Prosiect Tlodi Bwyd Merthyr: Sbrint 3 Dangos a Dweud

Prosiect Tlodi Bwyd Merthyr: Sbrint 3 Dangos a Dweud

Rydym yn y cam alffa o Brosiect Tlodi Bwyd Merthyr ac yn cynnal sesiynau dangos a dweud rheolaidd fel rhan o’n hymrwymiad i weithio yn yr awyr agored. Mae’r recordiad ar gyfer Sbrint 3 dangos a dweud ar gael nawr, os nad oeddech yn gallu cyrraedd y sesiwn ac yn dymuno dal i fyny neu’n dymuno ei rannu gydag eraill yn eich tîm.

Cefndir y prosiect

Y cwestiynau rydym yn ceisio rhoi sylw iddynt

Sut gall dealltwriaeth well a’r defnydd o ddata helpu Cyngor Merthyr i ddarparu ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu sy’n lleihau’r tebygolrwydd i ddinasyddion ddisgyn i dlodi bwyd?

Gweithgareddau hyd yma

Roedd ein canfyddiadau yn darganfod yn dangos bod gwybodaeth sy’n ymwneud â dinasyddion unigol wedi’i lleoli ar draws systemau llawer o gynghorau a phartneriaid gyda mynediad wedi’i gadw’n aml o fewn timau penodol.

Nod yr alffa hwn yw datrys y mater ble nad yw swyddogion yn ymwybodol o newidiadau diweddar mewn amgylchiadau sy’n rhoi dinasyddion mewn mwy o risg o argyfwng, hyd yn oed os yw’r newid ar gael yn rhywle ar system y cyngor.

Y syniad yw drwy gael mynediad i wybodaeth atodol amserol, bydd gan swyddogion ddarlun mwy o beth sy’n digwydd, gan eu rhoi mewn sefyllfa well i gynnal ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu.

Beth nesaf

Byddwn yn parhau i rannu diweddariadau ar y prosiect drwy negeseuon blog yn y dyfodol a dangos a dweud a gallwch gofrestru ar gyfer ein newyddlen i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyhoeddiadau.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *