Gweithgor Egwyddorion a Rennir a Dangosyddion Perfformiad

Gweithgor Egwyddorion a Rennir a Dangosyddion Perfformiad

Cefndir

Nod y gweithgor hwn oedd datblygu egwyddorion a dangosyddion perfformiad sy’n Canolbwyntio ar Bobl. Mewn awdurdodau lleol mae Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl yn golygu bod y dinasyddion yn ganolog i’n gwasanaethau a’n diben. Nod y prosiect hwn oedd creu egwyddorion sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion y gellid eu mabwysiadu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. 

Bu’r gweithgor ar waith am dri mis ac roedd yn cynnwys swyddogion ar lefelau gwahanol o sawl awdurdod lleol. Roedd hyn yn golygu y gallai’r prosiect fanteisio ar amrywiaeth o brofiadau a safbwyntiau. Roedd pob aelod o’r gweithgor yn ymrwymo i roi 2 awr o’u hamser bob mis, 1 awr gyda gweddill y grŵp ac awr arall yn paratoi ar gyfer yr wythnos ganlynol. 

Ar y gweithgor roedd cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Caerfyrddin, Data Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Powys, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Gweithgareddau

Fe wnaethom ddechrau’r Gweithgor drwy gyflwyno ein hunain, ein sgiliau, a’n hamcanion ar gyfer y 12 wythnos nesaf. Yna aethom ati i drafod y broblem roeddem yn ceisio ei datrys gan roi cynnig ar ei mynegi. Yn y pen draw, dyma’r amcan y gwnaethom gytuno arno: 

Beth sydd ei angen i sicrhau profiad cadarnhaol i ddinasyddion? Sut gellir mesur hyn?

Gwnaeth pob un ohonom gydnabod yn fuan bod angen i ni wneud gwaith ymchwil er mwyn ateb y cwestiwn cyntaf yn ein hamcan. Fe wnaethom ddechrau gydag ymchwil bwrdd gwaith, a’n nod oedd ateb,‘Pa nodweddion cyffredinol y gellid eu defnyddio gyda’r rhan fwyaf o wasanaethau a fydd yn gwella profiad cwsmeriaid?

Fe wnaethom rannu ein canfyddiadau gyda’n gilydd ac yna symud ymlaen at gynllunio ymchwil sylfaenol. Fe wnaethom benderfynu cynnal gwaith ymchwil sylfaenol gyda ffrindiau a theulu sydd wedi defnyddio gwasanaeth yn ddiweddar, ac yna profi ein hegwyddorion yn ddiweddarach gyda hapsampl o ddefnyddwyr yr awdurdod lleol. 

Fe wnaethom benderfynu bod cyfweliadau wedi eu strwythuro’n rhannol yn addas er mwyn casglu’r wybodaeth roedd ei hangen arnom. Ar ôl ein rownd gyntaf o gyfweliadau wedi eu strwythuro’n rhannol, fe wnaethom gyflwyno ein canfyddiadau i’n gilydd ac yna ysgrifennu’r egwyddorion. Aethom ati i ddechrau drwy ddiffinio ein Cynnyrch Sylfaenol Hyfyw a’n Diffiniad o Gwblhau. Roedd hyn yn ein helpu i weld yr hyn roeddem yn anelu tuag ato. Yna, daethom â’n canfyddiadau bwrdd gwaith a chanfyddiadau ein hymchwil sylfaenol at ei gilydd i lunio’r egwyddorion hyn. 

Wrth ysgrifennu’r egwyddorion, fe wnaethom ddechrau edrych ar recriwtio cyfranogwyr ar gyfer grwpiau ffocws a chyfweliadau er mwyn profi’r egwyddorion hyn gyda nhw. Cafodd mwy nag 80 o gyfranogwyr eu recriwtio a phrofwyd yr egwyddorion gyda 29 o ddinasyddion. Roedd y dinasyddion yn ddefnyddwyr gwasanaethau o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Powys, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. 

Yn dilyn y gwaith ymchwil, aethom ati i ddadansoddi’r canlyniadau. Fe wnaethom ddefnyddio dull diagramau affinedd a weithiodd yn dda er mwyn nodi a datgelu’r themâu allweddol o’r gwaith ymchwil. Gellir gweld y themâu hyn a gwybodaeth arall am yr ymchwil yn yr adroddiad hwn.

Ar ôl dadansoddi’r gwaith ymchwil, roeddem yn gytûn nad oedd gennym ddigon o amser i ailadrodd ein hegwyddorion wedi eu prototeipio, felly fe wnaethom benderfynu canolbwyntio ar argymhellion ar gyfer camau nesaf y gweithgor. 

Argymhellion

  • lunio egwyddorion sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion, yn seiliedig ar ganfyddiadau’r ymchwil. 
  • Ymchwilio sut y gellir mesur yr egwyddorion hyn er mwyn asesu perfformiad gwasanaethau yn y dyfodol.
  • Ymchwilio prosesau a strwythurau mewnol sydd angen eu newid neu eu haddasu er mwyn cyflawni’r egwyddorion hyn. 
  • Ymuno â gweithgorau sydd â chysylltiad agos at ei gilydd, er enghraifft Dylunio Gwasanaethau a Phwyntiau Mynediad.
  • Archwilio’r ffordd orau i gyflwyno’r manteision o fabwysiadu’r egwyddorion hyn er mwyn sicrhau bod yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru yn ymrwymo i hyn. 

Cyfranwyr

Diolch yn arbennig i gyfranwyr y gweithgor:

Alexandra Bradley, Elizabeth Sharma, Gary Nicholas, Jeremy James, Kay O’Flaherty, Kelly Watts, Leanne Roberts, Mandy Rogers, Mark Watkins, Nicholas Evans, Nita Sparkes, Owen Davies, Philip O’Brien, Rachel Sollis, Rebecca Jones, Ros Roberts, Suzanne Draper, Teresa Perry, Tony Curliss, Tracy Amos

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *