Hygyrchedd Ar Gyfer Mathau Gwahanol o Gynnwys

Hygyrchedd Ar Gyfer Mathau Gwahanol o Gynnwys

Yn fy nau flog diwethaf, rwyf wedi sôn am ystyr hygyrchedd digidol a beth mae’r rheoliadau hygyrchedd yn eu cwmpasu o ran systemau a safleoedd y sector cyhoeddus. Dyma ychydig o awgrymiadau a chynghorion ar gyfer y mathau gwahanol o gynnwys, yn ogystal ag ambell i offeryn defnyddiol i’ch helpu i wirio eich cynnwys hefyd.  

Elfennau golygyddol 

Cofiwch fod rheolau gwahanol yn berthnasol ar gyfer cynnwys digidol, ac nid yw confensiynau argraffu bob dydd yn trosglwyddo’n dda ar-lein. Mae’n rhaid i chi ystyried sut mae cynnwys yn gweithio ar dechnolegau cynorthwyol a dyfeisiau gwahanol, megis ffonau symudol neu liniaduron. 

  • Mae’n rhaid i’r ysgrifen fod yn hygyrch. 
  • Dylid ystyried hygyrchedd ym mhopeth a gaiff ei ysgrifennu a’i gyhoeddi ar y we 
  • Mae’n rhaid i’r iaith ei hun fod yn hygyrch – Saesneg plaen, osgoi jargon (lle bo modd), dim Lladin, egluro talfyriadau 
  • Dylid osgoi waliau testun – defnyddio is-benawdau, rhestrau bwled, brawddegau neu baragraffau byr 
  • Dylid gwaredu rhwystrau gweledol – ysgrifen italig, ysgrifen drom a thanlinellu 
  • Characters such as /, &, +, – can be problematic or ambiguous  
  • Mae nifer o bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin yn diffodd atalnodi 
  • Dylid osgoi ‘cliciwch yma’ – mae’n rhaid darparu cyd-destun i ddolenni, fel bod y defnyddiwr yn gwybod i ble maent yn mynd 
  • Dylid osgoi ‘gweler isod’ – mae lleoliadau penodol yn bwysig i’r defnyddiwr ganfod eu ffordd o amgylch y dudalen 
  • Nid oes unrhyw arferion gorau penodol ar gyfer sicrhau bod y ffordd yr ydych yn ysgrifennu’n hygyrch, dylid defnyddio arferion gorau cyffredinol ar gyfer hyn 

OND mae ystyriaethau hygyrchedd yn ymwneud â mwy na darllenwyr sgrin, mae yna lawer o anableddau gwahanol i’w hystyried, ac mae technolegau cynorthwyol i gyd yn wahanol ac yn newid yn dragwyddol 

Delweddau 

  • Dylid ychwanegu tagiau alt bob amser 
  • Dylid osgoi defnyddio testun mewn lluniau 
  • Dylid cadw pethau’n syml 
  • Byddwch yn ystyriol o liwiau cyferbyniol mewn lluniau 
  • Byddwch yn ystyriol o ddisgleirdeb 
  • Os oes gwybodaeth yn y llun (e.e., siart neu graff), nodwch HTML hefyd 

Animeiddiadau 

Nid yw animeiddiadau ar dudalennau we’n gwella hygyrchedd yn aml iawn, a dylid sicrhau eu bod yn cael eu rheoli gan y defnyddiwr neu’n fyr o ran hyd. Mae lluniau sy’n animeiddio’n gyson yn gallu gwneud i weddill y dudalen ymddangos yn fwy cymhleth, neu’n anhygyrch i ddefnyddwyr sydd â rhychwant sylw isel. 

Mae Meini Prawf Llwyddiant 2.2.2 WCAG 2 (Lefel A) yn mynnu bod modd i ddefnyddwyr oedi, rhwystro neu guddio cynnwys sy’n symud, fflachio neu sgrolio am fwy na 5 eiliad. Mae methiannau cyffredin yn cynnwys carwselau neu lithryddion sy’n animeiddio neu ar gylched awtomatig drwy gynnwys. 

OND: Gall lluniau neu gyfryngau llachar neu strôb achosi ffitiau i rai bobl. Gall ffitiau fod yn beryglus, gan fygwth bywydau mewn rhai achosion, ac nid oes arnom ni eisiau achosi hynny. 

I sbarduno ffit i ddefnyddiwr ag epilepsi ffotosensitif, mae’n rhaid i lun neu ddeunydd amlgyfrwng sy’n fflachio fod yn: 

  • fflachio mwy na 3 gwaith fesul eiliad, 
  • be sufficiently large (a very small flashing image, such as a cursor, will not cause a seizure) 
  • llachar, gyda chyferbyniad sylweddol rhwng y fflachiadau. 

Yn ogystal â hynny, mae’r lliw coch yn fwy tebygol o achosi ffitiau. Nid oes llawer o luniau mawr sy’n fflachio ar y we, fodd bynnag, mae cyfryngau sy’n peri ffitiau’n fwy cyffredin mewn fideos, er enghraifft, fideos ansawdd HD sy’n cynnwys effeithiau strôb arbennig. Dylid osgoi hyn!  

Gweler Meini Prawf 2.3.1 WCAG 2 (Lefel A) sy’n diffinio’r trothwyon o ran amlder, maint, cyferbynnedd, a lliw lluniau strôb. 

Eiconau 

Mae nifer o dudalennau we’n defnyddio eiconau i ychwanegu at neu i ddisodli testun. Mae modd cyfleu cynnwys a swyddogaethau cymhleth, megis gwasgu ar eicon gêr ar gyfer ‘gosodiadau’, drwy eicon bychan. Dylai eiconau fod yn syml, yn hawdd i’w deall, ac yn gyson. Er mwyn iddynt fod yn ddefnyddiol, mae’n rhaid iddynt fod yn gyfarwydd i’r defnyddiwr. Ar draws diwylliannau ac ieithoedd, maent yn gallu cael eu camddehongli. Mewn nifer o achosion, mae testun wrth eu hochr yn ddefnyddiol. 

Lliw  

Don’t Use Color Alone to Convey Meaning | Accessibility Tips (dequeuniversity.com) 

Color: Don’t use color alone to convey meaning (universalusability.com) 

Emojis a gwepluniau 

  • Peidiwch â defnyddio emojis yn lle geiriau. 
  • Peidiwch â defnyddio emojis fel yr unig ffordd o fynegi’r emosiwn y mae arnoch chi eisiau ei fynegi. 
  • Defnyddiwch emojis poblogaidd ac adnabyddus. 
  • Defnyddiwch emojis sy’n trosglwyddo’n dda ar draws dyfeisiau. 
  • Rhowch emojis ar ddiwedd brawddegau, a pheidiwch ag ailadrodd na defnyddio gormod o emojis. 
  • Defnyddiwch emojis, nid gwepluniau. 
  • Dylech osgoi defnyddio emojis nad oes modd eu gweld yn y modd tywyll a golau. 

Cafwyd y wybodaeth hon gan Emoji Readability Guidelines from Content Design London.  

Logos 

Mae Meini Prawf Llwyddiant 1.4.5 WCAG 2 (Lefel AA) yn mynnu nad yw lluniau’n cael eu defnyddio i gyflwyno testun os yw testun arferol yn gallu cyflawni’r un cyflwyniad gweledol. Mae logos yn eithriad ac felly gellir eu defnyddio yn yr un modd â llun. 

Fideos  

  • Ychwanegwch gapsiynau caeedig 
  • Byddwch yn ystyriol o ddyluniad y fideo. 
  • Defnyddiwch destun amgen ar grynoluniau. 
  • Dylid trawsgrifio cyfryngau gweledol neu glywedol. 
  • Gwnewch y dewisiadau cywir o ran lliwiau mewn fideos. 
  • Dylid cynnwys disgrifiadau o’r fideos ar y cyfryngau cymdeithasol. 
  • Remove autoplay from videos. 

Ffeiliau sain 

Mae hwn yn hawdd – nodwch drawsgrifiad drwy HTML! 

 
Cynllun a dyluniad y wefan 

Mae pobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol yn aml yn defnyddio dulliau gwahanol i’r rheiny nad ydynt yn defnyddio technoleg neu beiriannau i’w helpu i bori’r we. Bydd y rheiny sy’n defnyddio rhaglen ysgogi lleferydd neu raglen darllen sgrîn yn arbennig yn pori’r we drwy ddefnyddio’r opsiynau yn y dechnoleg, nid ydynt yn sganio yn yr yn modd â mi, er enghraifft. 

Y nod yw bod rhaid i bopeth yr ydym yn ei ddatblygu fod mor gynhwysol a dealladwy â phosibl. Er ein bod o bryd i’w gilydd yn aberthu ceinder er mwyn bod yn gynhwysol, nid ydym byth yn aberthu cysondeb. 

Negeseuon naid 

Mae WCAG 2.1 yn gwahardd ffenestri naid heb rybudd amlwg ymlaen llaw (Ffocws 2.3.1 A). 

Mae ffenestri newydd yn tynnu sylw oddi ar yr hyn y mae’r defnyddiwr yn ei ddarllen neu ei wneud. Mae hyn yn iawn os yw’r defnyddiwr wedi rhyngweithio â darn o ryngwyneb defnyddiwr ac yn disgwyl gweld ffenestr newydd, megis dialog opsiynau. Mae’r broblem yn ymwneud â negeseuon naid sy’n ymddangos yn annisgwyl. 

Yn dechnegol, dylai ffenestri naid ddefnyddio sgriptiau hygyrch ac fe ddylai’r safle barhau i weithio hyd yn oed os yw JavaScript wedi’i ddiffodd. Hefyd, byddwch yn ymwybodol bod nifer o ddefnyddwyr â phorwyr gweledol yn defnyddio atalwyr negeseuon naid i osgoi hysbysebion naid. 

Dylid ond defnyddio ffenestri naid JavaScript os oes mantais sylweddol o ran ymarferoldeb. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr erthygl hon..  

Rheolau mewn perthynas â’r System Rheoli Cynnwys (CMS) ar gyfer testun 

  • Llinellau byr  
  • Alinio i’r chwith 
  • Bwlch rhwng pob llinell 
  • Bwlch rhwng paragraffau 

Mae gofod gwag yn helpu’r defnyddwyr i ganfod eu ffordd o amgylch y dudalen. Mae llinellau byr nad ydynt yn mynd ar draws y dudalen gyfan sydd wedi’u halinio i’r chwith ac ymyl afreolaidd ar y dde’n ddelfrydol. Mae hyn hefyd yn osgoi’r broblem ‘wal testun’ sy’n gallu peri dryswch i rai defnyddwyr. Mae’r bylchau clir rhwng pob llinell a phob paragraff yn helpu’r llygaid i ganfod eu ffordd ar draws y dudalen heb fynd ar goll. 

Mae’r ystyriaethau hyn yn helpu pawb, ond maent yn arbennig o ddefnyddiol i bobl â chyflyrau megis golwg gwan a dyslecsia. 

Cyferbyniad lliwiau 

Mae Web Content Accessibility Guidelines 2.0 guidance yn nodi y dylid defnyddio cymhareb cyferbynnu o 4:5:1 i fodloni’r safon lefel AA isaf. 

Dallineb lliw 

Gofalwch nad ydych yn defnyddio lliwiau sy’n anodd i unrhyw un sydd â dallineb lliw eu darllen. Mae’r rhain yn cynnwys coch a gwyrdd. Mae offer ac ategion ar gael sy’n gallu efelychu dallineb lliw, ond un cyngor da arall a nodais yn y cwrs oedd, os nad ydych yn gallu gosod ategion, ceisiwch newid lliwiau eich siart i liwiau graddlwyd, neu ei argraffu mewn du a gwn. Drwy wneud hyn, byddwch yn helpu i amlygu’r problemau y gallai eich lliwiau eu peri i bobl. 

Posteri 

Mae’r rhain yn bosteri gwych i’w lawrlwytho a’u harddangos o amgylch eich adran. Crëwyd y rhain gan ddylunydd yn y Swyddfa Gartref, maent yn cynnwys cynghorion o ran hygyrchedd ar gyfer ystod o anghenion mynediad gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys cynghorion ar gyfer dylunio i ddefnyddwyr â dyslecsia, defnyddwyr darllenwyr sgrîn a defnyddwyr â golwg gwan. 

Cyfryngau cymdeithasol  

Fy mhrif gyngor yw defnyddio rhaglen reoli sy’n hygyrch gan fod hyn yn cynnig rhagor o hyblygrwydd ac yn sicrhau bod eich cynnwys yn hygyrch.  

O ran y cynnwys: 

  • Defnyddiwch cyn lleied o ddolenni a hashnodau â phosibl (ond sicrhewch eich bod yn cynnwys dolenni i gael rhagor o wybodaeth) 
  • Gwnewch y pethau sylfaenol i ddechrau a gweithio’ch ffordd i fyny – anelwch y cynnwys at blentyn 9 mlwydd oed i ddechrau 
  • Ceisiwch osgoi defnyddio jargon ac acronymau 
  • Dyluniwch eich lluniau mewn modd hygyrch 
  • Os ydych yn gallu ychwanegu testun amgen, gwnewch hynny  
  • Sicrhewch fod y copi’n nodi’n glir i’r defnyddiwr lle fydd y ddolen yn mynd â nhw (fe ddylai abwyd clicio fod yn erbyn y gyfraith!)  
  • Dylai fideos gynnwys capsiynau a disgrifiad sain 
  • Dylid ond defnyddio GIF os yw’n ychwanegu gwerth at y cynnwys 

O ran y platfform:  

  • Lliwiau 
  • Dolenni 
  • Bio 
  • Testun mewn lluniau 
  • Nodweddion sy’n symud 

Dyma ragor o ddolenni defnyddiol: 

Making social media accessible – GDS Digital Engagement (blog.gov.uk) 

Social Media Playbook – GDS Digital Engagement (blog.gov.uk) 

Accessible communications – GCS (civilservice.gov.uk) 

Offer ar gyfer hygyrchedd 

Gallwch wirio oedran darllen eich cynnwys gan ddefnyddio matrics darllenadwyedd Flesch–Kincaid readability neu Readability-Score.com

Darllenadwyedd: 

  • Grammarly 
  • Hemmingway 
  • Gwirydd rhwyddineb darllen dogfennau Word 

Profi hygyrchedd: 

Dyma’r blog olaf yn y gyfres am hygyrchedd. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau am reoliadau hygyrchedd, mae croeso i chi rannu eich sylwadau isod, neu anfon e-bost at timdigidol@wlga.gov.uk neu timdigidol@wlga.gov.uk 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *