Newydd i Brofi Defnyddioldeb: Cwestiynau ac Atebion gyda Rachel Sollis

Newydd i Brofi Defnyddioldeb: Cwestiynau ac Atebion gyda Rachel Sollis

Newydd i Brofi Defnyddioldeb: Cwestiynau ac Atebion gyda Rachel Sollis

Mae Rachel Sollis, Dylunydd Digidol yng Nghyngor Sir Fynwy, wedi cymryd rhan mewn gweithdy diweddar a drefnwyd gennym ni, y tîm digidol llywodraeth leol, yn canolbwyntio ar allu cynnal profion defnyddioldeb i werthuso gwasanaethau a phrototeipiau presennol.  

Mae profi defnyddioldeb, fel y diffiniwyd gan Stephanie Marsh, yn fethodoleg a ddefnyddir yn gyffredin, ble mae ymchwilydd yn arsylwi defnyddwyr sy’n gweithio ar weithgareddau am wasanaeth i ddynodi ble mae problemau’n codi. 

Mae’r blog hwn yn sesiwn Cwestiynau ac Atebion gyda Rachel, ble mae’n disgrifio ei phrofiad o safoni prawf defnyddioldeb am y tro cyntaf, rhai o’i darganfyddiadau a pha mor ddefnyddiol ydoedd. 

Cwestiynau ac Atebion

Sut oedd y profiad o safoni prawf defnyddioldeb?

Roedd yn brofiad newydd i mi.

Roedd yr awydd i lenwi’r distawrwydd yn anodd ei oresgyn, er mwyn gadael i’r defnyddiwr lywio ei lwybr ei hun drwy’r rhaglen. Hefyd, gan fy mod wedi ei adeiladu fy hun, roedd gen i ddiddordeb mawr ynddo; roedd yn anodd dal yn ôl rhag egluro i’r defnyddiwr beth oedd yn digwydd ar adegau.

Ond wrth i’r sesiwn fynd rhagddi, roedd yn haws, ac anogais y defnyddiwr i siarad drwy eu meddyliau am y broses a chefais adborth gwych.

Pa ganlyniadau a gawsoch o’r sesiwn profi defnyddioldeb?

Roedd yn sesiwn bositif iawn, er bod meysydd pendant y gallwn wella arnynt. Y tro nesaf, byddaf yn eistedd yn y distawrwydd ac yn gwrthsefyll yr awydd i ymyrryd. Amlygodd y defnyddiwr ychydig o bethau, ac es yn ôl i’r maes gwasanaeth gyda nhw a gwneud newidiadau’n seiliedig ar hyn i wella taith y defnyddiwr. Gwelais ychydig o bethau nad oedd yn gweithio mor llyfn â’r disgwyl hefyd, ac fe wnes i eu haddasu.

A oedd y prawf defnyddioldeb o fudd i’ch prosiect?

Defnyddiol iawn, rwyf i a’r tîm rwy’n datblygu’r ap iddynt yn llwyr ymwybodol o’r broses a sut rydym yn disgwyl iddo weithio. Drwy brofi gyda defnyddiwr gwrthrychol, cefais gipolwg da iawn ar ba mor gyfeillgar ydyw i’r defnyddiwr, pan fo defnyddiwr yn mynd ato heb wybodaeth flaenorol.

Sut mae dyfodol profi defnyddioldeb yn edrych i Gyngor Sir Fynwy?

Mae’n bendant yn rhywbeth mae fy nhîm yn ei wneud yn fwy rheolaidd ac mae’n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am y datrysiadau rydym yn eu darparu i gydweithwyr a’r cyhoedd.  Rydym yn gweithio’n galed i ymgorffori egwyddorion Dyluniad sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr ac mae profi defnyddioldeb yn rhan bwysig o hyn.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n meddwl am gynnal rownd o brofion defnyddioldeb am y tro cyntaf?

Gwnewch i’r defnyddiwr deimlo’n gyfforddus, a’u hannog i rannu eu meddyliau. Yn bwysicaf oll, rhowch gynnig arni a gwneud eich gorau, byddwch yn dysgu wrth fynd. Os gallwch chi, ceisiwch ddod yn gyfforddus â distawrwydd, fel eich bod yn cael yr adborth mwyaf gonest gan y defnyddiwr.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *