Creu Cymuned Ymarfer
n ddiweddar fe arweiniais gyfarfod o Gymuned Ymarfer Dylunio Gwasanaeth llywodraeth leol Cymru, yn canolbwyntio ar bopeth sy’n ymwneud â dylunio cynnwys (beth arall?!).
Roedd hon yn sesiwn ddiddorol iawn gan fy helpu i ddod yn gyfarwydd â sut mae cynnwys yn cael ei ystyried a’i reoli ar draws yr awdurdodau rydym ni’n gweithio â nhw yn CLlLC. Yn fwy pwysig, roeddwn ni’n gwybod bod dylunio cynnwys yn destun roedd ein haelodau cymunedol yn awyddus i’w drafod.
Gan gymryd cam yn ôl, efallai eich bod yn ystyried beth yw cymuned ymarfer, a pham fod ein tîm wedi sefydlu un ar gyfer dylunio gwasanaeth o fewn llywodraeth leol yng Nghymru. Yn ei hanfod, mae’n ofod i bobl â diddordebau cyffredin i adeiladu rhwydwaith lle gallant ddysgu gan ei gilydd (mae gwefan GOV.UK hefyd yn cynnwys eglurhad o beth yw cymunedau ymarfer).
Fe allai hyn gynnwys rhannu ffyrdd gwahanol o weithio, adolygu arferion gorau, datrys problemau’n gydweithredol, a phenderfynu a rhwydweithio cyffredinol. Yn hollbwysig, caiff ei yrru gan aelodau’r gymuned eu hunain, er mwyn iddynt gael y gefnogaeth maent ei angen.
Gan fod pob awdurdod lleol fel arfer yn rheoli rhwng 800 a 1400 o wasanaethau yr un, roedd hi’n glir fod yna gyfle mawr i wneud gwahaniaeth gyda chymuned ymarfer yn y maes yma.
Dim ond cynyddu mae’r cyfle’n mynd i wneud. Bu’n rhaid i awdurdodau symud yn gyflym oherwydd y pandemig i symud mwy o’u gwasanaethau ar-lein i fwy o bobl – ac wrth i ddinasyddion ddod i arfer â hwylustod a hyblygrwydd yr opsiynau newydd yma, mae’n rhaid parhau i’w hymestyn a gwella i fodloni’r galw.
Cynhelir ein sesiynau cymuned ymarfer bob mis, ac mae’r tîm wedi cynnal 3 hyd yn hyn. Roeddwn i’n edrych ymlaen at gael cyfle i arwain y sesiwn ddiweddaraf, ac roedd hi’n wych gweld aelodau’r gymuned yn ymgysylltu mewn trafodaeth fywiog.
Fe wnaethom gychwyn gydag awdurdodau gwahanol yn rhannu sut maent yn rheoli cynnwys, yn cynnwys pwy sy’n gyfrifol amdano a’i leoliad o fewn y tîm ehangach. Roedd yna lawer o syniadau i sicrhau cysondeb, drwy safonau, egwyddorion a Dangosyddion Perfformiad Allweddol.
Yna symudodd y drafodaeth ymlaen i amryw o destunau oedd yn ymwneud â dylunio cynnwys. Roedd y rhain yn cynnwys dewis y teclynnau cywir ar gyfer anghenion y defnyddiwr, rheoli gofynion y Gymraeg, a mynd i’r afael â materion hygyrchedd o ran elfennau megis PDFs.
Roedd hygyrchedd yn faes o ddiddordeb mawr. Roedd aelodau’r gymuned yn awyddus i adeiladu hygyrchedd mewn i bob maes o gynnwys, ei wneud yn flaenoriaeth i’w ystyried o’r cychwyn a llawer mwy nag un asesiad i gael ei basio ar ddiwedd prosiect. Fe wnaethant rannu awgrymiadau defnyddiol ar gyfer hyfforddiant ac adnoddau eraill – ac fe soniais i hefyd am fy ymddangosiad ar weminar hygyrchedd digidol a gynhaliwyd gan CDPS.
Roedd yr angen i annog cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth yn thema arall oedd yn codi dro ar ôl tro, ar gyfer hygyrchedd a dylunio cynnwys yn fwy cyffredinol. Rydym ni’n gwybod mai taith barhaus yw hon i awdurdodau lleol, ond gobeithio bod cymunedau ymarfer yn rhoi lle ar gyfer trafodaethau cynorthwyol ar unrhyw adeg o’r daith honno.
Rydym ni hefyd yn gobeithio cefnogi ymgysylltu trwy gyflwyno fframwaith dysgu dylunio cynnwys. Byddwn yn siarad mwy am hyn yn y dyfodol agos. Bydd hyn yn cyfeirio pobl at ystod o adnoddau ar bob agwedd o ddylunio cynnwys, yn cynnwys hygyrchedd fel sgil sylfaenol.
Fe sylwch mai ‘pobl’ ddefnyddies i ac nid ‘ymarferwyr’ neu ‘ddylunwyr cynnwys’. Nid ydym eisiau cyfyngu’r fframwaith i’r rhai sydd â ‘cynnwys’ neu ‘dylunio’ yn eu teitl, yn enwedig gan nad oes gan nifer o’r rhai sydd yn dylunio cynnwys ar hyn o bryd deitl swyddogol, ac efallai nad ydynt yn adnabod eu hunain yn y rôl.
Bydd angen i’r fframwaith weithio i’r bobl yma, boed nhw eisiau dysgu mwy am ddisgyblaeth ffurfiol dylunio cynnwys, neu eisiau cyngor mwy cyffredinol i’w helpu i’w weithio’n fwy effeithiol. Rydym eisiau bod yn agored i’r rhai sydd eisiau symud i’r maes yma, yn ogystal â budd-ddeiliaid ehangach sydd angen gwybod beth yw dylunio cynnwys a pham ei fod yn bwysig.
Mae’r adborth a gawsom o’r sesiwn cymuned ymarfer wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mwynhaodd pobl glywed gan eraill mewn sefyllfa debyg iddynt, ac roedd y trafodaethau, straeon ac adnoddau’n ddefnyddiol. Rydym ni’n ystyried cynnal sesiynau dylunio cynnwys a hygyrchedd yn y dyfodol yn rhan o gymuned ymarfer, yn ogystal â ffyrdd eraill y gallwn gynnig cefnogaeth yn y maes hwn. Waeth beth rydym ni’n ei wneud, fe fyddwn yn gwneud hynny gyda chyfraniad gan y gymuned, er mwyn sicrhau ei fod yn cyflwyno gwerth ac yn gweithio iddynt. Fe fyddwn ni’n rhannu mwy am y cynlluniau wrth i’r manylion gael eu cwblhau.
‘Dw i’n sylweddoli fy mod wedi sôn am lawer o bethau da sydd ar y gweddill, felly cadwch lygad allan amdanynt, a pheidiwch anghofio cofrestru i ymuno â’n rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf! Ac os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch e-bostio’r tîm timdigidol@wlga.gov.uk.
Gadael Ymateb