Hwyl fawr gen i

Hwyl fawr gen i

Ar ddiwedd mis Hydref, byddaf yn gadael Gwasanaeth Digidol Llywodraeth Leol Cymru wedi bron i ddwy flynedd. Byddaf yn dechrau rôl newydd gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru, i gefnogi ein GIG yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau gwell drwy wella’r rôl y mae gwasanaethau digidol yn eu chwarae. Rwyf yn llawn cyffro am yr her newydd hon ac rwy’n gobeithio y bydd fy sgiliau a phrofiad yn ychwanegu at y tîm rhagorol y mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru eisoes yn ei dyfu ar draws Cymru.

Ond wedi dweud hynny, rwyf yn drist iawn i adael y swydd hon. Dyma’r ‘swydd orau yng Nghymru’ o hyd ac rwy’n siŵr y bydd y sawl fydd yn ei gwneud hi nesaf yn ei charu cymaint â minnau. Mae’r pwyslais ar wasanaethau i ddinasyddion a gweithio gyda thimau i wella eu sgiliau yn dal yn hollbwysig. Gan y bydd llawer yn wynebu heriau cynyddol y gaeaf hwn, gallaf weld mwy o alw am wasanaethau digidol. Bydd datrys problemau, cynwysoldeb a darpariaeth gwasanaeth yn bwyslais clir a rhywbeth y mae pob awdurdod eisoes yn ymdrin ag ef yn barod rwy’n siŵr.  Ac wrth i’r tywydd oeri – mae ar fin mynd yn anoddach fyth.

Mae’r ymroddiad rwyf wedi’i weld ar draws timau yng Nghymru yn ysbrydoli rhywun.  Mae fy nhîm fy hun yma yn CLlLC wedi fy ngwneud yn falch iawn bob amser, ac mae pawb ohonoch chi sydd wedi gweithio gyda ni, hyfforddi gyda ni a chwyno gyda ni yn teimlo fel rhan o’r tîm hefyd. Gobeithio y bydd y perthnasoedd hyn yn parhau i fynd o nerth i nerth ac y bydd yr ecosystem ddigidol mewn llywodraeth leol yn datblygu ymhellach. 

Fel y gwyddoch i gyd, mae llawer o waith i’w wneud eto. Mae heriau anferthol mewn recriwtio a chadw staff mewn rolau digidol, data a thechnoleg. Mae hyn wedi llesteirio peth o’n gwaith ac ni ddylid ei diystyru fel problem. Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn dechrau’r ffrwd waith Denu, Recriwtio a Chadw a bydd gan y tîm hwn ran fawr yn y gwaith hwnnw. Y nod yw bod gan bob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru lawer mwy i’w gynnig i staff newydd a’n bod yn gallu denu doniau o’r radd flaenaf y mae arnom wir eu hangen.

Byddaf yn gwylio o’r cyrion wrth i brosiectau’r  Gronfa Trawsnewid  gael eu datblygu. Byddaf yn darllen y blogiau ac efallai’n picio heibio ambell i sioe. Mae’r prosiectau hyn i gyd yn enghreifftiau gwych o broblemau y mae angen i ni eu datrys mewn llywodraeth leol. Cawsant eu nodi’n glir gan y timau cyflwyno. Os ydych yn awyddus i gymryd rhan, gallwch wneud hynny o hyd. Os oes gennych rywbeth i’w gynnig i unrhyw un o’r prosiectau, yna cysylltwch. Mae’r manylion cyswllt yn ein neges blog sy’n cyhoeddi pa brosiectau sydd wedi cael cyllid. Pellaf yn y byd y gallwn gyrraedd, mwyaf yn y byd o fantais fyddwn yn ei gael o’r cyllid ac ymdrech pawb.

Ac mae’r tîm wrthi’n trefnu mwy o hyfforddiant i bawb ar hyn o bryd. Cymerwch fantais ohono.  Mae’r safon yn rhagorol, ond yn fwy na hynny, byddwch yn gweld pobl ar y cyrsiau sy’n gwneud yr un pethau â chi. Ehangwch eich rhwydweithiau anffurfiol a dysgu at bwy y gallwch droi a phwyso arnynt – mae arnom i gyd angen ffrindiau yn y byd digidol.

Ac yn olaf, cadwch mewn cysylltiad – mae fy rhwydwaith digidol yn rhywbeth rwyf yn ei drysori’n fawr iawn.  Mae croeso i chi fy nilyn ar Twitter @samhallwales ble byddaf yn ail-drydar newyddion digidol diddorol, gwneud sylwadau am fywyd yn gyffredinol … a rhannu lluniau o gŵn. Rwyf hefyd ar LinkedIn ar gyfer cysylltiadau neu sylwadau’n ymwneud â gwaith.  Yn fy swydd newydd, rwy’n siŵr y bydd digon o gyfle i gydweithio ar brosiectau  iechyd a gofal cymunedol digidol ac rwy’n edrych ymlaen at hynny.

Diolch i bawb – rwyf wedi cael modd i fyw.

Sam

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *