Cymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys
Rydym newydd gynnal y sesiwn Cymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys gyntaf ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru. Roedd hon yn sesiwn gadarnhaol iawn gyda llawer o syniadau am sut i ddatblygu dylunio cynnwys fel disgyblaeth, yr ydym ni bellach yn bwriadu adeiladu arni mewn sesiynau yn y dyfodol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut daeth y Gymuned Ymarfer i fodolaeth, beth rydyn ni wedi’i gynllunio nesaf a sut gallwch chi gymryd rhan – darllenwch ymlaen…
Gwybodaeth am y Gymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys
Sefydlwyd y Gymuned Ymarfer Dylunio Cynnwys i gefnogi’r Fframweithiau Dysgu a lansiwyd gennym yn ddiweddar.
Mae’r Fframwaith Dysgu Dylunio Cynnwys yn darparu mynediad at fatrics sgiliau a datblygu y gall pobl mewn awdurdodau lleol weithio drwyddo i feithrin eu galluoedd. Rydym hefyd yn archebu cyrsiau hyfforddi i ddarparu sylfaen gref o wybodaeth a rhoi hwb i deithiau dylunio cynnwys pobl.
Roedd hefyd yn bwysig darparu gofod lle gallai pobl sy’n defnyddio fframwaith rannu’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu, gweithio ar heriau a chyfleoedd cyffredin, ac adeiladu rhwydwaith cymorth i’w helpu gyda’u gweithgareddau o ddydd i ddydd. Dyma lle mae’r Gymuned Ymarfer yn dod i mewn.
Yr hyn a gwmpaswyd yn y sesiwn gyntaf
Er mwyn bod yn werthfawr, rhaid i’r Gymuned Ymarfer gael ei gyrru gan yr hyn y mae aelodau’r gymuned ei angen ac am ei gyflawni. Felly, trafodaeth agored ynglŷn â pha fath o bethau y dylem eu cynnwys a sut y dylem redeg y gymuned oedd y sesiwn gyntaf.
Roedd yn dda gweld bod llawer o gonsensws ynghylch yr hyn yr oedd pobl am ei gael o’r grŵp, gydag ychydig o themâu allweddol yn dod i’r amlwg:
- Rhannu arfer gorau: mae aelodau’r gymuned am ddefnyddio’r gofod i rannu gwybodaeth a syniadau am arfer gorau dylunio cynnwys yn seiliedig ar y gwaith y maent yn ei wneud. Y nod yw gwella gwybodaeth a gwasanaethau i helpu eraill sy’n gweithio ar heriau tebyg.
- Canllawiau ac egwyddorion: buom hefyd yn sôn am sut i gasglu canfyddiadau arfer gorau mewn ffyrdd sy’n helpu i’w cymhwyso mewn awdurdodau lleol, megis canllawiau cynnwys neu egwyddorion arweiniol. Dyma faes archwilio diddorol iawn a byddwn yn edrych arno yn fanylach yn y dyfodol.
- Cydweithio: gan fod llawer o awdurdodau yn gweithio mewn meysydd tebyg, bydd y grŵp yn darparu lle i gysylltu a chydweithio ar heriau a rennir. Gall hyn hefyd ymestyn i gynhyrchu allbynnau a rennir y gellir eu cymhwyso ar draws awdurdodau lluosog i wneud pethau’n fwy effeithlon ac effeithiol.
- Pynciau dylunio cynnwys: trafodwyd canllawiau a safonau eto pan wnaethom edrych ar bynciau i’w cwmpasu, a chodwyd hygyrchedd fel maes arall o ddiddordeb a phwysigrwydd arbennig. Fe ddechreuon ni hefyd edrych ar bwysigrwydd edrych ar ddadansoddiad a’r defnydd o ddyfeisiau, yn ogystal â sut mae’n rhaid ystyried gofynion dylunio cynnwys dwyieithog ar bob cam o’r broses.
- Fformatau sesiynau: rydym yn gobeithio cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau i ddarparu rhywbeth i bawb, ar wahanol lefelau o fewn awdurdodau. Dywedodd aelodau o’r gymuned wrthym eu bod am weld pethau fel gweithgareddau beirniadu cynnwys, dangos a dweud, trafodaethau â thema a sgyrsiau gan weithwyr proffesiynol dylunio cynnwys o fewn a thu allan i’r llywodraeth. Byddwn yn ystyried cynnwys y rhain i gyd yn ein rhaglen weithgareddau!
Buom hefyd yn trafod sut mae pobl am i’r Gymuned Ymarfer gael ei chynnal, a’r teimlad ar hyn o bryd yw bod trafodaeth ar-lein ar Teams bob 2 fis yn lle da i ddechrau. Rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn gynnal cyfathrebu a chydweithio da rhwng y sesiynau hyn, drwy sianeli fel sgwrsio ar-lein a newyddlenni.
Beth nesaf?
Roedd yn wych cael cymaint o adborth adeiladol gan y rhai a oedd yn bresennol o ran y ffordd maent am i’r Gymuned Ymarfer edrych a beth maent am ei gael ohoni. Yn seiliedig ar eu cyfraniadau, rydym wedi cynllunio braslun ar gyfer y sesiynau nesaf – sy’n mynd â ni i ganol 2023:
Dydd Mawrth, 31 Ionawr, 11am: Safonau, egwyddorion, canllawiau
Bydd y sesiwn hon yn drafodaeth agored o’r safonau, egwyddorion a chanllawiau pwysicaf ar gyfer dylunio cynnwys yn dda. Gallwn hefyd archwilio sut y gellir casglu a chyfleu’r rhain yn y ffordd sydd fwyaf gwerthfawr i awdurdodau lleol.
Dydd Mawrth, 28 Mawrth, 4pm Beirniadu, adolygu, dangos a dweud
Rydym yn bwriadu cymysgu’r fformat ar gyfer y sesiwn hon, ac rydym yn gwahodd awdurdod lleol i osod y rhaglen. Gall hyn fod yn feirniadaeth o gynnwys sy’n bodoli eisoes, sesiwn dangos a dweud, neu’n adolygiad cydweithredol o wasanaeth cyffredin. Os oes gennych rywbeth yr hoffech ddod ag o i’r sesiwn, cysylltwch â ni!
Dydd Mawrth, 30 Mai, 12:30pm: Popeth sy’n ymwneud â hygyrchedd
Codwyd hygyrchedd fel pwnc craidd i’r grŵp ei drafod, felly byddwn yn defnyddio’r sesiwn hon i ddeall heriau a blaenoriaethau cyffredin sy’n ymwneud â hygyrchedd, yn ogystal â’r hyn y mae aelodau’n ei wneud i fynd i’r afael â’r rhain o fewn eu hawdurdodau.
Efallai y byddwch yn sylwi bod y sesiynau hyn yn cael eu cynnal ar adegau gwahanol, yn seiliedig ar adborth gan y grŵp i helpu cymaint o bobl â phosibl i fynychu. Byddwn yn parhau i adolygu hyn ac os bydd dewisiadau’n newid, byddwn yn diweddaru sesiynau’r dyfodol yn unol â hynny.
Cymerwch ran
Rydym am i gymaint o bobl â phosibl elwa o’r Fframweithiau Dysgu a’r Gymuned Ymarfer. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, anfonwch e-bost atom ni yn timdigidol@wlga.gov.uk ac fe wnawn ni eich ychwanegu at wahoddiadau yn y dyfodol.
Gallwch hefyd anfon e-bost atom os ydych am archebu lle ar y cyrsiau hyfforddi dylunio cynnwys rydym yn eu cynllunio, a byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y bydd y rhain yn fyw.
Mae gennym hefyd gopïau o ‘Content Design’ gan Sarah Winters, sy’n rhoi cyflwyniad gwych i’r ddisgyblaeth. Mae gennym ni’r gallu i ddarparu un copi i bob awdurdod lleol, felly os nad yw eich awdurdod wedi gwneud cais eto, anfonwch neges e-bost atom ni gyda’ch manylion er mwyn i ni anfon y llyfr atoch.
I orffen, cofrestrwch i gael ein newyddlen ar gyfer y newyddion a’r cyhoeddiadau diweddaraf.
Gadael Ymateb