Cam Alffa Prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr
Cefndir
Rydym ni wedi cwblhau cam darganfod prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr. Fel tîm rydym ni’n teimlo bod y nod o nodi o leiaf un datrysiad hyfyw i’r broblem wedi’i gyrraedd, ac rydym ni’n argymell symud y prosiect yn ei flaen i gam alffa.
Cwestiwn dan sylw
Sut all dealltwriaeth well a’r defnydd o ddata helpu Cyngor Merthyr i ddarparu ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu sy’n lleihau tebygolrwydd dinasyddion o wynebu tlodi bwyd?
Y syniad prawf ar gyfer alffa
Mae ein canfyddiadau ar y cam darganfod yn dangos bod gwybodaeth (data) yn ymwneud â dinasyddion unigol wedi’i chadw ar sawl system gan y cyngor a’i bartneriaid, gyda’r mynediad wedi’i gyfyngu i dimau penodol. Nod y cam alffa yw datrys mater yn ymwneud â swyddogion ddim yn ymwybodol o newid mewn amgylchiadau sy’n rhoi dinasyddion dan eu gofal mewn mwy o berygl o argyfwng, er bod y newidiadau hyn wedi’u nodi ar system yn rhywle yn y cyngor. Drwy gael mynediad at wybodaeth ategol ar amser bydd swyddogion yn derbyn darlun mwy eglur o’r hyn sy’n digwydd, gan eu rhoi mewn sefyllfa well i gyflwyno ymyraethau cynnar wedi’u targedu. Mae’r cam alffa yn edrych ar ymyraethau sy’n lleihau tebygolrwydd dinasyddion o wynebu tlodi bwyd.
Nod y cam alffa yw datrys mater yn ymwneud â swyddogion ddim yn ymwybodol o newid mewn amgylchiadau sy’n rhoi dinasyddion dan eu gofal mewn mwy o berygl o argyfwng, er bod y newidiadau hyn wedi’u nodi ar system yn rhywle yn y cyngor.
Drwy gael mynediad at wybodaeth ategol ar amser bydd swyddogion yn derbyn darlun mwy eglur o’r hyn sy’n digwydd, gan eu rhoi mewn sefyllfa well i gyflwyno ymyraethau cynnar wedi’u targedu. Mae’r cam alffa yn edrych ar ymyraethau sy’n lleihau tebygolrwydd dinasyddion o wynebu tlodi bwyd.
Profi ein syniad
Ein nod alffa yw gallu dweud yn hyderus bod gennym ateb hyfyw a chost-effeithiol i’r cwestiwn problemus sy’n werth ei symud ymlaen i beta.
Byddwn yn ceisio profi ein gallu i gasglu gwybodaeth o sawl system y cyngor a rhoi’r wybodaeth honno mewn un ddelwedd gyfanredol darllen-yn-unig. Yna, drwy ymgynghori ag arbenigwyr tlodi bwyd Merthyr, byddwn yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno i greu adroddiad statws COG (coch, oren, gwyrdd) ar gyfer dinasyddion unigol sydd mewn perygl o fod mewn tlodi bwyd.

Ar y cam darganfod dadansoddwyd saith system TG y cyngor a thrydydd sector. Ar gyfer alffa rydym ni’n bwriadu dod â gwybodaeth tair o’r systemau hyn at ei gilydd: Capita One Education; Civica Housing; a Northgate Revenues and Benefits.
Prosiect data yw hwn yn ei hanfod, a’r diben yw canfod dulliau newydd neu well o ddefnyddio data. Nid yw’n ymwneud yn benodol â’r math o dechnoleg neu lwyfan a ddefnyddir, felly rydym ni’n ceisio bod yn llwyfan agnostig.
Wrth gwrs, bydd arnom ni angen canfod ffordd i drin y wybodaeth gyfunol, felly ar y cam darganfod ymchwiliwyd i sawl llwyfan gyda’r nod o ddewis un i’w ddefnyddio ar gyfer y cam alffa. Yr un hawsaf yn ein barn ni, a’r un a fyddai’n darparu cysylltedd data cadarn a’r gallu i drin ac archwilio data, yw cynnyrch Single View Capita One
Os ydym ni, ar ddiwedd y cam alffa, yn hyderus i symud i’r cam beta, efallai y byddwn yn chwilio am gyfleoedd i brofi llwyfannau eraill ochr yn ochr â Single View er mwyn gwirio gallu’r datrysiad i ehangu.
Beth nesaf
Mae gwaith adeiladu llwyfan brawf Single View wedi’i gwblhau, ac mae’n barod i dderbyn y wybodaeth. Rydym ni’n canolbwyntio rŵan ar gysylltu’r tair ffynhonnell data ar wahân a nodi a phwyso a mesur data dangosydd tlodi i’w ddefnyddio yn yr adroddiad statws COG.
Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau ar y prosiect wrth i ni ddatblygu’r trwy’r cam alffa ac i unrhyw gam beta wedi hynny. I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf cofrestrwch i dderbyn ein newyddlen.
1 COMMENT