Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Blog Cau’r Prosiect

Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd: Blog Cau’r Prosiect

Ddechrau Ionawr gwnaethom ni ystyried y prosiect a pha weithgareddau yr oeddem ni wedi’u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf.

Trwy gysylltiadau yr oeddem ni wedi’u sefydlu drwy’r prosiect a’r Grŵp Llywio y gwnaethom ni ei sefydlu ym mis Medi, mae gennym ni dri maes gwaith arbennig i ganolbwyntio arnyn nhw bellach. Mae’r rhain i gyd yn gysylltiedig â gwaith yr oedd cynghorau’n ei wneud i gefnogi dinasyddion â’r argyfwng Costau Byw ac yr oedd y rhain yn cyd-fynd â’r thema yr oedd y prosiect yn ei archwilio sef helpu dinasyddion i ddefnyddio gwasanaethau wrth iddyn nhw wynebu sefyllfa o dlodi.

Rydym ni’n bwrw ymlaen â’r meysydd gwaith canlynol ac wedi eu dechrau nhw:

  • Helpu Cyngor Sir Penfro i ddylunio tudalen lanio Costau Byw newydd ar gyfer eu gwefan.
  • Helpu Sir Gaerfyrddin i ddylunio ffeithlun i hyrwyddo eu gwefan ‘Hawliwch bopeth’ bresennol.
  • Cynnal beirniadaeth cynnwys o dudalennau gwe Costau Byw Bro Morgannwg a rhoi cymorth ychwanegol â dylunio a hygyrchedd.

O ystyried y bydd y meysydd gwaith hyn yn cymryd cryn dipyn o amser i’r Tîm ac yn gofyn am gryn dipyn o’u hymdrech, roeddem ni’n credu y byddai’n well cynnal y gweithgareddau hyn ar wahan ac nid fel Alffas o fewn y prosiect Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd. Felly rydym ni wedi penderfynu cau’r prosiect oherwydd ein bod ni’n credu na ellir symud ymlaen ymhellach â’r amcanion gwreiddiol a bod y gweithgareddau yr ydym ni’n bwrw ymlaen â nhw’n fwy addas ar gyfer rôl y Tîm.

Mae’r prosiect wedi cynhyrchu llawer o ymchwil defnyddwyr defnyddiol iawn a byddwn ni’n parhau i ddysgu o hyn ac yn cymhwyso’r canfyddiadau yn y gwaith y byddwn ni’n bwrw ymlaen ag ef â’r tri chyngor.

Gwnaeth y prosiect ddatgelu llawer o weithgarwch a oedd yn digwydd yn gyffredinol yn y maes Costau Byw, a hynny ymhlith cynghorau ond hefyd mewn cyrff cyhoeddus eraill, yn enwedig yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.  Roedd y gweithdy Dylunio Costau Byw yr oeddem ni’n ei gynnal ar y cyd â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn ôl ym mis Tachwedd yn uchafbwynt ac mae’n fwriad gennym ni i weithio gyda nhw eto.

Dysgodd y Tîm rai gwersi pwysig eraill hefyd o ran cyfranogiad budd-ddeiliaid, deall y cyfyngiadau technegol a chyfyngiadau o ran cyflenwyr sydd gan gynghorau a’r ymdrech sydd ynghlwm â cheisio cynllunio gwasanaethau newydd.  Unwaith eto, roedd y profiadau hyn yn ddefnyddiol ac maen nhw wedi helpu’r Tîm i ddeall y gwaith y gallan nhw ei wneud yn well a’r ffordd orau o weithio gydag awdurdodau lleol. Byddwn ni’n ceisio cynnal digwyddiadau Dangos a Dweud a fydd yn sôn am y gwaith yr ydym ni’n ei wneud a’r gwaith yr ydym ni’n ei wneud ar y cyd â’r cynghorau yr ydym ni’n gweithio gyda nhw. Bydd manylion y rhain yn cael eu cyhoeddi maes o law a phan fydd cynnwys priodol i sôn amdano ac i’w ddangos. Mae’r adroddiad terfynol yma.

Yn y cyfamser, os bydd unrhyw gwestiynau am y gwaith y mae’r prosiect wedi’i wneud, neu unrhyw ymholiadau i’r Tîm ynghylch defnyddio cynllun sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i ddatblygu gwasanaethau digidol gwell, yna cysylltwch â ni timdigidol@wlga.gov.uk

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *