Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Sbrint 4 Dangos a Dweud
Dydd Iau 8 Medi cynaliasom ein sesiwn dangos a dweud ddiweddaraf ar gyfer prosiect Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd. Yn y sesiwn rhoddwyd diweddariad ar yr hyn rydym ni wedi’i gyflawni yn ystod sbrint 4 cam alffa’r prosiect a’r hyn rydym ni’n bwriadu ei wneud yn ystod y sbrint nesaf. Os fethoch chi’r sesiwn ac arnoch chi eisiau dal i fyny, mae recordiad o’r sesiwn ar gael.
Y prif ffocws oedd cwblhau’r gwaith yr ydym wedi’i wneud ar brototeip y gwasanaeth Gostyngiad Treth y Cyngor. Gwnaethpwyd ambell i newid i’r cynnwys/dyluniad ar ôl cael adborth defnyddwyr a chadarnhawyd y dadansoddiad ymchwil defnyddwyr a wnaethpwyd arno. Roedd adborth o’r ymchwil defnyddwyr yn gadarnhaol iawn. O ran y prawf, aethom ati i weld a allem ddylunio gwasanaeth a oedd yn well i ddinasyddion na’r hyn a ddefnyddir ar hyn o bryd, a phrofwyd hynny’n argyhoeddiadol. Mae’r prototeip bellach wedi’i osod fel gwaelodlin a’r cam nesaf yw gweithio gydag un neu fwy o gynghorau i weithredu’r prototeip mewn amgylchedd byw. Bydd hyn yn helpu i hysbysu ein nod ehangach o brofi pa mor ddichonol yw darparu llyfrgell o wasanaethau i gynghorau ei defnyddio.
Rydym wedi siarad â dau gyngor hyd yma, Caerdydd a Chaerffili. Mae gan Gaerffili ddiddordeb mewn cymryd y prototeip Gostyngiad Treth Cyngor ymlaen, ac rydym wedi trefnu arddangosiad llawn iddyn nhw ar 12 Medi. Rydym hefyd yn agored i ddefnyddio’r un dull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr gyda gwasanaeth arall a byddwn yn ymchwilio i hynny gyda Chaerdydd faes o law. Fodd bynnag, yn y sesiwn Dangos a Dweud rydym wedi rhoi cynnig i unrhyw un o’r 22 cyngor yng Nghymru i gydweithio â ni naill ai ar y prototeip Gostyngiad Treth Cyngor, neu wasanaeth arall os yw hynny’n fwy addas iddyn nhw.
Rydym yn annog pob cyngor i ystyried hyn a gobeithiwn y bydd rhai yn dymuno derbyn y cynnig hwn. Fel prosiect dyma’r ffordd orau o brofi hyfywedd y syniad o lyfrgell gwasanaethau yn llawn a hefyd rhoi profiad ymarferol i ni o weithredu gwasanaeth diwygiedig. Bydd y profiad hwn yn caniatáu i ni gyhoeddi canllawiau a chyngor y gall pob cyngor elwa ohonynt os ydynt am greu gwasanaethau eu hunain sy’n seiliedig ar ddylunio o amgylch y defnyddiwr.
Cawsom ddiddordeb yn dilyn y sesiwn Dangos a Dweud yn Sir Gâr a byddwn yn trafod mwy â nhw faes o law. Ond mae’r cynnig ehangach i unrhyw gyngor yn dal yno, felly os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â ni trwy e-bostio’r Tîm Digidol ar digitalteam@wlga.gov.uk.
Ar gyfer y sbrint nesaf bydd tîm y prosiect hefyd yn edrych ar allbynnau eraill o’r canfyddiadau, gyda’r bwriad o ddewis ffrwd waith arall i’w datblygu fel rhan o’n cam alffa.
Bydd y sesiwn dangos a dweud nesaf ar 6 Hydref 2022, os ydych chi wedi bod i sesiwn o’r blaen byddwch yn cael eich cynnwys yn y gwahoddiad. Neu gallwch anfon e-bost i’r tîm timdigidol@wlga.gov.uk i gael eu hychwanegu at y gwahoddiad, neu am unrhyw gwestiynau a sylwadau.
Gadael Ymateb