Pecyn Cymorth
Bydd pobl yn aml yn gofyn i mi pa raglen fuaswn i’n ei defnyddio i gwblhau tasg benodol. Oherwydd hynny, roeddwn i’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol i mi rannu rhai o’r offer neu’r rhaglenni rydw i wedi eu defnyddio yn y gorffennol.
Hoffwn hefyd ofyn i chi ychwanegu at y blog hwn os ydych chi wedi defnyddio unrhyw offer neu raglenni eraill. Anfonwch e-bost neu neges drydar.
Rhaglenni cynnal arolwg:
Mae rhaglen arolwg ar-lein yn eich galluogi i gasglu gwybodaeth neu adborth gan bobl yn gyflym drwy greu, cynnal a dehongli arolygon.
Trefnu cardiau:
Mae Trefnu cardiau yn dechneg ymchwil UX lle bydd defnyddwyr yn trefnu testunau mewn grwpiau.
Dull profi ar siâp coeden:
Mae dull profi ar siâp coeden yn ddull ymchwil UX sy’n eich galluogi chi i werthuso effeithiolrwydd hierarchaeth gwe-lywio gwefan neu ap a rhoi gwell trefn ar y cynnwys.
Yn y bôn, nod y dull profi ar siâp coeden yw ateb y cwestiwn, “A yw defnyddwyr yn gallu dod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano?”
Profion defnyddwyr:
Bydd profion defnyddwyr, profion defnyddioldeb, neu brofion UX yn aml yn cael eu cynnal mewn sesiwn lle bydd ymchwilydd (neu “hwylusydd” neu “gymedrolwr”) yn gofyn i gyfranogwr gyflawni tasgau, fel arfer gan ddefnyddio un neu ragor o ryngwynebau mwy penodol i ddefnyddwyr. Tra bydd y cyfranogwr yn cwblhau pob tasg, bydd yr ymchwilydd yn edrych ar ymddygiad y cyfranogwr ac yn gwrando am adborth.
Dilyn llwybr llygaid:
Dilyn llwybr llygaid yw pan fyddwch yn dilyn symudiad llygaid person yn ystod sesiwn ymchwil. Mae’n helpu i weld i le mae eu llygaid yn cael eu tynnu neu symudiad y llygaid mewn perthynas â’r pen. Gall hyn helpu gyda phenderfyniadau dylunio.
Profi porwyr:
Mae profi porwyr yn fath o brofion anweithredol sy’n gadael i chi wirio sut mae eich gwefan yn gweithio ac os ydy hi’n gweithio fel y bwriadwyd iddi wneud wrth fynd iddi drwy wahanol borwyr, ar ddyfeisiau gwahanol neu gyda thechnoleg gynorthwyol.
Profi hygyrchedd:
Profi hygyrchedd yw’r broses o brofi sut mae eich cynnyrch, gwasanaeth, gwefan neu gymhwysiad yn ystyried y profiad i bob defnyddiwr, beth bynnag fo’u gallu neu eu hanallu.
- NoCoffee Chrome extension,
- Offeryn gwerthuso hygyrchedd WAVE,
- aXe,
- Gwirydd cyferbynnedd lliw WAVE,
Prototeipio a chreu fframiau gwifren:
- Os bydd ar sgrin (gwefan, ap, meddalwedd ayb) gallwch ddefnyddio Keynote, Powerpoint neu declyn creu gwefannau fel Squarespace neu Marvel.
- Os bydd ar bapur (adroddiad, llyfryn, taflen ayb) gallwch ddefnyddio Keynote, Powerpoint neu feddalwedd prosesu geiriau fel Word neu Google Docs.
- Os bydd yn wasanaeth (cymorth i gwsmeriaid, gwasanaeth cleientiaid, gofal meddygol ayb) gallwch ysgrifennu sgript a defnyddio eich tîm sbrint fel actorion.
- Os bydd yn ofod ffisegol (storfa, swyddfa, cyntedd ayb) gallwch addasu gofod sy’n bodoli’n barod, defnyddio lego neu wneud model.
- Os bydd yn wrthrych (gwrthrych ffisegol, peirianwaith ayb) gallwch addasu gwrthrych sy’n bodoli’n barod, gwneud prototeip, neu osod prototeip ar y deunydd marchnata drwy ddefnyddio Keynote neu Powerpoint a lluniau neu drosiad o’r gwrthrych.
Iaith hawdd ei deall a’i darllen:
Gellir sgorio pa mor hawdd yw eich cynnwys i’w ddarllen, a’r iaith a ddefnyddir, a mesurau y gellir eu defnyddio i sicrhau bod pawb yn ei ddeall. Mae’r rhaglenni hyn yn eich helpu i ddeall ffyrdd i wneud eich cynnwys yn fwy cynhwysol a gwella eich sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Adnoddau
Ni fyddai’n iawn cael pecyn cymorth heb rai adnoddau a ffyrdd i ddarganfod mwy!
Adnoddau arfer orau ym maes technoleg a chodio:
Adnoddau hyfforddi:
- Digital Accessibility Experts Live
- Pecyn cymorth hygyrchedd Llywodraeth Awstralia
- Hygyrchedd W3C (cyflwyniad i hyfforddiant hygyrchedd)
Gadael Ymateb