Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd:  Sbrint 5 Dangos a Dweud

Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd:  Sbrint 5 Dangos a Dweud

Ddydd Mawrth 11 Hydref, cynaliasom ein sesiwn dangos a dweud ddiweddaraf ar gyfer prosiect Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd. Yn y sesiwn rhoddwyd diweddariad ar yr hyn rydym ni wedi’i gyflawni yn ystod Sbrint 5 cam Alffa’r prosiect a’r hyn rydym ni’n bwriadu ei wneud yn ystod y Sbrint nesaf.  Os fethoch chi’r sesiwn ac arnoch chi eisiau dal i fyny, mae recordiad o’r sesiwn ar gael.

Rhoesom grynodeb cyflym o’r gwaith yr ydym wedi’i wneud ar brototeip gwasanaeth Gostyngiadau Treth y Cyngor fel rhan o syniad datrysiad y Llyfrgell Gwasanaethau. Er bod y prototeip wedi’i ganmol yn dilyn profion gan ddefnyddwyr a’n bod wedi profi y gallem ddylunio gwasanaethau’n well na’r rhai a ddefnyddir gan rai cynghorau, roedd rhwystrau i gynghorau fabwysiadu’r prototeip gwasanaeth. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar drefniadau cyflenwyr a llwyfannau a ddefnyddir ar hyn o bryd. Mae’r materion hyn yn atal cynghorau rhag gwneud newidiadau yn seiliedig ar ddyluniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac mae’r llwyfannau’n cyfyngu ar yr opsiynau i weithredu gwasanaethau rheng flaen arddull newydd. O ganlyniad, mae’r prosiect wedi anghofio am y syniad datrysiad Llyfrgell Gwasanaethau am y tro ac yn lle hynny, rydym wedi canolbwyntio ar faes gwaith newydd i’w brofi yn Alffa.

Mae’r Tîm wedi ailedrych ar allbynnau Darganfod ac wedi dewis edrych ar faes ‘Hawdd i’w Ddarganfod’.  Mae hyn er mwyn ceisio dyfeisio atebion sy’n mynd i’r afael â’r her ganlynol: “Fel dinesydd sy’n mynd i ddigwyddiad bywyd, rydw i eisiau gallu darganfod, deall a lleoli’r holl wasanaethau cymorth sydd ar gael i mi. Er mwyn i mi allu canolbwyntio ar yr hyn fydd yn fy helpu orau i wella fy sefyllfa rŵan ac yn y tymor hwy.”

Edrychodd y Tîm eto ar ganfyddiadau ymchwil defnyddwyr a dadansoddiad Darganfod yn y maes hwn. Hefyd, rydym wedi cynnal ymchwil swyddfa newydd yn edrych ar ba dudalennau gwybodaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd ar draws gwefannau cynghorau, sy’n rhoi cymorth ac arweiniad i ddinasyddion sy’n ceisio cefnogaeth ar gyfer yr argyfwng costau byw y mae pobl yn ei brofi. Roedd hyn hefyd yn cynnwys adolygiad cychwynnol o’r cynnwys a sut mae’n defnyddio arfer gorau ac yn hygyrch i ddinasyddion ei ddefnyddio.

Fel rhan o’r ffrwd waith newydd hon ar gyfer Alffa, mae’r Tîm wedi sefydlu Grŵp Llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o gynghorau Cymru, Cyngor ar Bopeth a chyrff Llywodraeth Cymru, CDPS a CLlLC. Bydd y Grŵp Llywio yn cyfarfod am y tro cyntaf ar 17 Hydref a bydd yn gweithredu fel fforwm i helpu i lunio a llywio’r gwaith y bydd tîm y prosiect yn ei wneud.  Rydym yn awyddus i gydweithio a deall gweithgareddau tebyg eraill sydd eisoes yn digwydd ar draws yr awdurdod lleol a gofod y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y Grŵp hefyd yn gallu rhoi cyngor i ni o ran gwaith datblygu, a’r hyn sy’n ymarferol i gynghorau ei fabwysiadu.

Bydd ein digwyddiad Dangos a Dweud nesaf yn adrodd yn ôl ar ba feysydd gwaith penodol yr ydym yn bwrw ymlaen â nhw o fewn y syniad Hawdd i’w Ddarganfod. Byddwn hefyd yn rhoi adborth o’r trafodaethau rydym yn eu cynnal yn y Grŵp Llywio, gydag awdurdodau lleol a sefydliadau’r sector cyhoeddus i gefnogi gwasanaethau cymorth costau byw. Bydd y digwyddiad Dangos a Dweud nesaf ar ddydd Iau, 10 Tachwedd. Os ydych chi wedi dod i sesiynau blaenorol, byddwn ni’n eich cynnwys ar y gwahoddiad. Fel arall, anfonwch e-bost at y tîm yn digitalteam@wlga.gov.uk er mwyn cael eich ychwanegu, neu ar gyfer gofyn unrhyw gwestiynau a gwneud sylwadau.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *