Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Dangos a Dweud Sbrint 2 Hawdd ei Ddarganfod

Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Dangos a Dweud Sbrint 2 Hawdd ei Ddarganfod

Ddydd Iau 15 Rhagfyr, gwnaethom ni gynnal ein sesiwn dangos a dweud ddiweddaraf ar gyfer prosiect Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd. Yn y sesiwn gwnaethom ni roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y gwnaethom ni ei gyflawni yn y ffrwd waith Hawdd ei Ddarganfod Sbrint 2 yn ein cam Alffa o’r prosiect. Gwnaethom ni hefyd drafod yr hyn yr ydym ni’n bwriadu ei wneud yn y Sbrint nesaf. Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, ac yn dymuno dal i fyny, mae recordiad o’r sesiwn ar gael.

Ein nod ar gyfer y Sbrint hwn oedd:

  • Cwblhau Ymchwil Defnyddwyr a’i ddadansoddi i gael dealltwriaeth o’r heriau y mae dinasyddion yn eu hwynebu.
  • Tynnu sylw at faterion dylunio ar ôl sesiwn feirniadu gyda Sir Gâr.
  •  Cael gwerth o’n cydweithrediad ar gyfer y gweithdy Dylunio Costau Byw.

Rydym ni’n falch o ddweud ein bod ni wedi cyflawni ein nod ac mae’r rownd newydd o Ymchwil Defnyddwyr wedi’i chwblhau a’i dadansoddi, a chafwyd cipolwg manwl yn sgil hynny. Anfonwyd copi o’r canfyddiadau at bawb a gafodd eu gwahodd i’r sesiwn Dangos a Dweud ynghyd â chopi o’r sleidiau a oedd yn crynhoi’r canfyddiadau.

Gwnaethom ni adrodd yn ôl ar lefel uchel o ran y gwaith a wnaethom ni gyda Sir Gâr gan edrych ar eu gwefan Hawliwch Bopeth a’r broses y mae dinesydd yn mynd drwyddi i wneud cais am gymorth â chynghorydd. Cafodd rhai argymhellion ar ddylunio cynnwys eu bwydo yn ôl i’r cyngor.

Gwnaethom ni hefyd drafod y Gweithdy Dylunio Costau Byw a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd. Roedd yn ddiwrnod da a daeth nifer fawr o bobl, roedd pob cyngor yng Nghymru wedi’u cynrychioli ynghyd â Llywodraeth Cymru a Chyngor ar Bopeth. Rhannwyd canfyddiadau ymchwil a chipolwg ar y cynnwys.  Cynhaliwyd sesiynau grŵp i wneud beirniadaethau bychain ar wasanaeth, a oedd yn ddefnyddiol i gyfranogwyr. Roedd y sesiwn prynhawn yn canolbwyntio ar 3 thema a rhannodd y cyfranogwyr eu profiadau a’u syniadau. Cafodd llawer o’r bobl a oedd yn bresennol wybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol, yr wyf yn gwybod, mewn rhai achosion, sy’n cael eu mabwysiadu yn eu cynghorau perthnasol ac mae gwaith yn cael ei wneud arnyn nhw. Gan edrych i’r dyfodol, rydym ni’n gobeithio cynnal rhagor o sesiynau cydweithio â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a chynghorau Cymru i adeiladu ar y gweithdy cychwynnol hwn.

Yn olaf, rhannodd y Tîm newyddion am rai gweithgareddau newydd y byddwn ni’n bwrw ymlaen â nhw ym mis Ionawr. Un o’r gweithgareddau fydd gweithio gyda Chyngor Sir Benfro i helpu i ddylunio a hyrwyddo eu tudalen Costau Byw. Un arall fydd gweithio ar gynnyrch y gellir ei ddefnyddio i hyrwyddo gwasanaethau trwy’r we symudol, y we, cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu nad yw’n ddigidol. Yn olaf, y bwriad o wneud beirniadaeth cynnwys manwl gyda chyngor arall ar eu tudalen costau byw nhw ar ôl rhai addasiadau y maen nhw wedi’u gwneud ar sail syniadau a gawson nhw yn y Gweithdy Costau Byw.

Gan fod gweithgareddau newydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd, byddwn ni’n mynd ati’n wahanol o ran ein sesiynau Dangos a Dweud yn y dyfodol, gan geisio sicrhau eu bod nhw’n canolbwyntio ar y ffrydiau gwaith penodol yr ydym ni’n gweithio arnyn nhw gyda chynghorau a’u gwneud nhw ar y cyd â’r cynghorau hynny.  Rydym ni eisiau trafod yr allbynnau yr ydym ni wedi’u cynhyrchu, gan esbonio hefyd sut gawsom ni’r allbynnau hynny. Bydd manylion y digwyddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi maes o law pan fyddwn ni wedi siarad ymhellach â’r cynghorau dan sylw. Yn y cyfamser os oes unrhyw un eisiau cysylltu â’r Tîm am y gwaith yr ydym ni wedi’i wneud, neu waith y gallai fod gennym ddiddordeb ynddo, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *