Tynnu dogfennau PDF oddi ar y we. Un ar y tro.
Mae gwefannau awdurdodau lleol yn llawn dogfennau PDF. Mae’n siŵr bod gan bob un awdurdod lleol filoedd ohonyn nhw.
Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wedi gwneud llawer o waith yn ystod y degawd diwethaf i dynnu dogfennau PDF o wasanaethau’r llywodraeth ganolog. Gallwch ddarllen eu canllawiau ar gyfer cyhoeddi dogfennau hygyrch ar gov.uk
HTML ydi’r gorau
Yn syml, mae cynnwys HTML yn well a dylai’r holl gynnwys yr ydym ni’n ei gyhoeddi ar wefannau llywodraeth leol fod ar ffurf HTML.
Os nad ydi’ch dogfennau yn cyrraedd y safonau hygyrchedd, fe allwch chi fod yn torri Deddf Cydraddoldeb 2010.
Dyma restr o’r rhesymau dros ddefnyddio HTML a pham bod dogfennau PDF yn ddrwg i’r we:
- Profiad gwell dim ots pa fath o ddyfais sydd gennych chi (dydi dogfennau PDF ddim yn ymatebol a dydyn nhw ddim yn newid eu maint i ffitio’r porwr)
- Mynediad i bawb, ar gyfer pob dyfais, porwr, meddalwedd a thechnoleg gynorthwyol
- Ar ffurf y gall peiriant ei darllen – yn dda ar gyfer optimeiddio peiriannau chwilio ac echdynnu ac ailddefnyddio data
- Mae HTML yn defnyddio gosodiadau porwr felly mae modd i’r rheiny gyda gosodiadau wedi’u haddasu gael mynediad atyn nhw’n syth
- Mae’r manteision optimeiddio peiriannau chwilio yn golygu bod modd i bobl ganfod gwybodaeth yn hawdd
- Diogelu at y dyfodol
- Dydi dogfennau PDF ddim wedi’u dylunio i’w darllen ar sgrin
- Maen nhw’n llawer anoddach i’w tracio a hysbysu dylunio ac iteriadau
- ● Gwrthdynnu profiad y defnyddiwr – yn dibynnu ar ddyfais a phorwr y defnyddiwr gall dogfennau PDF agor mewn ffenestr neu dab newydd neu ar ap ar wahân. Weithiau maen nhw lawrlwytho’n awtomatig i ddyfais y defnyddiwr. Beth bynnag sy’n digwydd, mae sylw’r defnyddiwr yn cael ei dynnu oddi wrth y wefan pan fydd yn agor dogfen PDF. Mae hyn yn fwy o broblem os ydi’r defnyddiwr yn mynd yn uniongyrchol i ddogfen PDF o beiriant chwilio. Heb gyd-destun y wefan y mae’r ddogfen yn rhan ohoni, dydi’r defnyddiwr ddim yn gallu pori cynnwys perthnasol ar y wefan na phori drwy ei chynnwys
- Mae gan lawer o ddyfeisiau a phorwyr syllwyr PDF arnyn nhw, ac mae modd lawrlwytho syllwyr PDF yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, mae yna ddefnyddwyr heb syllwyr o’r fath neu’n methu eu lawrlwytho
- O gymharu â HTML, mae’n anoddach diweddaru dogfen PDF ar ôl ei chreu a’i chyhoeddi. Maen nhw hefyd yn llai tebygol o gael eu cynnal, a all arwain at ddolenni sydd ddim yn gweithio a defnyddwyr yn derbyn yr wybodaeth anghywir
- Gall fod yn anodd ailddefnyddio cynnwys dogfen PDF drwy gopïo a gludo. Mae dyluniad a gosodiad dogfen PDF yn gallu cynhyrchu canlyniadau annisgwyl, yn enwedig os oes ganddi nifer o golofnau neu os nad ydi hi wedi’i strwythuro’n gywir, neu’n defnyddio ffontiau gwahanol
Camau Gweithredu
Y cyngor gorau ydi dileu dogfennau PDF a’u newid nhw am gynnwys gwe (HTML).
Mae’n haws creu HTML o OpenDocument neu ddogfen Word na cheisio creu PDF sy’n hygyrch i bob defnyddiwr.
Trowch ddogfennau PDF yn:
- HTML os ydi pobl yn mynd i fod yn eu darllen
- OpenDocument os ydyn nhw’n mynd i gael eu golygu, fel ffurflen (ond mae’n dal yn well cael ffurflen ar-lein!)
Mae HTML yn haws na chreu dogfen PDF hygyrch ond os oes yn rhaid i chi…
Mae dweud eich bod chi’n mynd i gyhoeddi popeth mewn HTML yn llawer haws na gwneud hynny.
Os oes arnoch chi angen cadw PDF, mae’n rhaid i chi gyhoeddi fersiwn hygyrch ohono. Os nad ydych chi’n gwneud hynny, efallai eich bod chi’n torri’r gyfraith..
Os oes yn rhaid i chi barhau i greu a chyhoeddi dogfennau PDF, fe ddylech chi greu dogfen Word hygyrch (yn defnyddio’r canllawiau hygyrchedd dogfennau isod) a chadw’r ddogfen fel PDF. Cofiwch ychwanegu testun amgen at bob delwedd a gwirio hygyrchedd ar ôl i chi greu’r ddogfen.
Sut i wneud eich dogfennau’n hygyrch
- Rhowch deitl ystyrlon i’ch dogfen
- Cadwch eich paragraffau a’ch brawddegau yn fyr. Ceisiwch ysgrifennu brawddegau gyda 25 gair neu lai.
- Defnyddiwch ffont sans serif fel Arial neu Helvetica. Defnyddiwch faint ffont o 12 pwynt neu fwy
- Defnyddiwch lythrennu brawddeg. Ceisiwch osgoi ysgrifennu geiriau mewn prif lythrennau a geiriau/brawddegau mewn italig
- Gwnewch yn siŵr fod y testun yn aliniedig ac nid wedi’i unioni
- Ceisiwch osgoi tanlinellu, ac eithrio dolenni
- Gwnewch yn siŵr fod testun dolenni yn disgrifio’r ddolen yn glir. Dylai fod yn ddealladwy ar ei ben ei hun, hyd yn oed allan o’i gyd-destun. Pam? Achos bod rhai defnyddwyr rhaglenni darllen sgrin yn rhestru dolenni ar dudalen i ganfod yr hyn sydd arnyn nhw ei angen yn gyflym
- Mae’n haws gwneud dogfennau gydag un golofn barhaus o destun yn hygyrch na dogfennau gyda gosodiadau cymhleth
- Defnyddiwch dablau ar gyfer data yn unig. Cadwch eich tablau yn syml: peidiwch â rhannu neu uno celloedd
- Peidiwch â defnyddio pethau fel lliw neu siapiau yn unig i ddangos ystyr. Mae cyfarwyddiadau fel ‘cliciwch ar y botwm gwyrdd’ yn dibynnu ar allu’r defnyddiwr i weld y dudalen ac efallai na fyddai rhywun gyda dallineb lliw yn gallu gweld y botwm gwyrdd
- Os ydych chi’n defnyddio delweddau neu siartiau, meddyliwch sut y byddwch chi’n gwneud y cynnwys yn hygyrch i bobl gyda nam ar y golwg. Mae dau ddewis:
- Gwnewch yr un pwynt yn y testun (fel bod pobl â nam ar eu golwg yn derbyn yr wybodaeth sydd arnyn nhw ei hangen – mae’r lluniau neu’r siartiau yno fel ychwanegiad i bobl sy’n gallu eu gweld)
- Yn ogystal â’r ddelwedd neu’r siart, rhowch destun amgen i’r unigolyn sy’n trosi neu’n uwchlwytho’r ddogfen
- Peidiwch â defnyddio delweddau sy’n cynnwys testun, gan fod hyn yn ei gwneud hi’n amhosibl newid maint y testun yn y ddelwedd ac nad ydi rhaglenni darllen sgrin yn gallu darllen testun sy’n rhan o ddelwedd
- Ceisiwch beidio â defnyddio troednodiadau. Darparwch eglurhad mewnol yn lle
Sut i wahaniaethu rhwng dogfennau PDF hygyrch ac anhygyrch
Gwiriad dau funud sydyn ar gyfer dogfennau PDF digidol
- Agorwch ddogfen PDF.
- Ydych chi’n gallu dewis ac amlygu’r testun?
- Oes yna ddewis i ddarllen y testun yn uchel? Ewch i ddewislen ‘View’ Adobe Reader, dewiswch ac ysgogwch ‘Read Out Loud’ yna dewiswch ‘Read this page only’ neu ‘Read to the end of document’ a gwrandewch ar eich dogfen.
- Os ydych chi’n cynnwys delweddau, ffotograffau, diagramau ac ati, ydych chi wedi darparu testun amgen neu benawdau i egluro’r prif negeseuon yn eich delweddau? Dydi rhaglenni darllen sgrin ddim yn gallu darllen/adnabod delweddau os nad oes testun amgen.
Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’ i gwestiynau 2 a 4, yna mae’ch dogfen mor hygyrch ag y gallai fod.
Arweinlyfr i wella’ch cynnwys
Darllenadwyedd:
Profi porwyr:
Profi hygyrchedd:
- Estyniad NoCoffee Chrome
- Offeryn gwerthuso hygyrchedd WAVE
- aXe
- Gwirydd cyferbynnedd lliw WAVE
- Dadansoddwr Cyferbyniad Lliwiau
- Coblis — Efelychydd dallineb lliw
- Funkify – Efelychydd anabledd
Gadael Ymateb