Strategaethau digidol awdurdodau lleol

Chart 1: Strategic breakdown of the topic of local authority digital strategies
Mae’r Trosolwg hwn yn cynnwys 16 o’r 22 Awdurdod Lleol (ALl) yng Nghymru. Mae’r 6 ALl sydd heb eu cynnwys yn cyhoeddi eu Polisïau Digidol ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, felly nid oeddent ar gael adeg ysgrifennu’r Trosolwg hwn.
Mae Siart 1 yn dangos nodweddion cyffredin y polisïau. Dylid nodi fod pob polisi wedi pwysleisio diddordeb mewn creu gwell profiad i’r defnyddiwr, sef trigolion eu bwrdeistref sirol, ond nid yw hyn wedi’i gynnwys yn y siart gan y gellir ei gymryd yn ganiataol. Ar gyfer pob pwynt strategol a gynhwysir yn Siart 1, ceir trosolwg cryno isod o’r hyn y soniodd yr ALl amdano ac unrhyw sylwadau perthnasol.
Newid Mewnol i’r Ffordd o Weithio
Roedd 94% o’r Polisïau Digidol yn cynnwys yr angen i newid y ffordd y maent yn gweithio i fod yn fwy ‘Ystwyth’. Y prif gamau a amlinellwyd i gyflawni hyn oedd rhoi ffonau symudol a gliniaduron i’r gweithwyr, i’w galluogi i weithio gartref.
Crynodeb
Mae rhai i’w gweld wedi camddeall yr hyn a olygir gan ‘Weithio Ystwyth’; byddai ‘gweithio’n hyblyg’ yn derm mwy priodol ar gyfer rhoi ymreolaeth i weithwyr dros ble maent yn gweithio.
Fodd bynnag, mae rhai Awdurdodau Lleol yn manylu ar ffordd fwy confensiynol Ystwyth o weithio. Os yw hyn yn ddymunol, byddai sicrhau cyfathrebu mewnol cywir yn allweddol ar gyfer mabwysiadwyr cynnar. Byddwn yn awgrymu y gallai rhai cynghorau elwa ar fabwysiadu meddalwedd all eu helpu i fodloni eu nodau Ystwyth – megis offer cydweithio a byrddau Kanban digidol.
Seilwaith
Mae 88% o’r Polisïau Digidol yn amlygu’r angen i allu cyrraedd pob cymuned.
Crynodeb
Mae hyn yn fwy o ofyniad TGCh nag o dasg y Gwasanaethau Digidol. Fodd bynnag, bydd angen ystyried hyn wrth greu gwasanaethau digidol, h.y. sut i greu’r un safon o wasanaeth i drigolion allai fod yn wynebu rhwystrau i ddefnyddio gwasanaethau digidol.
Data
Mae 63% o’r Polisïau Digidol yn tynnu sylw at ddata. Mae nifer yn sôn am yr angen i ddata lywio penderfyniadau mewnol yn y dyfodol. Hefyd, nodwyd fod Data yn gwella’r gwasanaeth drwy gyflymu penderfyniadau.
Crynodeb
Er mwyn gallu cyflawni’r uchelgais o broses wneud penderfyniadau wedi’i llywio gan ddata, byddai’n werthfawr cael fformat safonol o adrodd ar ddata ar draws yr Awdurdodau Lleol, y gellir ei gyfuno er mwyn gallu gweld dadansoddiadau ar lefel genedlaethol.
Crybwyllwyd Data hefyd fel ffordd o wella’r gwasanaeth:
Clyfar: Mae ambell i bolisi yn sôn yn benodol am Ddata Clyfar. Gellir defnyddio hwn i arbed amser i’r defnyddiwr, ac i weithrediadau mewnol y Cyngor, drwy roi camau gweithredu ar waith yn yr amser presennol gan ddefnyddio’r data sydd ar gael. Gallai hyn gyflymu gwasanaethau.
Agored: Mae Data Agored hefyd wedi’i amlygu fel rhywbeth i’w wella. Mae yna nifer o fanteision i gael data agored mewn democratiaeth. Mae’n rhoi cyfle i drigolion wneud asesiadau gwybodus, wedi’u hategu gan ddata amrwd, o berfformiad llywodraethau lleol ac ehangach. Fodd bynnag, bydd angen cymryd gofal o ran sut y caiff y data ei storio. Ni fydd rhoi llawer o ddata a gwybodaeth ar dudalen we yn hawdd i ddefnyddiwr ei ddeall . Gallai gwneud hyn arwain at honiadau o fod yn fwriadol gamarweiniol; gellir nodi Enron fel enghraifft eithafol. Er mwyn osgoi hyn, bydd angen ystyried sut i gyflwyno’r data. Bydd angen ei osod mewn ffordd hawdd ei amgyffred, gan osgoi llethu’r defnyddiwr gyda gormod o ddata neu gynnwys cymhlethdodau democrataidd sy’n anodd eu deall.
Rhannu Data â sefydliadau eraill
Gellid bod wedi cynnwys hyn o fewn yr adran Data Clyfar, ond mae wedi cael ei osod ar wahân am ei fod yn nod benodol y mae Awdurdodau Lleol wedi’i nodi’n gyson.
Crynodeb
Gall rhannu data defnyddwyr rhwng sefydliadau helpu rhoi darlun mwy cyflawn o’r unigolyn. Gall hyn fod yn arbennig o fuddiol o fewn Gofal Iechyd. Gall rhannu data’r Gwasanaethau Cymdeithasol â’r GIG, os yw hynny’n briodol, helpu Meddygon Teulu i ddeall amgylchiadau personol y claf, ac ystyried hynny wrth wneud diagnosis.
Gall cyfuno systemau hefyd helpu gwella profiad y defnyddiwr. Er enghraifft, lleihau achosion o ddyblygu cofnodion data drwy lenwi gwybodaeth trigolion yn awtomatig.
Canolbwynt Hunanwasanaeth
Nododd 69% o’r 16 Awdurdod Lleol fod Canolbwynt Hunanwasanaeth yn gam gweithredu, er mwyn creu gwell profiad i’r trigolion. Ystyrir y Canolbwynt yn fan lle mae’r holl wybodaeth a gwasanaethau’n cael eu storio mewn perthynas â’r unigolyn. Mae potensial i bob sefydliad cyhoeddus fwydo i mewn i’r canolbwynt.
Crynodeb
Byddai hwn yn brosiect sylweddol, lle byddai’n rhaid meddwl am nifer helaeth o ystyriaethau. Dyma enwi rhai:
- Deall anghenion y trigolion a’r busnesau, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn effeithiol ac yn effeithlon
- Creu gwasanaeth cyson ar draws sefydliadau integredig
- Bod yn barod i newid strwythurau sefydliadol mewnol i ateb gofynion y gwasanaeth
- Sut i wneud y gwasanaeth yr un mor hawdd ei ddefnyddio i bob unigolyn.
Hyfforddiant i Drigolion
Mae ychydig o dan hanner y Polisïau Digidol yn nodi ffocws ar hyfforddi trigolion i allu defnyddio dyfeisiau electronig, cyfarpar TGCh a Gwasanaethau Digidol.
Crynodeb
Hyd yn oed os yw’n llwyddiannus, bydd carfan o’r boblogaeth na fydd eisiau cael eu haddysgu ac na fydd byth yn ddigidol hyfedr. Bydd hyn yn golygu y byddant yn amharod i ddefnyddio Gwasanaethau Digidol. Mae angen i wasanaethau sy’n cael eu creu ystyried hyn a chyfuno dulliau all-lein o ddarparu gwasanaeth gydag atebion ar-lein, gan roi dewis i drigolion heb eu llethu â dewisiadau.
Awgrymiadau
Mae dwy nodwedd i’w gweld isod sydd ar goll o’r mwyafrif o’r Polisïau Digidol.
Ymchwil Defnyddwyr
Mae ymchwil defnyddwyr yn sail hanfodol i strategaeth ddylunio. Mae’n galluogi’r gwasanaeth digidol i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer anghenion y trigolion. Hefyd, ymhellach ymlaen, dyma fydd y data ansoddol a meintiol y gellir dibynnu arno i ategu penderfyniadau am ddylunio gyda budd-ddeiliaid a phwyllgorau llywio.
Mae angen i Awdurdodau Lleol gynnal ymchwil defnyddwyr er mwyn deall y pwyntiau pryder presennol yn y gwasanaethau, beth mae’r trigolion ei eisiau, ac yna cofnodi gwahanol ymddygiadau a nodweddion y trigolion. Bydd hyn yn rhoi catalog cynhwysfawr o ddata ansoddol a meintiol i’r prosiect er mwyn llywio dyluniad y gwasanaeth.
Ymddygiad Trigolion
Mae yna ambell i bolisi sy’n gwneud tybiaethau ar sail y ddemograffeg y mae defnyddiwr penodol yn dod o’i mewn. Gall hyn arwain at ddefnyddio stereoteipiau i gyfiawnhau dyluniad gwasanaethau ar gyfer pobl o oed neu gefndir penodol.
Dylai data ansoddol effeithiol fynd i lefel ddyfnach o fanylder. Yn lle gosod y boblogaeth o fewn grwpiau penodol, bydd cofnodi ymddygiadau yn ychwanegu mwy o werth. Bydd clustnodi llond llaw o ymddygiadau cyffredin ymysg trigolion, ac yna sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu creu yn gwasanaethu’r grwpiau hyn, yn fwy buddiol.
Gadael Ymateb