Dangos a Dweud Ymchwil Defnyddwyr Tlodi Bwyd

Dangos a Dweud Ymchwil Defnyddwyr Tlodi Bwyd

Ddydd Mawrth 28 Mehefin, cynhaliwyd sesiwn dangos a dweud, lle wnaeth Chris, un o’n hymchwilwyr defnyddwyr, ddangos canfyddiadau ein hymchwil Prosiect Darganfod Data Tlodi Bwyd o gyfweld dinasyddion mewn tlodi.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys 9 cyfweliad â dinasyddion sy’n byw mewn tlodi, er mwyn deall eu barn, teimladau a phrofiadau. Mae canfyddiadau’r ymchwil yn amlygu amrywiaeth o feysydd y mae angen rhoi sylw iddynt er mwyn helpu dinasyddion diamddiffyn wrth symud ymlaen.

Rydym wedi recordio’r sesiwn er mwyn i unrhyw un ei gwylio, a dyma ddolen i’r dec sleidiau. Mae ffeil sain a gafodd ei chwarae yn ystod y sesiwn, ond nid oes modd ei chlywed ar y recordiad – mae’r trawsgrifiad o’r ffeil hon i’w weld isod.

Rhowch wybod i ni yn y sylwadau beth yw eich barn, ac os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk.

Trawsgrifiad o’r Ffeil Sain:

“Dwi’n meddwl, dwi’n meddwl bod angen i sefydliadau ddeall, wyddoch chi, fod pobl sydd angen help, ond dydyn nhw ddim o reidrwydd eisiau gofyn.

A does gan bawb ddim capasiti neu, wyddoch chi, ddyfeisgarwch neu fynediad at bethau fel y rhyngrwyd er mwyn chwilio am sefydliadau a all helpu a dwi’n meddwl, wyddoch chi, y dylai sefydliadau ei gwneud yn hawdd i gael mynediad at eu gwasanaethau.

Ac eto, wyddoch chi, dydi pawb ddim yn gwybod beth sydd ar gael, dydi pawb ddim yn gwybod beth mae ganddynt hawl iddo.

A, dwi’n meddwl, dwi’n gwybod bod hyn yn beth mawr, dydi? Achos rydych chi’n trio cynnwys pawb. Ac mae’n anodd, ond dwi’n meddwl dylai sefydliadau ei gwneud chydig bach yn gliriach.

Yn bendant, dylai sefydliadau’r llywodraeth wneud hyn, dydyn nhw ddim yn dweud wrthych chi beth mae gennych chi hawl iddo. A dwi’n meddwl bod hynny’n beth mawr. Ac maen nhw’n cymryd yn ganiataol bod gan bawb ffordd o deithio o gwmpas. Maen nhw’n cymryd yn ganiataol bod gan bawb gysylltiad rhyngrwyd. Ac, ie, dwi’n meddwl hoffwn i weld cynghorau’n buddsoddi mwy o arian ar ddeall beth yw’r materion a mynd i’r afael â nhw.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *