Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Sbrint 3 Dangos a Dweud

Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Sbrint 3 Dangos a Dweud

Yr wythnos ddiwethaf cynaliasom ein sesiwn dangos a dweud ddiweddaraf ar gyfer prosiec Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd. Yn y sesiwn rhoddwyd diweddariad ar yr hyn rydym ni wedi’i gyflawni yn ystod sbrint 3 cam alffa’r prosiect a’r hyn rydym ni’n bwriadu ei wneud yn ystod y sbrint nesaf. Os fethoch chi’r sesiwn ac arnoch chi eisiau dal i fyny, mae recordiad o’r sesiwn ar gael.

Gofynnwyd hefyd am unrhyw un sy’n gallu ein helpu ni i gael sgwrs sydyn gyda rhywun yn yr awdurdod, sy’n uwch swyddog datblygu’r we neu’n bensaer technegol. Bydd hyn yn helpu’r tîm i ddeall y ffordd orau i wneud y datrysiad yn hygyrch fel cod cynhyrchu parod y mae modd i awdurdodau lleol gwahanol ei ddefnyddio’n hawdd. Os fedrwch chi helpu gyda hyn, anfonwch neges i timdigidol@wlga.gov.uk.

Yn ogystal â’r ymchwil defnyddwyr, profiad defnyddwyr a’r gweithgareddau dylunio cynnwys a siaradwyd amdanynt, roedd yna hefyd ychydig o weithgareddau dadansoddi busnes ac mae arnom ni eisiau rhannu’r rheiny yn ein blog.

Yn y sbrint yma, cynhaliodd Aimee gyfweliadau gyda swyddogion cyngor i ddeall gofynion y tîm asesu, a sicrhau ein bod ni’n cynnwys yr holl gwestiynau a gofynion tystiolaeth perthnasol pan fyddwn yn symud yn ein blaenau i’r cam beta. Helpodd Aimee hefyd i sicrhau bod y prototeip y mae’r tîm ymchwil defnyddwyr yn ei ddefnyddio yn gweithio’n iawn ac yn cynnwys yr holl elfennau hanfodol.

Roedd yna hefyd wall bach yn sgoriau adborth y prawf defnyddioldeb a gyflwynwyd. Mae’r sgoriau cywir isod.

Cyfartaledd presennol y gwasanaethCyfartaledd prototeip y gwasanaeth
Pa mor hawdd oedd defnyddio’r gwasanaeth yma (ar raddfa o 1 i 5)?1.64.7
Pa mor hawdd oedd deall y cynnwys (ar raddfa o 1 i 5)?3.84.5
Pa mor debygol ydych chi o argymell y gwasanaeth hwn i ffrind (ar raddfa o 1 i 5)?1.85

Bydd y sesiwn dangos a dweud nesaf ar medi 8fedth os ydych chi wedi bod i sesiwn o’r blaen byddwch yn cael eich cynnwys yn y gwahoddiad. Fel arall, ymunwch yma. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu sylw gallwch anfon neges i timdigidol@wlga.gov.uk.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *