Profi Defnyddioldeb: Ein Gwefan

Profi Defnyddioldeb: Ein Gwefan

Pam?

Wrth ddatblygu ein gwefan newydd, roedd arnom ni, Tîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru, eisiau sicrhau ei bod yn hygyrch, yn naturiol, ac yn hawdd ei defnyddio ar gyfer pawb fydd yn archwilio’r safle. Er mwyn cyflawni hyn, penderfynwyd profi defnyddioldeb y wefan gyda darpar ddefnyddwyr. Rhoddodd y prawf defnyddioldeb gipolwg inni ar brofiad defnyddiwr ar y wefan yn ei ffurf bresennol, a bu’r prawf hefyd yn help inni ddeall sut y gellid gwella’r wefan.

Sut aethom ni ati?

Fe wnaethom ni gynnal tair rownd o brofion, gan ganiatáu digon o amser rhwng y rowndiau i’r newidiadau angenrheidiol gael eu gwneud. Cynhaliwyd tair rownd gan mai dyna faint a gymerodd hi inni gyrraedd ein targed. Roeddem yn bwriadu parhau i gynnal rowndiau profi tan nad oedd angen gwneud unrhyw newidiadau pellach. Byddwn yn profi’r wefan eto yn y dyfodol er mwyn sicrhau ei bod yn para’n hygyrch ac yn naturiol. 

Beth oedd yn digwydd ym mhob rownd?

Roedd pob rownd yn cynnwys 4 neu 5 cyfranogwr. Penderfynwyd peidio â chynnwys mwy o gyfranogwyr na hynny oherwydd bod deddf adenillion lleihaol yn berthnasol i ddefnyddwyr wrth ddefnyddio’r dull ymchwil hwn; po fwyaf o ddefnyddwyr a brofid ym mhob rownd, y lleiaf o fewnwelediadau newydd a geid gan bob defnyddiwr newydd. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymchwil Grŵp Nielsen Norman ynghylch profi defnyddioldeb.Profwyd pob cyfranogwr ar wahân ond gofynnwyd i bawb gwblhau’r un 5 gweithred. Sicrhawyd nad oedd y gweithredoedd yn rhai arweiniol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ymddygiad naturiol y cyfranogwyr. Er enghraifft, y weithred gyntaf oedd ‘agorwch y wefan’ er mwyn inni allu gweld pa mor hawdd y gellid dod o hyd i’r wefan, a beth oedd y defnyddwyr yn chwilio amdano. Pe baem wedi dweud ‘agorwch wefan Timau Digidol Llywodraeth Leol Cymru’ neu ‘gwglwch ein gwefan a’i hagor’, byddem yn arwain y cyfranogwr o ran beth fyddent wedi chwilio amdano neu sut y byddent wedi mynd ati i chwilio.Cyn i bob sesiwn ddechrau, cafodd pob cyfranogwr gyflwyniad i’r sesiwn. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau eu bod yn ymwybodol o bwrpas yr ymchwil, am ba mor hir y byddem yn dal ein gafael ar eu data, a fyddent yn cydsynio inni recordio’r sesiwn, a’u hawliau fel cyfranogwr. Ar ôl hynny fe ddechreuom ni egluro sut y byddai’r profi’n gweithio. Wrth wneud hynny, fe wnaethom ofyn iddynt rannu eu sgrin a siarad yn uchel am beth roeddent yn meddwl tra oeddent yn cwblhau’r gweithredoedd. Diben hyn oedd rhoi inni well syniad o beth roedd pob cyfranogwr yn disgwyl ei ganfod. hymchwil on usability testing. 

Profwyd pob cyfranogwr ar wahân ond gofynnwyd i bawb gwblhau’r un 5 gweithred. Sicrhawyd nad oedd y gweithredoedd yn rhai arweiniol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ymddygiad naturiol y cyfranogwyr. Er enghraifft, y weithred gyntaf oedd ‘agorwch y wefan’ er mwyn inni allu gweld pa mor hawdd y gellid dod o hyd i’r wefan, a beth oedd y defnyddwyr yn chwilio amdano. Pe baem wedi dweud ‘agorwch wefan Timau Digidol Llywodraeth Leol Cymru’ neu ‘gwglwch ein gwefan a’i hagor’, byddem yn arwain y cyfranogwr o ran beth fyddent wedi chwilio amdano neu sut y byddent wedi mynd ati i chwilio.

Cyn i bob sesiwn ddechrau, cafodd pob cyfranogwr gyflwyniad i’r sesiwn. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau eu bod yn ymwybodol o bwrpas yr ymchwil, am ba mor hir y byddem yn dal ein gafael ar eu data, a fyddent yn cydsynio inni recordio’r sesiwn, a’u hawliau fel cyfranogwr. Ar ôl hynny fe ddechreuom ni egluro sut y byddai’r profi’n gweithio. Wrth wneud hynny, fe wnaethom ofyn iddynt rannu eu sgrin a siarad yn uchel am beth roeddent yn meddwl tra oeddent yn cwblhau’r gweithredoedd. Diben hyn oedd rhoi inni well syniad o beth roedd pob cyfranogwr yn disgwyl ei ganfod.

Beth oedd ein canfyddiadau?

Roedd rhai gweithredoedd yn hawdd i’r defnyddwyr, ond roedd eraill yn gymharol anodd. Roedd hyn yn golygu bod y newidiadau yr oedd angen eu cwblhau ar gyfer pob gweithiwr yn amrywiol. Er mwyn cadw’r blogiad hwn yn fyr, fe roddaf grynodeb o’r mewnwelediad a gawsom a’r newidiadau a wnaethom ar gyfer pob gweithred i gyd ar unwaith. Fodd bynnag, cawsom wahanol fewnwelediadau ar gyfer gwahanol weithredoedd ym mhob rownd. Pe hoffech weld adroddiad manylach ynghylch y canfyddiadau, cysylltwch â Chris.Sutton@wlga.gov.uk neu Tom.Brame@wlga.gov.uk.

