Gwneud Pethau’n Hygyrch

Gwneud Pethau’n Hygyrch

Rydym ni wedi bod yn gwneud llawer o waith ar hygyrchedd gydag awdurdodau lleol ers i ni ddechrau. Mae’n rhywbeth y mae ar bawb eisiau ei wneud yn dda ond fe all orlethu pobl. Mae yna lawer o bethau i’w deall ac mae’n anodd gwybod beth yn union i’w wneud yn ymarferol.

Rydw i wedi siarad efo llawer o awdurdodau lleol ynglŷn â hyn, ac mae arna i eisiau blogio amdano er mwyn rhannu syniadau, dulliau gweithredu a thechnegau a all helpu cynghorau a sefydliadau eraill. Dyma’r blog cyntaf mewn cyfres o dri ar hygyrchedd digidol. Mae’r blog yma’n egluro beth ydi hygyrchedd digidol a pham ei fod yn bwysig. Bydd y ddau flog arall yn edrych ar y pethau sydd wedi’u cynnwys a’u heithrio yn y rheoliadau, ac awgrymiadau ar gyfer mathau gwahanol o gynnwys.  

Beth ydi hygyrchedd? 

Mae hygyrchedd yn rhan allweddol o wasanaethau cyhoeddus digidol. Wedi’r cwbl, mae gan fwy na 6.3 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig ddyslecsia; 1.5 miliwn gydag anabledd dysgu a 2 filiwn gyda nam ar y golwg. 

Yn y cyd-destun yma mae hygyrchedd yn cyfeirio at ddylunio dyfeisiau, cynnyrch ac amgylcheddau fel bod unigolion gydag anableddau neu nam ar y synhwyrau yn gallu defnyddio’r ddyfais neu’r cynnyrch yn llwyddiannus (Codecademy). Mae hygyrchedd gwe yn ymwneud â chyffredinolrwydd a gwneud rhywbeth y mae modd i gymaint o bobl a phosibl ei ddefnyddio. Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol ac yn gyfrifoldeb ar bawb (AbilityNet).  

Yn ôl Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU:  

Mae creu gwefan neu ap symudol hygyrch yn golygu gwneud yn siŵr bod modd i gymaint o bobl â phosibl ei ddefnyddio. 

Mae hyn yn cynnwys pobl gyda: 

  • nam ar y golwg 
  • anawsterau symudedd 
  • nam gwybyddol neu anableddau dysgu 
  • byddardod neu nam ar y clyw 

Mae gan o leiaf 1 ymhob 5 yn y Deyrnas Unedig afiechyd hirdymor, nam neu anabledd (Scope). Mae gan nifer o bobl eraill anableddau dros dro a bydd 1 ymhob 2 o bobl yn anabl ar ryw adeg yn eu bywydau. Dydi namau ddim bob tro yn barhaol. Bydd gan rai pobl anableddau parhaol fel byddardod, bydd gan eraill nam dros dro ar eu synhwyrau oherwydd anaf neu salwch fel haint yn y glust ac ni fydd eraill yn gallu defnyddio’u synhwyrau yn iawn oherwydd sefyllfa benodol e.e. oherwydd eu bod yn gweithio mewn tafarn swnllyd. 

Ond mae hygyrchedd yn fwy na rhoi pethau ar-lein. Mae’n golygu gwneud y cynnwys a’r dyluniad yn ddigon clir a syml fel bod y mwyafrif o bobl yn gallu ei ddefnyddio heb orfod ei addasu, gan gefnogi’r rheiny sydd angen addasu pethau hefyd. Efallai bod gan unigolyn sydd angen addasu pethau nam ar y golwg ac yn defnyddio rhaglen darllen sgrin (meddalwedd sy’n gadael i ddefnyddiwr lywio gwefan ac sy’n darllen y cynnwys yn uchel), dangosydd braille neu chwyddwr sgrin. Efallai bod gan eraill anawsterau echddygol ac yn defnyddio llygoden arbennig, meddalwedd adnabod llais neu efelychydd bysellfwrdd ar y sgrin. 

Rŵan ein bod ni’n gwybod beth ydi hygyrchedd a pha mor bwysig ydi o, sut ydych chi’n gwneud yn siŵr bod llwyfannau a chynnwys yn hygyrch? Bydd y ddau flog nesaf, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf, yn ymdrin â hynny.  

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, gadewch sylw isod neu anfonwch e-bost i timdigidol@wlga.gov.uk neu timdigidol@wlga.gov.uk 

Contact us and subscribe to our mailing list to receive regular newsletter

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *