Blog Prosiect Darganfod Dechrau’n Deg

Blog Prosiect Darganfod Dechrau’n Deg

Mae rhaglen Dechrau’n Deg yn rhaglen gofal sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru wedi anelu at deuluoedd gyda phlant dan 4 oed sydd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.

Mae’r rhaglen yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cefnogi’r rhieni a phlant, a’r gwasanaethau craidd yw:

  • Gwasanaethau Ymwelydd Iechyd
  • Gwasanaethau Bydwragedd
  • Gwasanaethau Gofal Plant
  • Gwasanaethau Cymorth i Rieni
  • Gwasanaethau Iaith Gynnar
  • Mynediad at dîm gofal cymdeithasol

Ar ddiwedd 2021, bu i Lywodraeth Cymru gysylltu â ni ac roeddynt yn ymwybodol o ap Dechrau’n Deg a ddatblygwyd gan dîm Dechrau’n Deg yn Sir Gaerfyrddin. Roedd ganddynt ddiddordeb yn hyn ac yn meddwl a oedd modd datblygu hwn ymhellach a’i ddefnyddio i gefnogi teuluoedd Dechrau’n Deg ledled Cymru.

Dull Darganfod

Gan mai dim ond ychydig sydd yn hysbys am yr ap, mi wnaethom gynnal cyfnod darganfod cynnyrch er mwyn:

  • deall yr ap yn well
  • deall anghenion teuluoedd Dechrau’n Deg: yr oedd wedi’i anelu atynt
  • deall os mai ap yw’r datrysiad orau ar gyfer cefnogi’r teuluoedd hyn

Bu i ni ymgysylltu â phedwar cyngor ledled Cymru a oedd gan ddemograffeg amrywiol a gofynnwyd iddynt i’n helpu i ddysgu am y gwasanaethau, y timau a’n helpu i ymgysylltu â theuluoedd Dechrau’n Deg. Cytunodd Cynghorau Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Sir Ddinbych ac Ynys Môn i gymryd rhan.

Roeddem eisiau cynnal yr ymchwil defnyddwyr canlynol:

  • Grwpiau Ffocws gyda thimau rheoli/ perfformiad Dechrau’n Deg y mhob Cyngor
    council
  • Grwpiau ffocws gyda gweithwyr rheng flaen Dechrau’n Deg ym mhob cyngor
  • Cyfweliadau gyda thua pum teulu Dechrau’n Deg ym mhob cyngor
  • Arolwg o ddefnyddwyr ap Dechrau’n Deg a rhai sydd ddim yn defnyddio’r ap yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd rhaid oedi ar ein gwaith ar ôl cais gan Lywodraeth Cymru, tra roedd ymrwymiadau Blynyddoedd Cynnar o’r Rhaglen Lywodraethu yn cael ei gyflawni. Felly, yn lle casglu’r wybodaeth am angen a phrofiadau teuluoedd o’r pedwar Awdurdod Lleol gwahanol ledled Cymru, roedd gennym ond y cwmpas i ymgysylltu â theuluoedd yn Sir Gaerfyrddin. Roedd gan y mwyafrif o deuluoedd Sir Gaerfyrddin y bu i ni ymgysylltu â hwy (92%) brofiad blaenorol o’r ap, felly nid oeddem yn gallu cael y mewnbwn gan deuluoedd Dechrau’n Deg diduedd a fyddai’n hanfodol ar gyfer ymchwil defnyddiwr mwy cytbwys.

Yn y diwedd, bu i ni gyflawni’r ymchwil defnyddwyr canlynol:

  • Grwpiau Ffocws gyda thimau rheoli/ perfformiad Dechrau’n Deg y mhob Cyngor
  • Grwpiau Ffocws gyda gweithwyr rheng flaen Dechrau’n Deg yn ddau o’r pedwar Cyngor (Sir Gaerfyrddin a Sir Ddinbych)
  • Cyfweliadau gyda phum teulu Dechrau’n Deg yn Sir Gaerfyrddin
  • Arolwg o’r 17 ddefnyddwyr ap Dechrau’n Deg a 2 sydd ddim yn defnyddio’r ap yn Sir Gaerfyrddin.

Canfyddiadau

Roeddem yn gallu crynhoi cipolwg defnyddiol o’r ymchwil hwn ynghylch agweddau teuluoedd Dechrau’n Deg tuag at y gwasanaeth y maent wedi’i gael, ac anghenion y teuluoedd a’r timau gwasanaeth.

Roedd gan y teuluoedd lawer o adborth cadarnhaol am y gwasanaeth, ac yn gyffredinol wedi’i weld yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn werthfawr. Mae cael yr ap yn dangos manteision amlwg i deuluoedd a fyddai ar goll gyda datrysiad technoleg wahanol, er roedd rhai gwelliannau a awgrymwyd i ddefnyddioldeb yr ap.

Roedd gan y teuluoedd lawer o adborth cadarnhaol am y gwasanaeth, ac yn gyffredinol wedi’i weld yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn werthfawr. Mae cael yr ap yn dangos manteision amlwg i deuluoedd a fyddai ar goll gyda datrysiad technoleg wahanol, er roedd rhai gwelliannau a awgrymwyd i ddefnyddioldeb yr ap.

Mae staff Dechrau’n Deg yn Sir Gaerfyrddin wedi gweld yr ap yn werthfawr iawn i gefnogi teuluoedd yn well a chyrraedd mwy ohonynt. Mae gwelliannau maent eisiau eu gwneud a allai wella gweinyddiaeth a rheolaeth yr ap, gan fod hyn yn gofyn am lawer o amser ac adnoddau’r tîm.

Mae gan gynghorau eraill ddiddordeb o gael yr Ap Dechrau’n Deg ac yn teimlo y byddai’n helpu i wella ansawdd a chyrhaeddiad y gwasanaeth. Fodd bynnag, maent yn bryderus ynghylch sut y bydd yn cael ei reoli a fydd angen cefnogaeth.

Y camau nesaf

Roedd y canfyddiadau yn bwydo i’r gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru a thimau Dechrau’n Deg. Roedd yr argymhellion hyn yn awgrymu beth fyddai teuluoedd Dechrau’n Deg eisiau gan ddatrysiad technoleg a pha welliannau y gellir eu gwneud i wneud gwasanaethau yn fwy gwerthfawr i’r teuluoedd a’r timau.

Ein gobaith yw y gallwn ailafael yn y gwaith darganfod hwn ar ryw bwynt i gael cipolwg gofynnol gan rai sydd ddim yn defnyddio’r ap ar draws y cynghorau eraill. Yna gallem ddeall eu hanghenion ac edrych a fyddai ap ffôn symudol yn gallu helpu i gefnogi’r rhain.

Mae adroddiad Darganfod Cynnyrch Dechrau’n Deg llawn i’w weld yma. Mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych unrhyw gwestiynau neu eisiau rhagor o wybodaeth, drwy e-bost tom.brame@wlga.gov.uk.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *