Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Dangos a Dweud Sbrint 1 Hawdd ei Ddarganfod

Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Dangos a Dweud Sbrint 1 Hawdd ei Ddarganfod

Ddydd Iau 10 Tachwedd, cynaliasom ein sesiwn dangos a dweud ddiweddaraf ar gyfer Prosiect Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd. Yn y sesiwn rhoesom y wybodaeth ddiweddaraf ar yr hyn a gyflawnom yn y ffrwd gwaith Hawdd ei Ddarganfod Sbrint 1 o fewn cam Alffa ein prosiect. Fe wnaethom hefyd drafod yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn y sbrint nesaf. Os fethoch chi’r sesiwn ac arnoch chi eisiau dal i fyny, mae recordiad o’r sesiwn ar gael.

Ein nod ar gyfer y sbrint oedd: Dyfeisio cynllun ar gyfer y gweithgarwch ymchwil defnyddiwr, cael dealltwriaeth well o’r cynigion cynnwys cyfredol a sefydlu cyfleoedd cydweithredol.

Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cyflawni ein nod gyda rownd newydd o ymchwil defnyddiwr wedi’i gynllunio ac ar y gweill, beirniadaeth cynnwys o safle gwe ‘Hawliwch Bopeth’ Sir Gaerfyrddin yn digwydd, mae dadansoddiad busnes o fodelau ‘To Be’ wedi dechrau, sy’n edrych ar wasanaethau presennol ac yn olaf rydym wedi uno gyda Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru i redeg gweithdy dylunio cynnwys ar dudalennau gwe Costau Byw.

Rydym wedi cynnal dau gyfarfod Grŵp Llywio newydd o fewn sbrint, ac mae’r rhain wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ddarparu mwy o wybodaeth ar draws y cynghorau a’r sector cyhoeddus ar y gwaith sy’n digwydd i gefnogi dinasyddion gyda chostau byw. Mae’r Grŵp hefyd wedi ein helpu ni i lunio rhai syniadau oedd gennym ni ar gyfer gwaith i’w ddwyn ymlaen a phynciau i gynnal ymchwil newydd arnynt. Rydym wedi cymryd nifer o themâu i seilio ein rownd newydd o ymchwil defnyddiwr arnynt ac wedi rhoi syniadau i’n tîm profiad defnyddwyr a dylunwyr cynnwys i’w hystyried ar gyfer dadansoddi tudalennau gwe cyfredol.

Bydd gweithdy dylunio cynnwys ar gyfer tudalennau gwe Costau Byw ar 17 Tachwedd ac rydym wedi bod yn cydweithio gyda Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru (CDPS) i wneud hwn yn ddigwyddiad ar y cyd. Mae CDPS a CLlLC Digidol wedi estyn allan ar nifer o gysylltiadau ar draws yr Awdurdodau lleol, sefydliadau’r 3ydd sector a chyrff sector cyhoeddus eraill i’w gwahodd i ‘r digwyddiad ac mae diddordeb wedi bod yn wych gyda chynrychiolwyr o bob maes a chynghorau yn cofrestru i fynychu. Mae’r tîm wedi bod yn paratoi cynnwys ar gyfer y digwyddiad diwrnod o hyd. Byddwn yn adrodd yn ôl ar hyn yn dilyn y digwyddiad o fewn ein Dangos a Dweud nesaf, ond hefyd mewn neges blog ar wahân.

Bydd ein Dangos a Deud nesaf yn adrodd yn ôl ar ganfyddiadau’r ymchwil defnyddwyr, beirniadaeth cynnwys, y gweithdy Costau Byw ac unrhyw adborth pellach o’n Grŵp Llywio. Bydd y digwyddiad Dangos a Dweud nesaf ar ddydd Iau, 15 Rhagfyr. Os ydych chi wedi dod i sesiynau blaenorol, byddwn ni’n eich cynnwys ar y gwahoddiad. Fel arall, anfonwch e-bost at y tîm yn digitalteam@wlga.gov.uk er mwyn cael eich ychwanegu, neu ar gyfer gofyn unrhyw gwestiynau a gwneud sylwadau.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *