Fframweithiau Dysgu

Fframweithiau Dysgu

Cefndir

Gwyddom fod y sector gyhoeddus Gymreig, ac yn arbennig llywodraeth leol, yn cael anhawster recriwtio pobl â’r sgiliau cywir i swyddi digidol, data a thechnoleg. Rydym hefyd yn cydnabod nad yw’r bwlch sgiliau yn her y gellir ei goresgyn trwy recriwtio yn unig. Mae angen datblygu sgiliau staff presennol awdurdodau hefyd, a hynny ar draws pob rôl a hynafedd.

​Rydym yn clywed gan lawer o staff awdurdod lleol sy’n dweud nad ydynt yn gwybod ble i fynd i ddatblygu’r sgiliau hyn na beth i chwilio amdano. Rydym wedi bod yn darparu hyfforddiant ar draws ystod eang o sgiliau ac rydym wedi cael adborth gwych.  Rydym yn cydweithio’n agos ag awdurdodau i dargedu cyrsiau ar gyfer eleni. Fodd bynnag, gwyddom mai datrysiad byrdymor a thactegol iawn yw hwn i’r bwlch mawr mewn sgiliau a gallu. 

Lansio Fframweithiau Dysgu

Er mwyn cynorthwyo i gau’r bwlch hwn, rydym yn lansio Fframweithiau Dysgu hunan-arweiniol ar gyfer Dylunio Cynnwys ac Ymchwil Defnyddwyr:

  • Dewiswyd Dylunio Cynnwys oherwydd ein bod yn gwybod o’n Cymunedau a’n Gweithgorau bod sgiliau yn bodoli yn y maes hwn y mae gan staff ddiddordeb yn eu datblygu.
  • Dewiswyd Ymchwil Defnyddwyr oherwydd mai dyma yw egwyddor ganolog dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl, a bod rhai aelodau o staff yn gwneud rhywfaint o hyn yn eu swyddi gydag ychydig iawn o ddealltwriaeth o arfer orau. 

Mae’r fframweithiau’n darparu matrics sgiliau a datblygu sy’n rhoi strwythur, adnoddau a chefnogaeth i ddysgwyr allu meithrin a datblygu sgiliau newydd mewn swyddi digidol. Mae’r matricsau yn hyblyg ac wedi’u rhannu’n bynciau penodol y gall dysgwyr ddewis canolbwyntio arnynt, ac maent yn esbonio’r sgiliau penodol y bydd dysgwyr yn eu hennill a sut y gallant arddangos y rhain yn eu swyddi wrth fynd ymlaen.

Roeddem yn mynd i’w galw yn Llwybrau Dysgu ond roedd hynny’n awgrymu cynnydd llinol o’r dechrau i’r diwedd. Nid oes angen i ddefnyddwyr y fframweithiau hyn ddechrau na gorffen mewn lle penodol. Mae’r dull aflinol yn helpu i fynd i’r afael â’r diffyg amser sydd gan staff awdurdodau i feithrin sgiliau a rhoi’r rhain ar waith, a gwyddom fod hon yn broblem gyffredin. 

Bydd y Fframweithiau Dysgu yn cael eu diweddaru’n barhaus a’u hailadrodd wrth i ymchwil, safonau a gwybodaeth arfer orau gael eu rhyddhau i sicrhau eu bod yn aros yn gyfredol. Yn unol ag arddull dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, rydym eisoes wedi ailadrodd y rhain yn seiliedig ar adborth defnyddwyr cyn y lansiad, ond byddwn yn parhau i wneud hynny hefyd. Rydym yn falch iawn nad yw’r rhain yn derfynol ac y byddant yn newid dros amser.

Bydd y fframweithiau hefyd yn cael eu cefnogi gan Gymunedau Ymarfer a sefydlir gan dîm Digidol CLlLC fel fforwm o staff i drafod syniadau a rhannu arfer orau, gweithio trwy’r heriau a rhannu eu profiadau o ddysgu. Byddwn yn cynnig cyfleoedd mentora a hyfforddi i staff er mwyn helpu i roi hwb i’w sgiliau hefyd.

Cymerwch ran

​Mae’r matricsau sgiliau bellach ar gael ar-lein, i unrhyw un sy’n gweithio yn unrhyw ran o lywodraeth leol yng Nghymru:

Rydym yn lansio ein Cymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys ddydd Mawrth 29 Tachwedd, a bydd y grŵp Ymchwil Defnyddwyr yn dechrau yn y flwyddyn newydd. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i ganfod hyfforddiant i gefnogi’r fframweithiau a bydd gennym fwy o newyddion am hyn tua mis Rhagfyr. 

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth am y fframweithiau, y cymunedau ymarfer a’r hyfforddiant yn ein newyddlen, a gallwch gofrestru ar ein gwefan i dderbyn y newyddlen hon fel nad ydych yn methu unrhyw beth.  Os hoffech gofrestru nawr, e-bostiwch ni ar digitalteam@wlga.gov.uk neu timdigidol@wlga.gov.uk a rhowch yr enwau yr hoffech eu hychwanegu at ein rhestr. Gallwch weld recordiad o’r sesiwn lansio yma.

Mae’n bwysig nad yw’r fframweithiau hyn ar gyfer ymarferwyr digidol yn unig. Gwyddom ein bod yn taro’r ddemograffeg hon mewn llawer o’n gwaith ymgysylltu, a’n bod yn pregethu llawer o’r amser i’r rhai sydd wedi’u trosi. Dyma gyfle i ddatblygu dysgu y gall unrhyw un mewn unrhyw swydd mewn awdurdod ei gymryd. Mae’n bwysig bod hyn yn wir i sicrhau cynnydd net o ddealltwriaeth ddigidol a chanolbwyntio ar ddefnyddwyr ar draws y gwahanol wasanaethau ac awdurdodau.

Rydym yn gweld y fframweithiau fel cyfle i weithio’n dryloyw, rhannu ein gwaith a’n canfyddiadau ar draws y gwahanol sectorau a chefnogi’r dyhead i gau’r bylchau sgiliau hyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *