Prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr: Diweddariad Alpha Tachwedd 2022

Prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr: Diweddariad Alpha Tachwedd 2022

Cefndir

Rydym bellach dros hanner ffordd i mewn i gyfnod alpha o’rprosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr. Yn y cyfnod hwn byddwn yn profi datrysiad hyfyw posibl a nodwyd yn ystod y canfyddiad i helpu i ddatrys y broblem o’r swyddogion ddim yn ymwybodol ddigon cynnar i newid amgylchiadau dinasyddion er ei fod yn cael ei gofnodi, ac ar gael, ar un neu fwy o systemau’r cyngor.

Drwy gael mynediad at wybodaeth yn fwy amserol, y syniad bydd swyddog yn gallu cyflawni ymyrraeth gynnar wedi’i dargedu sydd yn lleihau tebygolrwydd o ddinesydd yn wynebu tlodi bwyd.

Mae gan alpha dri iteriad prawf amlwg:

  • Cysylltu â’r ffynonellau data
  • Adnabod y prif ddynodwyr tlodi
  • Sicrhau defnydd cywir o ddata

Sut mae’r sefyllfa

Rydym wedi gweld canlyniadau addawol yn dod o’r ffynonellau data profion ac adnabod set o ddynodwyr allweddol sy’n berthnasol i les dinasyddion dan ofal y cyngor. Ar gyfer y ddau iteriad, mae swyddogion wedi dweud y byddai dinasyddion yn cael budd ganddynt os ydynt gyda mwy o wybodaeth ddefnyddiol ac amserol, gan ei fod yn eu rhoi mewn sefyllfa gryfach i benderfynu os ydynt angen dechrau ymyrraeth newydd wedi’i dargedu. Mae cyflymder cynt o ddefnydd cywir o iteriad data yn profi’n fwy anghaffaeladwy.

Cysylltu â’r ffynonellau data

Mae ein prosiect yn blatfform agnostig. Fodd bynnag, roedd rhaid i ni ddewis platfform oedd yn cronni data ar gyfer yr alpha. Yn dilyn ymchwiliad, mi wnaethom ddewis gynnyrch Capita One Single View yn bennaf oherwydd roedd yn ymddangos yn haws i ddefnyddio pobl nad oeddynt yn dechnegol, ac roedd ganddo enghreifftiau da o ystod o systemau cyngor sydd wedi’i gysylltu’n llwyddiannus.

Ar gyfer yr alpha, rydym yn bwriadu cael data gan y dair system fewnol y cyngor: Capita One Education, Civica Housing, a Refeniw a Budd-daliadau Northgate. Os yw’r prawf hwn yn llwyddiannus ar gyfer beta, byddwn yn edrych ar y budd o gysylltu i systemau mewnol ychwanegol.

Er nad yw wedi’i brofi’n llawn, mae gennym hyder y bydd yr iteriad yn llwyddiannus.

Adnabod y prif ddynodwyr tlodi

Bwriad yr iteriad hwn yw canfod a phwysoli i ddynodwyr tlodi allweddol lle gallwn greu un ddelwedd gyfansawdd o gofnod dinesydd a datrysiad rhybudd RAG (Coch Oren Gwyrdd) i helpu swyddogion gwneud mwy o benderfyniadau ar sail gwybodaeth a rhai cynharach.

Bu i Arbenigwyr Pwnc (SMEs) o’r gweithgor trechu tlodi’r cyngor a rheolwyr sianel y tair system ddarparu mewnbwn. Ein prif ddull o ysgogi gwybodaeth oedd drwy weithdy lle roeddem yn ystyried y defnydd sefyllfa teuluoedd sydd wedi dod yn ddigartref yn y 12 mis diwethaf, a pha wybodaeth y byddai’n fwyaf defnyddiol i swyddogion i adnabod sefyllfa ddiraddiol yn gynnar.

Roedd naw dynodwr yn yr allbwn. Roedd enghreifftiau yn cynnwys Lefel o Ddyled, Hanes Eithriadau Dibynnol, a statws Gostyngiad Treth y Cyngor.

Er nad yw hyn wedi’i brofi eto, rydym yn hyderus pan fydd yr iteriad hwn yn cael ei ddefnyddio, bod ganddo bosibilrwydd da o ddarparu’r rhybudd cynnar delfrydol.

Sicrhau defnydd cywir o ddata

Fel y disgwylir, mae’r iteriad yn dangos i fod yn heriol iawn ac wedi achosi i gynnydd a chyflymder tîm i arafu’n amlwg. Mae’r tîm bellach wedi ffocysu’n bennaf ar fynd i’r afael â materion sy’n berthnasol i Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU. Mae pob gweithgaredd arall wedi dod i ben.

Gan weithio gydag arweinyddiaeth Merthyr, ei Swyddfa Preifatrwydd Data a SMEs o Lywodraeth Cymru, rydym yn gweithio i gadarnhau sail gyfreithiol ar gyfer casglu a defnyddio data personol (Erthygl 6) ar sail y prosesu sy’n angenrheidiol i swyddogion gyflawni tasg er lles y cyhoedd.

Maes arall sydd i’w oresgyn yw defnyddio data categori arbennig (Erthygl 9) sydd yn berthnasol yn ein hachos ni i’r categori: Data sy’n ymwneud ag iechyd.

Mae’n ymddangos yn fwy tebygol y byddwn yn penderfynu stopio’r prawf alpha hwn, ac yn lle byddwn yn edrych ar ddatrysiadau posibl i’r broblem o sut i ddelio â materion data sy’n berthnasol i swyddogion sy’n cronni gwybodaeth dinasyddion mewnol ar gyfer amrywiaeth o bwrpas lles a chyfreithiol buddiol.

Mae ein hyder o gynnydd cadarn tuag at ddatrysiad iteriad yn yr wythnosau nesaf yn isel i ganolig

Byddwn yn parhau i flogio ynghylch cynnydd y prosiect ac unrhyw ddiweddariadau. I gadw’n ddiweddar gyda’r cyhoeddiadau diweddaraf, cofrestrwch i gael ein newyddlen.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *