Creu Prototeip
Os oes gennych syniad am ddatrysiad, efallai mai prototeip fyddai’r ffordd gyflymaf a rhwyddaf tuag at brofi defnyddioldeb. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth weithio ar broblem newydd, heb gynnyrch neu wasanaeth presennol, ac yn anodd deall anghenion y defnyddiwr yn iawn, neu’r heriau o ran darparu.
Rhan bwysicaf unrhyw brototeip yw bod angen iddo ymddangos yn wir. Wrth gwrs, nid yw’n wir, ond mae’n rhaid iddo edrych a gweithredu fel ei fod. Mae hyn yn ein helpu i gasglu adborth y gellir ei weithredu, a defnyddiol gan ddefnyddwyr. Os nad yw’n ymddangos yn wir, bydd defnyddwyr yn llai tebygol o ryngweithio ag o yn y ffordd yr hoffwn neu ei ddisgwyl, gan olygu bydd gan unrhyw adborth neu ddata a gasglwyd lai o werth.
4 rheol ar gyfer creu prototeip
1. Gall unrhyw beth gael ei greu yn brototeip
Gallwch droi unrhyw beth yn brototeip.
O becyn grawnfwyd, i gynnwys ar y we. Gallwch greu prototeip o wasanaeth drwy naratif hyd yn oed.
Defnyddiwch eich dychymyg, a byddwch yn greadigol.
2. Mae’n rhwydd gwaredu ar brototeip
Dechreuwch gyda’r meddylfryd, bydd y gwaith yn cael ei waredu.
Mae prototeip yn cael ei greu i ddysgu am beth sy’n gweithio, neu ddim yn gweithio. Mae gwerth mewn canfod y ddau beth.
Peidiwch â gadael i brototeip fod yn unrhyw beth mwy na thafladwy.
3. Adeiladu digon yn unig
Cadwch brototeip ar y trywydd o beth sydd ei angen i ateb cwestiynau’n unig.
Nid oes angen i chi greu popeth yn fanwl neu bopeth â swyddogaeth, mae angen rhywbeth anwir, sy’n edrych yn wir, y gall cwsmeriaid a budd-ddeiliad gredu sy’n wir.
4. Cadw pethau’n wir
Os nad yw’r prototeip yn teimlo’n wir wrth brofi, yna ni fyddwch yn cael atebion gonest i’ch cwestiynau.
Mae prototeip realistig a chredadwy yn cynnig canlyniadau dibynadwy.
Sut i greu prototeip
Pryd i greu prototeip
Gallwch greu prototeip pan nad yw’n glir beth yw’r gofynion, neu os ydynt yn newid yn gyflym.
Gallwch hefyd greu prototeip pan mae gennych syniad, ond dim cyllideb, neu amser byr iawn i gwblhau canfyddiad. Mae prototeip yn cael ei ddefnyddio’n eang i brofi syniadau yn ystod cyfnod alffa prosiect hefyd.
Os oes arnoch angen atebion, a hoffech ddealltwriaeth o sut gall rhywbeth weithio yn y byd go iawn, gall creu prototeip helpu.
Adnoddau ar gyfer creu prototeip
Adnoddau digidol
Os yw ar sgrin (gwefan neu feddalwedd er enghraifft(, defnyddiwch adnoddau megis Keynote, PowerPoint, Canva neu becyn adeiladu gwefannau megis Squarespace neu Marvel.
Mae adnoddau am ddim ar-lein hefyd, megis WIX neu WordPress. Mae’r adnoddau hyn yn wych ar gyfer creu prototeip cyflym, a phrofi porwr.
Os ydych chi’n gwybod sut mae codio, neu fod gennych sgiliau datblygu, efallai byddwch yn dymuno creu prototeipiau mewn cod.
Cynnyrch ar bapur
Ar gyfer unrhyw beth sydd ar bapur, defnyddiwch feddalwedd prosesu geiriau, megis Word neu Google Docs. Gallwch ddefnyddio Canva, meddalwedd dylunio neu adnodd cyflwyno hefyd. Argraffwch gynnyrch ar bapur bob tro i weld sut y byddai’n edrych yn ei faint (mae hyn yn arbennig o bwysig i wirio maint ffont).
Gall cynnyrch ar bapur gynnwys llythyrau, taflenni gwybodaeth, taflenni, adroddiadau neu ddeunydd marchnata.
Gwasanaethau
Os ydych chi’n gweithio ar wasanaeth, mae’n syniad da creu prototeip gyda sgript neu fwrdd darlunio sy’n dangos bob cam.
Gwrthrychau
Gallwch weithio gyda gwrthrychau corfforol neu ddefnyddio adnoddau digidol i greu prototeip marchnata ar gyfer cynnyrch.
Er enghraifft, os ydych chi’n gweithio ar ddyluniad swyddfa newydd, efallai byddwch yn canfod bod defnyddio modelau’n ddefnyddiol. Gallwch greu prototeip gyda lluniau o sut fydd y swyddfa’n edrych, a’i ddefnyddio i gasglu adborth.
Pan mae prototeipiau’n wrthrychau, efallai byddwch yn ei ganfod yn ddefnyddiol er mwyn addasu gwrthrych sydd eisoes yn bodoli. Rydym wedi canfod bod teganau plant megis lego neu glai, yn ddefnyddiol wrth greu’r mathau hyn o brototeipiau.
Camau tuag at greu prototeip
Wrth weithio gyda phrototeipiau, mae rhai gweithgareddau allweddol i’w cwblhau:
- Ymchwil:
Cynhaliwch waith ymchwil a chasglwch asedau megis cynnwys sydd eisoes yn bodoli, llyfrgell o luniau, neu enghreifftiau tebyg i helpu gyda siapio’r prototeip. - Creu:
Creu cydrannau, megis sgriniau, tudalennau neu ddyluniadau. - Gweu:
Sicrhewch fod y cydrannau’n ffitio gyda’i gilydd, a bod y naratif ar gyfer y prototeip yn llyfn o safbwynt defnyddiwr. Sicrhewch fod cysondeb drwyddi draw (mae unrhyw gamgymeriadau neu rannau ar goll yn atgoffa defnyddwyr eu bod yn edrych ar gynnyrch neu wasanaeth ffug). - Prawf:
Ysgrifennwch gwestiynau yr hoffech atebion iddynt, er mwyn deall a yw’r prototeip yn addas at y diben. Defnyddiwch y cwestiynau hyn i gynnal cyfweliadau am y prototeip. - Iteru:
Cwblhewch brawf, ac ewch drwy’r prototeip i ganfod a chywiro camgymeriadau, a datrys unrhyw broblemau.
Dysgwch ragor am greu prototeip
Cwrs: Design Thinking – The Beginner’s Guide: https://www.interaction-design.org/courses/design-thinking-the-beginner-s-guide
Bill Buxton, What Sketches (and Prototypes) Are and Are Not: https://www.cs.cmu.edu/~bam/uicourse/Buxton-SketchesPrototypes.pdf
d.school: Prototyping: https://dschool.stanford.edu/groups/k12/wiki/c0be1/Prototype.html
Gadael Ymateb