Gweithred 1 – Agorwch ein gwefan:

Roedd pa mor hawdd oedd dod hyd i’n gwefan yn amrywio o gyfranogwr i gyfranogwr. Roedd hyn oherwydd pa mor gyfarwydd oedd pob cyfranogwr gyda’n tîm. Roedd rhai o’r cyfranogwyr a oedd yn fwyaf cyfarwydd â ni yn gwglo rhywbeth tebyg i ‘Tîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru’, a byddai’r wefan yn agos at frig canlyniadau’r chwiliad, a defnyddiodd un cyfranogwr y ddolen yr oeddent wedi ei derbyn mewn e-bost gan aelod o’r tîm. Byddai cyfranogwyr llai cyfarwydd naill ai’n chwilio am wefan CLlLC (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) neu’n chwilio am ‘Digidol Cymru’ neu rywbeth tebyg. Nid oedd dolen i’n gwefan ni ar wefan CLlLC, ac wrth chwilio am ‘Digidol Cymru’, roedd ein gwefan yn anodd dod o hyd iddi ymysg timau digidol eraill megis y CDPS (Canolfan Gwasanaeth Cyhoeddus Digidol) neu dîm digidol Llywodraeth Cymru.

Newid: Y newidiadau a wnaed yn y cyswllt hwn oedd ychwanegu tudalen ddigidol i wefan CLlLC, a ddarparai ddolen i’n gwefan ni. Defnyddiodd un cyfranogwr y ddolen hon mewn rownd ddiweddarach. Newid arall oedd defnyddio rhai o nodweddion Google i osod ein gwefan ni yn uwch ar dudalen canlyniadau’r peiriant chwilio hwnnw.

Gweithred 2 – Edrychwch ar fersiwn Gymraeg y wefan hon:

Llwyddodd pob cyfranogwyr i gwblhau’r weithred hon yn gyflym. 

Newid: Nid oedd angen gwneud unrhyw newidiadau i’r safle oherwydd hyn. 

Gweithred 3 – Dewch o hyd i flogiad sy’n ymwneud â hyfforddiant.

Daeth pob cyfranogwr o hyd i’r blogiad cywir; ond fe gymerodd hynny amser. Gwelwyd bod y cyfranogwyr yn sgrolio i lawr y sgrin yn araf gyda’u llygaid yn pendilio rhwng ochr dde ac ochr chwith y sgrin. Ni fyddai’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn gwe-lywio drwy wefan gan ganolbwyntio cymaint, felly daethom i’r casgliad na fyddai’r blogiad wedi’i ganfod pe na bai’n gais penodol.

Newid: Tacluswyd bar ochr y dudalen blogiau, a gosodwyd ‘Categorïau blog’ ar y brig. Canfyddwyd bod y cyfranogwyr yn gallu canfod y blog hyfforddiant yn haws ac yn gynt ar ôl gwneud y newid hwn. 

Action 4 – Can you subscribe to our newsletter:

Roedd y teclyn tanysgrifio ar y dudalen a labelwyd yn ‘Cysylltu â ni’ yn wreiddiol. Daeth hanner y cyfranogwyr o hyd iddo, tra chwiliodd yr hanner arall ar y dudalen ‘Amdanom’ cyn rhoi’r ffidil yn y to. Yr adborth a gafwyd gan gyfranogwyr oedd eu bod yn chwilio am y gair ‘Cylchlythyr’. 

Newid: Rhoddwyd y label ‘Cysylltu â ni’ yn nhroedyn y dudalen, a newidiwyd y label i ‘Cylchlythyr’ yn y bar llywio. Yn dilyn hyn, gallai’r cyfranogwyr ganfod yn hawdd sut i danysgrifio i’n cylchlythyr a chysylltu â ni pe bai angen. 

Gweithred 5 – Edrychwch ar ba ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

Daeth yr holl gyfranogwyr o hyd i’r dudalen yn hawdd. Fodd bynnag, ni wnaeth y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr sgrolio yn ddigon pell i lawr y dudalen er mwyn gweld pa ddigwyddiadau a oedd ar y gweill.

Newid: Aildrefnwyd y cynnwys ar y dudalen Digwyddiadau er mwyn sicrhau bod y wybodaeth bwysicaf ar frig y dudalen. 

Casgliad

Fe wnaethom newidiadau eraill i’r wefan ar sail pethau a nodwyd yn y sesiynau profi. Fodd bynnag, gan ein bod yn ymwybodol o faint y blogiad hwn, penderfynwyd canolbwyntio ar yr uchod yn unig. Pe hoffech weld dadansoddiad mwy manwl o’r hyn a wnaethom, cysylltwch â Chris.Sutton@wlga.gov.uk neu Tom.Brame@wlga.gov.uk.

Rydym bellach wedi cwblhau’r cam profi defnyddioldeb ar gyfer y safle, ac rydym yn fodlon ein bod wedi cyrraedd ein nod. Gwe-lywiodd y rownd olaf o gyfranogwyr drwy’r gweithredoedd heb ddim trafferth. Nododd un cyfranogwr eu bod o’r farn fod y wefan “yn lân, yn glir, yn reddfol, ac yn wefan ddeniadol sy’n hawdd gwe-lywio drwyddi”. Byddwn yn profi’r safle eto yn y dyfodol, naill ai’n rheolaidd, neu os byddwn yn gwneud newidiadau sylweddol i’r safle.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *