Cyfranogiad dinasyddion – beth mae’r data yn ei ddweud wrthym?

Cyfranogiad dinasyddion – beth mae’r data yn ei ddweud wrthym?

Pan gyhoeddwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2015, nodwyd bod cyfranogiad dinasyddion drwy “roi cyfleoedd cyfartal i bobl gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau, i alluogi canlyniadau cyfartal” yn elfen allweddol tuag at gyflawni’r nod o greu Cymru sy’n fwy cyfartal. Ond, mae’r adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru, ‘Yn ôl eich Doethineb’, yn cydnabod bod “grŵp cynyddol o ddinasyddion a threthdalwyr y cyngor nad ydynt yn derbyn yn uniongyrchol, nac yn teimlo eu bod yn elwa, o waith eu cyngor. Mae hyn yn gosod her wirioneddol i gynghorau yn y dyfodol – parhau i fod yn berthnasol i’w holl ddinasyddion.”

A oes digon yn cael ei wneud i gefnogi dinasyddion i gyfrannu at ddemocratiaeth leol a dylanwadu ar y penderfyniadau sy’n cael effaith arnynt? Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru’n dangos mai dim ond 19% o ddinasyddion Cymru oedd yn teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n cael effaith ar eu hardal leol yn 2018-19, sef gostyngiad o 24% ers 2013/14, pan nododd 25% o ddinasyddion eu bod yn teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n cael effaith ar eu hardal leol. Ac yn 2019/20, dim ond 14% o ddinasyddion Cymru oedd yn teimlo eu bod yn cael cyfle i gymryd rhan ym mhenderfyniadau’r awdurdod lleol.

Mae’r data’n dweud wrthym nad ydym yn cyflawni nod y Ddeddf Lles o “Gymru sy’n fwy cyfartal” drwy gyfranogiad gwell gan ddinasyddion. Mae angen cynyddol felly i ddod o hyd i ffyrdd gwell o alluogi dinasyddion Cymraeg i ddefnyddio eu llais i ddylanwadu ar benderfyniadau yng Nghymru, oherwydd, wrth i amser fynd heibio, mae dinasyddion yn teimlo eu bod wedi’u difreinio a’u bod yn colli cysylltiad â gwaith eu cynghorau, a hynny’n fwy nag erioed o’r blaen.

Onid yw bellach yn ddyletswydd ar lywodraeth leol yng Nghymru i ystyried ffyrdd o ddatblygu a gwella sianeli digidol er mwyn rhoi cyfle i ddinasyddion a’u hawdurdodau lleol gyfathrebu â’i gilydd?Drwy wneud hyn, nid yn unig y byddwn yn gallu helpu dinasyddion i gael rhagor o fewnbwn ar benderfyniadau lleol, ond byddwn hefyd yn gallu helpu i wella’r ymdeimlad cyffredinol o les diwylliannol. Rwy’n teimlo’n gryf am y maes hwn ac mae gennyf ddiddordeb mewn archwilio hyn ymhellach dros y flwyddyn nesaf, yn arbennig o ystyried y gallai ymchwil defnyddwyr helpu i gryfhau’r berthynas rhwng cynghorau, cynghorwyr a dinasyddion.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *