Dangos a Dweud Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd
Fe wnaethom gynnal ein dangos a dweud gyntaf ar gyfer y Prosiect Dylunio Gwasanaeth Digwyddiadau Bywyd yr wythnos diwethaf ac rydym wedi recordio’r sesiwn i chi ddal i fyny arno os gwnaethoch ei golli.
Yn ystod cyffro’r sesiwn, fe fethon ni ddwy o’n sleidiau am y datrysiad rydyn ni’n ei brofi felly rydyn ni wedi cynnwys crynodeb ohonyn nhw isod.
Mae ein sesiwn dangos a dweud nesaf ddydd Iau 4 Awst am 11am, ac os gwnaethoch fynychu’r un blaenorol, byddwn yn eich cynnwys yn y gwahoddiad ar gyfer hwn. Fel arall, ymunwch yma ac fe wnawn eich cynnwys ar y gwahoddiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych: e-bostiwch digitalteam@wlga.gov.uk
Y datrysiad ateb yr ydym yn ei brofi yn Alpha: Llyfrgell Gwasanaethau
Ein datrysiad yw llyfrgell o wasanaethau rheng flaen gyda chod sy’n barod ar gyfer cynhyrchu y gall pob un o’r 22 awdurdod lleol ei gyrchu a’i fabwysiadu.
Bydd y gwasanaethau’n cael eu dylunio gyda chydrannau, patrymau, ac arddulliau yn System Ddylunio Gov.UK. Bydd cynnwys a grëwyd yn dilyn arferion gorau dylunio cynnwys yn gynwysedig ym mhob gwasanaeth hefyd. Bydd pob gwasanaeth yn y llyfrgell yn cael ei brofi gyda dinasyddion.
Bydd pob sgrin o fewn y gwasanaethau yn cysylltu â chod sy’n barod ar gyfer cynhyrchu a chanllawiau defnyddio fel y gall awdurdodau lleol ei godi a’i roi ar waith
Pa broblemau darganfod y bydd yn eu datrys?
Yn ystod cyfnod Darganfod y prosiect, fe wnaethom nodi’r tair problem allweddol ganlynol:
- Gwasanaethau anhygyrch
- Mae dinasyddion yn cael anhawster sefydlu pa wasanaethau sydd ar gael iddynt pan fyddant yn dod ar draws digwyddiad bywyd
- Mae dinasyddion wedi drysu ynghylch beth i’w ddisgwyl ac nid ydynt yn deall prosesau ar ôl gwneud cais am wasanaethau
Bydd syniad y Llyfrgell Gwasanaethau yn datrys problem 1. Hefyd, bydd yn helpu i ddatrys problemau 2 a 3.
Beth yw gwerth y Llyfrgell Gwasanaethau?
- Cysondeb mewn gwasanaethau ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae ein hymchwil wedi amlygu bod dinasyddion am i wasanaethau awdurdodau lleol fod yn gyson. Dros amser, bydd awdurdodau lleol yn cyrchu ac yn defnyddio’r un cynlluniau rheng flaen, a fydd yn sicrhau bod dinasyddion yn gyfarwydd â’r gwasanaethau lle bynnag y maent yn byw.
- Tîm canolog yn dylunio gwasanaethau rheng flaen unwaith ar gyfer pob un o’r 22 awdurdod lleol. Bydd hyn yn mynd beth o’r ffordd at liniaru’r cwynion ‘22 peth 22 o weithiau’ yr ydym yn eu clywed yn rheolaidd gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
- Gwasanaethau rheng flaen gorau yn y dosbarth. Bydd gan awdurdodau lleol fynediad at wasanaethau rheng flaen gorau yn y dosbarth heb fod angen eu tîm DDaT amlddisgyblaethol eu hunain.
Yr hyn y mae angen i ni ei brofi yn Alpha i weld a fyddwn yn datblygu’r syniad hwn yn y cyfnod Beta
- A oes awydd gan awdurdodau lleol i gael llyfrgell o wasanaethau rheng flaen y gallant gael mynediad atynt a’u defnyddio?
- Sut olwg fyddai ar ein tîm i ddarparu’r datrysiad hwn?
- Sut bydd y datrysiad yn cael ei ariannu?
- A allwn ni, fel tîm, gynhyrchu gwasanaethau rheng flaen sy’n well i ddinasyddion na’r hyn y maent yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd?

Gadael Ymateb