Cymhellion Ymchwil Defnyddwyr

Cymhellion Ymchwil Defnyddwyr

O fod yn Ymchwilydd Defnyddwyr, rydych yn gwybod dau beth:

  1. Mae amser pobl yn werthfawr
  2. Gall gofyn am ychydig o’r amser hwnnw fod yn dipyn i’w ofyn.

Un o’r prif heriau y gallech eu hwynebu wrth gynllunio ymchwil defnyddwyr cadarn yw sicrhau bod y defnyddwyr y mae angen i chi ymgysylltu â hwy yn gwir gyfranogi.

Ar ôl ychydig o drafod am hyn, cytunodd ein tîm y byddai’n iawn ac yn foesegol cynnig cymhelliant i gyfranogwyr ymchwil defnyddwyr un i un er mwyn annog eu cyfranogiad a dangos ein gwerthfawrogiad am eu hamser a’u mewnbwn. Mae cynnig cymhellion i gyfranogwyr ymchwil defnyddwyr eisoes yn arfer cyffredin ledled y sector cyhoeddus, felly byddai ei wneud ein hunain yn dod â ni yn unol â’r nifer fawr o sefydliadau eraill sydd eisoes yn gwneud hyn.

Roeddem yn gwybod nad oeddem am gynnig cymhellion arian parod, y gellid eu camddehongli fel taliad am wasanaethau a ddarperir ac a allai fod â goblygiadau i unrhyw gyfranogwyr sy’n cael budd-daliadau. Felly, cynhaliais ychydig o ymchwil i archwilio pa gymhellion y mae sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yn eu cynnig i’w cyfranogwyr ymchwil defnyddwyr. Canfûm fod y mwyafrif o sefydliadau yn cynnig talebau fel cymhellion, o ystod o wahanol allfeydd manwerthu, ac yn cynnig cyfraddau yn amrywio o daleb untro o £20 am gyfranogi i £40 yr awr am bob awr.

Cytunwyd ar gynnig talebau Love2Shop, y gellir eu gwario mewn dros 150 o siopau ar y stryd fawr, gyda chyfradd o £20 am hyd at 2 awr o gyfranogi a £40 am unrhyw beth dros 2 awr. Roedd angen set gadarn o ganllawiau arnom hefyd i sicrhau ein bod yn cynnig cymhellion yn y ffordd fwyaf moesegol a phroffesiynol. Dyma’r canllawiau cymhelliant ymchwil defnyddwyr a ddrafftiais gyda mewnbwn gan Lywodraeth Cymru a CLlLC (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru). Ers hynny mae’r uwch dîm rheoli CLlLC wedi cymeradwyo’r rhain ac maent bellach yn cael eu mabwysiadu gan ein tîm.

Os ydych chi’n ystyried cynnig cymhellion ar gyfer ymchwil defnyddwyr yn eich sefydliad eich hun, yna mae croeso i chi ddefnyddio’r canllawiau hyn i lywio’ch dull, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â mi tom.brame@wlga.gov.uk

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *