Egwyddorion Darbwyllo: Ymrwymiad a Chysondeb

Egwyddorion Darbwyllo: Ymrwymiad a Chysondeb

Yn ei lyfr Influence: The Psychology of Persuasion, mae Robert Cialdini yn disgrifio 6 egwyddor perswâd.

Gellir defnyddio’r egwyddorion hyn i annog dinasyddion i ymddygiad sydd o fudd iddynt. Bydd y blog hwn yn trafod yr egwyddor Ymrwymiad a Chysondeb 

Cyflwyniad i Ymrwymiad a Chysondeb

Wrth i weddillion conffeti’r Flwyddyn Newydd gael eu sgubo oddi ar y llawr, mae’r addunedau’n dechrau. Fodd bynnag, ar ôl cyfnod annifyr o fyr, mae’r campfeydd yn tawelu, ceisiadau am swyddi newydd yn lleihau ac rydym yn dechrau gwario arian ar bethau nad ydym eu hangen eto. 

Yr egwyddor Ymrwymiad a Chysondeb yw’r ffordd i chwalu’r patrwm hwn. Ymrwymiad a Chysondeb yw darganfod bod pobl yn gwneud cymaint â phosibl i ymddangos yn gyson o ran eu geiriau a’u gweithredoedd (Lindquist, 2015). 

Profodd Thomas Moriarty, seicolegydd, y ffenomen hon yn 1975. Rhoddodd Moriarty radio ar flanced ar y traeth a gadawodd y traeth. Yna trefnodd Moriarty bod y radio’n cael ei dwyn. 

Cyn gadael y radio, gwnaeth Moriarty ddau beth gwahanol. Mewn un gyfres o ddigwyddiadau, cafodd sgwrs hamddenol â’r bobl nesaf ato, gan bwysleisio ei fod ar ei ben ei hun. Yn yr achosion nesaf, gofynnodd yn benodol i’r bobl nesaf ato ofalu am ei bethau. Canfu Moriarty, pan ofynnodd i bobl ofalu am ei bethau, y byddent yn ymyrryd â’r lladrad 95% o’r amser, o’i gymharu â 20% o’r amser os nad oedd wedi gofyn yn benodol (Moriarty, 1975). 

Mae hyn oherwydd ymrwymiad cymdeithasol pobl i wylio eiddo Moriarty. Roedd pobl eisiau cael eu gweld yn gweithredu’n gyson â’u hymrwymiad 

Os oes arnoch eisiau cadw at eich Addunedau Blwyddyn Newydd, dywedwch wrth rywun y byddwch yn gwneud. 

Sut mae hyn wedi’i ddefnyddio?

Mae llawer o sefydliadau’n defnyddio ‘treialon am ddim’ i gael dylanwad ar yr egwyddor Ymrwymiad a Chysondeb. Er enghraifft, mae Spotify yn cynnig treial am ddim am fis i ddefnyddwyr newydd. Mae Spotify yn gwybod, drwy alluogi defnyddwyr i fuddsoddi mis o’u hamser yn ffrydio cerddoriaeth ar eu platfform, yn cynnwys adeiladu rhestrau chwarae personol, y byddant yn llawer mwy tebygol o barhau â’r gwasanaeth.    

Mae cynnig cymhelliad, fel treial am ddim, neu ffordd hawdd o gael mynediad at y gwasanaeth ymlaen llaw, yn allweddol i gael yr ymrwymiad hwnnw. Unwaith mae pobl wedi ymrwymo i ddefnyddio’r gwasanaeth, maent yn teimlo bod angen bod yn gyson yn eu gweithredoedd. 

Sut mae modd ei defnyddio’n ddigidol?

Defnyddir Ymrwymiad a Chysondeb yn rheolaidd gan wefannau i’ch annog i gofrestru eich aelodaeth. 

Cymerwch ein bod yn defnyddio llif gwaith Tripadvisor fel enghraifft. Mae Tripadvisor yn cynnig ymrwymiad cychwynnol i’w ymwelwyr, heb fawr ddim yn y fantol ac mae’n hawdd ei wneud, sy’n hanfodol i’r egwyddor ymrwymiad (Fessenden, 2018). Y cynnig hwn yw ysgrifennu adolygiad. Mae hyn yn ymddangos yn syml, ond pan fydd yr ymwelydd yn dechrau teipio, mae neges yn ymddangos yn egluro bod arnynt angen ysgrifennu 100 nod o leiaf. Pan fyddant wedi gorffen, fe’u hanogir i ddewis cyflwyno eu hadolygiad, a dyna pryd y gofynnir iddynt greu cyfrif i symud ymlaen.

Oherwydd bod yr ymwelydd wedi ymrwymo i’r adolygiad hwn drwy ymweld â gwefan Tripadvisor ac ysgrifennu’r adolygiad, ac oherwydd nad ydynt am golli’r data maent wedi treulio amser yn ei gyflwyno, maent yn cofrestru ar gyfer cyfrif ac yn ei gyflwyno. Wedyn, mae Tripadvisor yn annog yr ymwelydd i ysgrifennu adolygiad arall, a chan eu bod bellach yn aelod, mae’r ymwelydd yn gwybod ei fod yn hawdd ei wneud (Tripadvisor, 2022). 

Bod yn ofalus

Mae’r egwyddor Ymrwymiad a Chysondeb yn gweithio mor dda oherwydd bod bodau dynol yn ystyried cysondeb yn nodwedd gymdeithasol gadarnhaol, felly maent yn ymdrechu i fod yn gyson. Fodd bynnag, gall hyn fod yn negyddol hefyd. Gall pobl wneud penderfyniadau trychinebus oherwydd eu bod eisiau cael eu gweld fel rhywun cyson. 

Mae’r camsyniad cost suddedig yn amlygu hyn. Mae cost suddedig yn derm sy’n deillio o economeg ac mae’n disgrifio arian sydd wedi cael ei wario ac na ellir ei adennill. Pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau, mae economegwyr yn cynghori ein bod yn anwybyddu costau suddedig. Fodd bynnag, oherwydd ein bod eisiau cael ein gweld yn bod yn gyson yn ein gweithredoedd, rydym yn parhau â buddsoddiadau sy’n methu oherwydd ein bod eisoes wedi ymrwymo arian iddynt (Decision Lab, 2022). 

Er enghraifft, bydd llawer ohonom yn gwybod am y profiad o archebu llawer gormod o fwyd mewn bwyty, ond yn parhau i’w fwyta i gyd am ein bod wedi talu amdano. Yna, yn anochel, byddwn yn gadael y bwyty yn teimlo’n sâl ac yn llawn dop. Swnio’n gyfarwydd? Dyma yw camsyniad cost suddedig.

Mae arnom angen bod yn wyliadwrus o’n hymrwymiad i fod yn gyson fel nad ydym yn gwastraffu amser ac adnoddau ar brosiectau nad ydynt yn mynd i weithio

Sut mae hyn yn helpu awdurdodau lleol Cymru?

Gall awdurdodau lleol wneud yn siŵr nad ydynt yn cael eu cyfareddu gan yr egwyddor Ymrwymiad a Chysondeb drwy fod yn gyfforddus â methu. Bydd bod yn gyfforddus â methu yn atal prosiectau rhag ildio i’r camsyniad cost suddedig. 

Mae darparu hyblyg yn croesawu hyn drwy ymgorffori ‘methu’n gyflym’ yn ei fethodoleg. Mae methu’n gyflym yn ymwneud â chasglu adborth yn gyflym ac yn aml i benderfynu a ddylid parhau i weithio ar brosiect, neu i gymryd agwedd wahanol (Salimi, 2022). Drwy werthuso cynnydd a dichonoldeb prosiect yn gyson, bydd yn gwarchod sefydliadau rhag cael eu cyfareddu â’r egwyddor Ymrwymiad a Chysondeb.

Sut ydych chi’n credu y gall Ymrwymiad a Chysondeb helpu dinasyddion neu awdurdodau lleol? Rhowch wybod i ni yn y sylwadau. 

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *