Prosiect Gwella Gwasanaeth Blaenau Gwent: Dangos a Dweud

Prosiect Gwella Gwasanaeth Blaenau Gwent: Dangos a Dweud

Ddydd Gwener 18 Tachwedd fe gynhaliom sesiwn dangos a dweud gyda chydweithwyr gwasanaeth o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Yn y sesiwn, rhoddodd Rebecca Morales-Reeves, Swyddog Dylunio Gwasanaeth a Digidol ym Mlaenau Gwent, ddiweddariad ar brosiect a gyflawnwyd yn ddiweddar ar gyfer un o’u gwasanaethau ar ôl iddynt ganfod yr angen i wella’r modd roeddent yn rhyngweithio gyda’u dinasyddion. Eglurodd Rebecca sut wnaethant ddefnyddio dull Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr i wneud gwelliannau, gan edrych ar yr hyn a wnaethant drwy’r prosiect a’r hyn a wnaethant ei ddarganfod.

Os nad oeddech wedi gallu mynychu, ac os hoffech ddal i fyny neu rannu eich darganfyddiadau o’r sesiwn gyda’ch tîm, mae recordiad o’r sesiwn dangos a dweud ar gael ar-lein.

Rydym bellach yn gweithio gyda Blaenau Gwent i gefnogi gweithgarwch dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr er mwyn gwella gwasanaeth arall. Yn y sesiwn, rhoddodd Tom Brame, Ymchwilydd Defnyddwyr yn Nhîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru, ddiweddariad ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn a’r cynlluniau sydd ar y gweill, ac mae manylion pellach am y prosiect ar ein gwefan.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, rydym wedi lansio fframweithiau dysgu yn ddiweddar, ar gyfer ymchwil defnyddwyr a dylunio cynnwys. Gallwch ddarganfod mwy am y fframweithiau hyn ar ein blog, ac os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r gymuned ymarfer neu’r hyfforddiant rydym wedi’i drefnu, anfonwch e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk neu digitalteam@wlga.gov.uk.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *