Beth mae’r Rheoliadau Hygyrchedd yn eu Cwmpasu?
Roedd fy mlog blaenorol yn trafod beth yw hygyrchedd. Ond beth mae’n ei olygu i sefydliadau’r sector cyhoeddus a’u systemau, eu platfformau a’u cynnwys?
Dylai holl wefannau’r sector cyhoeddus fod yn hygyrch er mwyn bodloni Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018Daeth y rhain i rym ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus ar 23 Medi 2018. Mae’r rheoliadau yn adeiladu ar eich rhwymedigaethau presennol i bobl sydd ag anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (neu Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 yng Ngogledd Iwerddon). Maent yn dweud y dylech wneud eich gwefan neu eich ap ffôn symudol yn fwy hygyrch drwy eu gwneud yn ‘ganfyddadwy, yn ymarferol, yn ddealladwy, ac yn gadarn’.
Pa systemau y mae’r rheoliadau yn eu cwmpasu?
Maent yn cwmpasu:
- Gwefannau mewnrwyd ac allrwyd (a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi 2019)
- Apiau ffôn symudol gan y sector cyhoeddus a ddatblygwyd er mwyn i’r cyhoedd eu defnyddio. Mae’r rheoliadau hyn yn cwmpasu meysydd megis cyrff sector cyhoeddus yn defnyddio dewisiadau ap pwrpasol o ran ymarferoldeb neu frandio.
- Rhaglenni ffôn symudol (ers 23 Mehefin 2021)
Nid ydynt yn cwmpasu apiau ffôn symudol ar gyfer grwpiau diffiniedig penodol megis gweithwyr neu fyfyrwyr. Mae angen gwneud mewnrwydi ac allrwydi hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2019) yn hygyrch pan fyddant yn cael eu diweddaru.
Gorfodaeth
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon, sy’n gorfodi’r gofyn i wneud gwefannau ac apiau ffôn symudol y sector cyhoeddus yn hygyrch.
Mae sefydliadau nad ydynt yn bodloni’r gofyn o ran hygyrchedd neu sy’n methu darparu ymateb boddhaol i gais i gynhyrchu gwybodaeth mewn fformat hygyrch, yn methu gwneud addasiadau rhesymol. Golyga hyn y byddant yn torri Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995.
Gall y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon, ddefnyddio eu pwerau cyfreithiol yn erbyn y sefydliadau sy’n troseddu, yn cynnwys ymchwiliadau, rhybuddion gweithred anghyfreithlon, ac achosion llys.
Gwiriwch gyda’ch cynghorwr cyfreithiol (os oes gennych un) os ydych yn ansicr a yw’r rheolau hygyrchedd newydd yn berthnasol i chi.
W3C ac WCAG
Mae Consortiwm y We Fyd-eang (W3C) yn gymuned ryngwladol lle mae sefydliadau sy’n aelodau, staff llawn amser, a’r cyhoedd yn cydweithio er mwyn datblygu safonau gwe. Dan arweiniad dyfeisiwr y We a’r Cyfarwyddwr Tim Berners-Lee, a’r Prif Swyddog Gweithredol Jeffrey Jaffe, cenhadaeth W3C yw arwain y We at ei llawn botensial. Maent wedi datblygu safonau rhyngwladol er mwyn sicrhau hygyrchedd ar y We. Mae fideo 4 munud ar y safle sy’n cynnig trosolwg o’r rhain.
Mae Mae Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.1 yn diffinio’n fanwl sut i wneud cynnwys Gwe yn fwy hygyrch i bobl sydd ag anableddau.
Pethau efallai na fydd angen ichi eu cywiro
Nid oes angen ichi gywiro’r mathau canlynol o gynnwys gan eu bod wedi eu heithrio rhag y rheoliadau:
- sain a fideo a recordiwyd ymlaen llaw a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020
- sain a fideo byw
- casgliadau treftadaeth megis llawysgrifau wedi eu sganio
- PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 – oni bai fod ar ddefnyddwyr eu hangen er mwyn defnyddio gwasanaeth, er enghraifft ffurflen sy’n caniatáu ichi nodi eich dewisiadau o ran prydau ysgol
- mapiau – ond bydd angen ichi ddarparu gwybodaeth hanfodol mewn fformat hygyrch megis cyfeiriad
- cynnwys trydydd parti sydd o dan reolaeth rhywun arall os na wnaethoch chi dalu amdano neu ei ddatblygu eich hun — er enghraifft, botymau ‘hoffi’ cyfryngau cymdeithasol
- cynnwys ar fewnrwydi neu allrwydi a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2019 (oni fyddwch yn gwneud newidiadau mawr i’r cynnwys ar ôl y dyddiad hwnnw)
- gwefannau wedi eu harchifo nad oes mo’u hangen ar gyfer gwasanaethau y mae eich sefydliad yn eu darparu ac nad ydynt yn cael eu diweddaru
Bydd angen ichi egluro yn eich datganiad hygyrchedd nad ydych wedi gwneud pethau fel hyn yn hygyrch gan eu bod wedi eu heithrio. I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad hygyrchedd, gweler yr adran “Sut i’w bodloni”.
Darparwr gwefan/ap
Rydych yn gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod eich gwefan yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, hyd yn oed os ydych wedi rhoi’r gwaith o greu eich gwefan i ddarparwr allanol.
Os ydych wedi rhoi’r gwaith o greu eich gwefan gyfan, neu ran ohoni, i ddarparwr allanol, bydd angen ichi gydweithio er mwyn sicrhau bod eich gwefan yn bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.
Sut i’w bodloni?
Bydd eich gwefan neu eich ap ffôn symudol yn bodloni’r gofynion cyfreithiol mwy newydd os byddwch chi’n:
- bodloni safon hygyrchedd ryngwladol WCAG 2.1 AA – ond efallai y bydd rhesymau cyfreithiol dilys dros beidio â bodloni’r safonau hygyrchedd
- cyhoeddi datganiad hygyrchedd yn egluro pa mor hygyrch yw eich gwefan / ap ffôn symudol
Ansicr o sut mae datganiad hygyrchedd yn edrych? Dyma sampl o ddatganiad hygyrchedd gan gov.uk, yn cynnwys geiriad helaeth.
Os ydych yn ansicr a yw eich gwefan neu eich ap yn bodloni WCAG 2.1 ar hyn o bryd, y ffordd orau o wneud hyn yw gofyn i’ch tîm eu gwirio. Yna, crëwch gynllun i gywiro’r problemau a ganfuwyd. Dylai eich tîm gwe ddefnyddio’r canllaw i wneud eich gwefan yn hygyrch a chyhoeddi datganiad hygyrchedd..
Pwy sydd wedi eu heithrio neu eu heithrio’n rhannol?
Mae’n rhaid i bob corff sector cyhoeddus fodloni gofynion 2018 oni bai eu bod wedi eu heithrio.
Mae cyrff y sector cyhoeddus yn cynnwys:
- sefydliadau’r llywodraeth ganolog a llywodraeth leol
- rhai elusennau a sefydliadau anllywodraethol eraill
Mae gan bob darparwr gwasanaeth yn y DU rwymedigaeth gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 neu Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (yng Ngogledd Iwerddon).
Mae angen i sefydliadau sydd wedi eu heithrio’n rhannol gyhoeddi datganiad hygyrchedd ar eu gwefan neu ar eu hap ffôn symudol. I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad hygyrchedd, gweler yr adran “Sut i’w bodloni”.
Mae ysgolion cynradd ac uwchradd neu feithrinfeydd wedi eu heithrio’n rhannol rhag y rheoliadau hygyrchedd HEBLAW am y cynnwys y mae ar bobl ei angen er mwyn defnyddio eu gwasanaethau, er enghraifft ffurflen sy’n caniatáu ichi amlinellu eich dewisiadau o ran prydau ysgol.
Baich anghymesur
Mae rhai sefydliadau heb eu heithrio ond efallai na fydd angen iddynt fodloni’r safonau hygyrchedd yn llawn. Dyma’r sefyllfa pe bai bodloni’r gofynion yn llawn yn ormod i sefydliad allu ymdopi’n llawn ag ef – mae’r rheoliadau’n galw hyn yn ‘faich anghymesur’.
Mae angen ichi feddwl am faich anghymesur yng nghyd-destun beth sy’n rhesymol i’w wneud ar hyn o bryd. Os bydd eich amgylchiadau’n newid, bydd angen ichi adolygu a yw rhywbeth yn dal yn faich anghymesur.
Er mwyn datgan bod gwneud rhai pethau’n hygyrch yn faich anghymesur, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i gynnal asesiad. Yn yr asesiad rydych yn pwyso a mesur, yn fras:
- y baich y mae gwneud y pethau hynny’n hygyrch yn ei osod ar eich sefydliad
- buddion gwneud y pethau hynny’n hygyrch
Pan fyddwch yn gwneud eich asesiad, mae angen ichi feddwl am:
- faint ac adnoddau eich sefydliad
- natur eich sefydliad (a oes gennych chi wasanaethau sydd wedi eu hanelu at bobl sy’n debygol o fod ag anabledd?)
- faint fyddai gwneud pethau’n hygyrch yn ei gostio a’r effaith y byddai hynny’n ei gael ar eich sefydliad
- faint o ddefnyddwyr anabl a fyddai’n cael budd pe baech chi’n gwneud pethau’n hygyrch
Efallai y byddwch yn barnu na fyddai buddion gwneud rhai pethau’n hygyrch yn cyfiawnhau’r gost i’ch sefydliad. Os felly, gallwch hawlio na fyddai’n rhesymol i chi wneud y pethau hynny’n hygyrch gan y byddai’n faich anghymesur.
Ni allwch gymryd pethau fel diffyg amser neu wybodaeth i ystyriaeth, na dadlau bod gwneud pethau’n hygyrch yn faich anghymesur gan nad ydych wedi gwneud hynny’n flaenoriaeth.
Enghreifftiau o feichiau anghymesur
Enghraifft 1
Efallai y gallech ddadlau y byddai bodloni’r holl ofynion yn faich anghymesur pe bai gwneud hynny’n defnyddio’r rhan fwyaf o gyllideb eich sefydliad am y flwyddyn ac yn golygu na allech wneud dim o’ch gwaith arall – ac na fyddai gwneud hynny’n gwella pethau’n sylweddol ar gyfer defnyddwyr anabl.
Enghraifft 2
Byddai cost newid cod er mwyn gwella cyferbynnedd lliw eich gwefan neu eich ap yn isel iawn, a byddai’n gwella pethau i lawer o ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg. Efallai na allech ddadlau y byddai newid hyn yn faich anghymesur.
Rydych yn llai tebygol o allu hawlio baich anghymesur ar gyfer gwasanaethau sydd:
- wedi eu hanelu’n benodol at bobl anabl, er enghraifft ‘gwneud cais am fathodyn glas’
- yn galluogi pobl i gymryd rhan mewn cymdeithas, megis ‘cofrestru i bleidleisio’ neu ‘dod o hyd i swydd’
Bydd angen ichi hefyd ystyried beth sy’n rhesymol i’w gywiro nawr, a beth y byddwch chi’n gallu ei gywiro yn y dyfodol. Mae canllawiau i’ch helpu chi neu eich tîm gwe i gynllunio a blaenoriaethu beth i’w gywiro.
Pe bai cywiro rhywbeth yn faich anghymesur, bydd angen ichi ddweud hynny yn y datganiad hygyrchedd y byddwch yn ei gyhoeddi ar eich gwefan neu eich ap ffôn symudol.
Hyd yn oed os ydych wedi eich eithrio rhag y rheoliadau hygyrchedd, neu os ydych o’r farn y byddai eu bodloni’n faich anghymesur, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 neu Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (yng Ngogledd Iwerddon) yn nodi bod gofyn ichi, yn ôl y gyfraith, wneud addasiadau rhesymol i bobl anabl pan mae gofyn amdanynt. Gallai defnyddiwr ofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol, hygyrch, megis print bras neu recordiad sain. Mae yna sawl ffactor sydd yn penderfynu beth sy’n gwneud rhywbeth yn addasiad ‘rhesymol’.
Felly dyna egluro beth sydd oddi mewn ac oddi allan i gwmpas y rheoliadau hygyrchedd, a beth y mae angen i chi ei ddeall a’i benderfynu ar gyfer eich safleoedd a’ch platfformau. Os oes gennych unrhyw farn, sylwadau neu gwestiynau ynghylch y rheoliadau hygyrchedd, gadewch sylw isod, neu anfonwch e-bost atom ar timdigidol@wlga.gov.uk neu timdigidol@wlga.gov.uk
Gadael Ymateb