Diffinio Digidol
Ers ymuno â Thîm Digidol Llywodraeth Leol ychydig fisoedd yn ôl, rydw i wedi sylwi fod cydweithwyr ar draws awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn cyfeirio at ddigidol mewn gwahanol ffyrdd. Rydw i wedi sylwi fod ‘digidol’ yn cael ei ddefnyddio’n gydgyfnewidiol gyda TG. Roeddwn am dreulio ychydig o amser i rannu’r gwahaniaethau gyda chi, ac egluro pam na fyddech am fy ngweld i yn ceisio trwsio caledwedd gwallus mewn ysgol!
Yn y blog yma byddaf yn ceisio diffinio beth yw digidol ac egluro’r llinellau aneglur rhwng digidol a TG.
Diffinio Digidol
Mae digidol yn canolbwyntio ar bobl. Yn ei ffurf symlaf, mae’n golygu adnabod anghenion unigolyn nad ydynt wedi eu diwallu, er mwyn creu gwerth i’r person hwnnw.
Mae’n bwysig diffinio beth a ystyrir gan ‘anghenion’ yn y diffiniad uchod. Gall hyn fod yn gymhleth, hyd yn oed i weithwyr digidol proffesiynol. Anghenion defnyddiwr / pobl / person / unigolyn yw’r dasg neu’r gweithgaredd maent yn ceisio’i gwblhau, nid y cynnyrch neu’r gwasanaeth maent yn ei ddefnyddio i’w gwblhau.
Dydy pobl ddim yn ffyddlon i gynnyrch neu wasanaeth, mae nhw’n ffyddlon i’r dasg y mae’r cynnyrch neu’r gwasanaeth yn eu helpu i’w wneud.
Mae cerddoriaeth yn ffordd dda o egluro’r pwynt hwn.
Pan oeddwn i’n tyfu i fyny roedd gen i bentwr o CDs yn fy ystafell wely, fy hoff un oedd ‘Performance and Cocktails’ gan Stereophonics gan mai ‘c’est la vie’ oedd fy hoff gân. Nid oherwydd fy mod i eisiau disgiau plastig llachar o gwmpas y lle oedd y CDs hynny yn fy ystafell. Roedden nhw yn fy ystafell gan eu bod yn cyflawni tasg, sef yn fy ngalluogi i wrando ar c’est la vie. Dydw i ddim yn defnyddio unrhyw CDs bellach, dwi’n ffrydio cerddoriaeth o’r cwmwl ar fy ffôn. Roedd CDs a ffrydio o’r cwmwl yn fy ngalluogi i gyflawni’r un peth sef mwynhau cerddoriaeth, ond does dim rhaid i fi gael disgiau caled i ffrydio o’r cwmwl, na chysylltu chwaraewr CDs a phlwg yn y wal, na threulio amser ychwanegol yn mynd allan i brynu rhywbeth, sydd yn ei wneud yn well. Yn yr enghraifft hon, mae ffrydio o’r cwmwl wedi diwallu fy anghenion, rhai yr oeddwn yn ymwybodol ohonynt a rhai nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt, ac wedi diwallu’r anghenion hynny mewn ffordd well nag a allai CDs byth ei wneud. Dyna yw digidol yn ei hanfod.
Gan fod anghenion wedi eu diffinio bellach, rydw i’n mynd i egluro sut rydym ni fel tîm digidol ar gyfer llywodraeth leol, yn nodi anghenion dinasyddion Cymru ac yna’n cynllunio datrysiadau er mwyn mynd i’r afael â nhw.
Ein dull, sy’n un o dri prif thema yn ein strategaeth, yw dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl. Mae Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl yn broses sy’n cychwyn gyda’r person rydym yn creu’r datrysiad ar eu cyfer, a byddwn yn ymgysylltu â nhw’n gyson ar wahanol gamau o’r daith, gan sicrhau fod y datrysiad rydym
- Diffinio’r cwsmer. Gall cwsmeriaid amrywiol fod ag anghenion gwahanol iawn i’w gilydd. Mae hyn yn arferol i ni, a’n cwsmeriaid fel arfer yw dinasyddion ac awdurdodau lleol
- Dangos empathi tuag at gwsmeriaid. Deall yn iawn beth yw anghenion y cwsmeriaid. I wneud hyn, byddem yn cynnal ymchwil defnyddwyr drwy amrywiol ddulliau fel grwpiau ffocws, cyfweliadau, ymchwil pen desg er enghraifft.
- Diffinio’r angen. Mynegi’r angen sydd heb ei ddiwallu mewn ffordd sy’n annog creadigrwydd o ran sut gellir mynd i’r afael ag ef. Mae hyn yn golygu osgoi datrysiadau. Er enghraifft, yr angen yw fod y cwsmer eisiau gwrando ar c’est la vie gyda llai o rwystrau. Nid, mae’r cwsmer angen chwaraewr CDs di-wifr.
- Cynnal dadansoddiad o gystadleuwyr. A oes datrysiadau ar gael eisoes sy’n datrys yr angen sydd heb ei ddiwallu Os felly, bydd angen cynnal asesiad o’r datrysiad, er enghraifft, sut enw sydd gan y cwmni, a yw’r datrysiadau yn fforddiadwy ac yn gynhwysol.
- Syniadaeth. Dyma hoff ran y broses i’r rhan fwyaf o ymarferwyr digidol. Mae’r cam syniadaeth yn golygu cyfarfod gyda’r tîm prosiect i gyd, cyflwyno’r broblem neu’r angen sydd newydd ei ddiffinio, ac yna cynnig syniadau i fynd i’r afael â’r angen. Dylid croesawu ac adeiladu ar yr holl syniadau a geir ar y cam hwn.
- Prototeip. Bydd y angen creu prototeip o’r datrysiad a ddewisir a’i brofi gyda chwsmeriaid eraill. Dyma lle byddwn yn profi a ydym yn dylunio datrysiad a ddyhëir, os nad ydym, bydd rhaid i ni fynd yn ôl i’r cam ymchwil defnyddwyr.
- Profi ac Iteru. Wrth ddatblygu’r datrysiad, byddwn yn parhau i fynd yn ôl at ddefnyddwyr i ddeall unrhyw anghenion nad ydym yn mynd i’r afael â nhw, a pha mor hawdd i’w ddefnyddio yw ein datrysiad. Dyma gyfle i barhau i wella’r datrysiad er mwyn ei wneud i weithio yn y ffordd orau bosib ar gyfer y dasg.
- Mynd yn Fyw. Unwaith mae’r gwasanaeth neu’r datrysiad wedi mynd yn fyw bydd llawer o sefydliadau yn stopio ei fonitro. Ond nid dyna ddylai tîm digidol ei wneud. Dylai’r tîm asesu yn rheolaidd pa mor llwyddiannus yw’r datrysiad gyda mesurau meintiol ac ansoddol, er mwyn sicrhau fod y datrysiad yn parhau’n addas i’r diben.
Gobeithiaf y byddwch yn yr 8 cam yna wedi sylwi sawl gwaith y soniais am y cwsmer. Dyna beth yw digidol, fel y soniais eisoes, mae pobl yn ganolog i’r digidol.
Definition of Digital in IT
Mae TG (Technoleg Gwybodaeth) yn cyfeirio at unrhyw beth sy’n ymwneud â thechnoleg, fel rhwydweithio, caledwedd, meddalwedd, y we, neu’r bobl sy’n gweithio gyda’r technolegau yma.
Mae TG yn rhan hanfodol o bob sefydliad gan ei fod yn cefnogi pob gwasanaeth, cyfathrebu, neu weithred sefydliadol. Os ydych yn ystyried yr holl droeon rydych wedi defnyddio technoleg heddiw, bydd yr holl droeon hynny wedi eu cefnogi gan dîm TG o fewn sefydliad. O safbwynt Awdurdodau Lleol, mae timau TG yn ofnadwy o bwysig gan eu bod yn cefnogi seilwaith dechnolegol sefydliadau fel ysgolion, neuaddau tref, canolfannau gwasanaethau cymdeithasol ac yn y blaen, yn ogystal â chefnogi seilwaith dechnolegol eu sefydliad eu hunain.
Mae TG yn galluogi datrysiadau digidol. Dyma’r gwahaniaeth rhwng y ddau. Gall timau digidol gynllunio’r datrysiadau gorau yn y byd, ond os nad oes ganddynt dîm TG i gefnogi’r weledigaeth honno, ni ddaw dim o’r peth. Yn yr un modd, gall timau TG weithredu’r llwyfannau a’r systemau gorau, ond heb dîm digidol i ddylunio datrysiad i ddefnyddwyr, dim ond system ydy hi.
Digidol yn erbyn TG
I grynhoi, mae timau Digidol a TG yn cydweithio’n agos. Fodd bynnag, maent yn dimau gwahanol iawn sy’n perfformio rolau gwahanol iawn. Mae timau TG yn cefnogi camau gweithredu sefydliadol, maent yn alluogwyr, tra bod timau Digidol yn canolbwyntio ar bobl, dylunwyr ydyn nhw.
Gadael Ymateb