawb. Bydd cynhwysiant digidol yn rhan o bob datblygiad polisi ac mae’n rhaid ymgorffori hygyrchedd ym mhrosesau dylunio gwasanaeth o’r cychwyn. Bydd gwasanaethau cynhwysol, hawdd eu defnyddio’n galluogi pawb i ddefnyddio gwasanaethau llywodraeth leol.
Mae rhai o’r cynghorau (fel Blaenau Gwent a Phowys) yn gweithio i sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn gwasanaeth o’r un lefel ar-lein ac oddi-ar-lein. Mae awdurdodau eraill, fel Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Benfro, wedi canolbwyntio ar y platfformau i sicrhau bod dewis wrth ddefnyddio gwasanaethau. Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi penderfynu blaenoriaethu gwasanaethau ar-lein gan fod gwell cysylltiad yn y ddinas a chanolbwyntio ar hyfforddiant a chefnogaeth i bobl ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.
Mae consensws cyffredinol ymysg holl awdurdodau lleol Cymru o weithio i sicrhau bod pob dinesydd yn derbyn mathau tebyg o wasanaethau, ble bynnag y maent, i sicrhau bod gwasanaethau’n gyson.

Cydweithio
Mae strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar chwilio am gyfleoedd i gydweithio gyda phartneriaid ar fentrau digidol, gan gynnwys data a gwybodaeth. Yn yr un modd, mae awdurdodau lleol Cymru’n canolbwyntio ar rannu data i leihau sawl gwaith mae cwsmeriaid yn gorfod gwneud yr un pethau a sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn gwasanaethau tebyg.

Casgliad
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru’n cydnabod y cyfleoedd sy’n dod yn sgil buddsoddi yn y maes digidol i annog twf economaidd a chynnig gwasanaethau effeithlon o safon.
Ychydig iawn o wahaniaethau sydd rhwng strategaeth ddigidol newydd Llywodraeth Cymru a strategaethau digidol unigol llywodraeth leol ar adeg ysgrifennu hwn. Yr agweddau sydd ar goll a allai alluogi mwy o gydweithio a gwell gwerth yw’r amserlenni darparu a dull ar y cyd.
Gadael Ymateb