Testun amgen

Testun amgen

Rydym i gyd yn gwybod bod hygyrchedd yn bwysig iawn a bod angen ei flaenoriaethu pryd bynnag gaiff cynnwys ei greu. Ond weithiau, gall fod yn anodd gwybod lle i ddechrau. Mae’r blog hwn yn cwmpasu hanfodion testun amgen, pam mae’n bwysig a beth sy’n gwneud testun da.

Beth yw testun amgen?

Testun amgen yw’r eglurhad ar ffurf testun rydych chi’n ei ddarparu gyda delweddau mewn cynnwys digidol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw un nad ydynt yn gallu eu gweld, oherwydd anabledd neu oherwydd bod tudalennau’n araf yn llwytho, yn deall beth mae’r llun yn ei ddangos. Byddech yn cynnwys testun amgen gydag unrhyw un o’r lluniau sydd gennych yn y cynnwys. Hebddo, bydd unrhyw ddefnyddwyr sy’n defnyddio technoleg sgrin-ddarllen naill ai’n neidio dros y ddelwedd yn gyfan gwbl, neu’n cynnig hysbysiad i’r defnyddiwr i ddweud nad oes disgrifiad wedi’i gynnig. Mae hyn yn eithrio pobl o’ch cynnwys ac mae’n rhoi profiad gwael i ddefnyddwyr, sy’n annheg ac anghyfreithlon. Wedi’r cyfan, dylai holl wefannau’r sector cyhoeddus ac apiau ar gyfer dyfeisiau symudol fod yn hygyrch er mwyn bodloni Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Sut i ysgrifennu testun amgen da

Dylai eich testun amgen fod tua 125 o nodau o hyd fel uchafswm ac ni ddylai ddechrau gyda “llun o” na “darlun o”. Mae angen i chi fod yn gryno oherwydd mai nifer gyfyngedig o nodau sydd ar gael. 

Adargi melyn yn eistedd ar fwrdd milfeddyg gyda milfeddyg yn gwisgo côt wen yn gafael yn ei bawen, edrych arno a gwenu.

Os oes gennych gapsiynau, peidiwch â’u hailadrodd yn y testun amgen. Nid oes angen i gapsiynau egluro beth sydd yn y llun. Ar gyfer y llun hwn, gallai’r capsiwn nodi “Mae angen triniaeth reolaidd gan filfeddyg ar gŵn er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cadw yn y cyflwr gorau”. Ond byddai’r testun amgen yn disgrifio’r ddelwedd, er enghraifft, “adargi melyn yn eistedd ar fwrdd milfeddyg gyda milfeddyg yn gwisgo côt wen yn gafael yn ei bawen, edrych arno a gwenu“.

Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod pethau yn y llun. Gall pethau fynd yn oddrychol ac anghywir hefyd yn gyflym os byddwch chi’n ceisio disgrifio rhyw unigolyn, ethnigrwydd, hil, dillad, gwallt, ategolion ac ati.

Peidiwch â defnyddio enw ffeil, testun sy’n ailadrodd, nac URL fel testun amgen.

Os mai graff yw’r testun, mae angen i’r testun amgen egluro pa fath o graff ydyw a beth mae’n ei ddangos. Er enghraifft, “Siart linell yn dangos bod nifer y galwadau i’r llinell gymorth yn cynyddu yn ystod 2019 i uchafbwynt o 72% ym mis Tachwedd 2021”.

Os gallwch fod yn benodol o ran yr hyn mae’r ddelwedd yn ei ddangos, gwnewch hynny – os yw’r llun yn dangos gerddi Plas Newydd ar Ynys Môn, rhowch hynny yn y testun amgen. 

Eglurwch y cyd-destun: Ydi’r bobl yn gwenu? Oes rhywun yn eistedd mewn ystafell dywyll? Os bydd yn ychwanegu at ddealltwriaeth y defnyddiwr, dylech ei gynnwys.

Sicrhewch fod y testun amgen yn cael ei gyfieithu’n gywir os oes gennych chi wefan ddwyieithog, fel nad ydych chi’n cyfyngu defnyddwyr sy’n cael eu cynnwys yn yr iaith honno. 

Alt text for accessibility is one of the main areas that people forget to consider when creating and publishing accessible content. Keeping these alternative text considerations in mind when you next create content will help to ensure that everyone is able to comprehend the imagery that you’ve chosen.

Hygyrchedd Cyffredinol

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am hygyrchedd? Mae gennym dri blog am Gwneud Pethau’n HygyrcBeth mae’r Rheoliadau Hygyrchedd yn eu Cwmpasu? a Hygyrchedd ar gyfer Mathau Gwahanol o Gynnwys y gallwch eu darllen. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, gadewch sylw isod neu anfonwch e-bost i timdigidol@wlga.gov.uk 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *