Fy mis cyntaf fel Dylunydd Profiad Defnyddiwr yn Nhîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru

Fy mis cyntaf fel Dylunydd Profiad Defnyddiwr yn Nhîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru

Mae ychydig dros fis wedi bod ers i mi ddechrau fy rôl fel Dylunydd Profiad Defnyddiwr yn Nhîm Digidol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae’r holl dîm wedi fy nghroesawu gyda breichiau agored ac maent wedi bod o gymorth mawr wrth fy niweddaru gyda’r holl waith gwych maent wedi bod yn cyflawni.

Mae wedi bod yn fis llawn cyrsiau hyfforddi, darllen llyfrau, erthyglau newyddion a chynifer o negeseuon blog Digidol Llywodraeth Leol Cymru ac y gallaf. Rwyf wedi bod yn mwynhau dysgu am ddylunio gwasanaeth digidol mewn llywodraeth leol.

Roedd fy rôl flaenorol yng Nghyngor Torfaen, ac fe helpodd hyn gan fy mod eisoes â phrofiad o lywodraeth leol. Roedd addasu i weithio mewn modd mwy strategol yn broses ddysgu gan fy mod wedi bod yn gweithio mewn rolau mwy ymarferol yn flaenorol – ond mae’n her yr wyf yn ei fwynhau.

Gellir egluro dylunio profiad defnyddiwr fel popeth sy’n effeithio ar y ffordd mae defnyddwyr yn rhyngweithio gyda chynnyrch. Mae’n cyfeirio at y teimlad mae person yn ei gael pan maent yn rhyngweithio gyda chynnyrch mewn mannau digidol a chorfforol. Wrth greu gwasanaethau digidol mae’n bwysig i Ddylunydd Profiad Defnyddiwr (fel fi) edrych ar bob cam o siwrnai’r defnyddiwr a sicrhau bod yr hyn maent yn ceisio ei gyflawni mor hawdd a syml â phosibl. Mae gwasanaethau digidol wedi cael eu defnyddio llawer mwy ac yn hanfodol ers pandemig Covid, ac nid yw’r angen wedi diflannu.

Wrth arbenigo mewn dylunio profiad defnyddiwr yn y sector cyhoeddus, un o’r ystyriaethau mwyaf pwysig yw hygyrchedd. Yn fy marn i, mae’n hollbwysig bod holl ddinasyddion yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn hawdd ac yn gyfartal – heb unrhyw rwystrau. Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu tuag at ddylunio gwasanaeth ar draws Cymru gan weithio gydag egwyddorion sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr.

Ers dechrau, rwyf hefyd wedi cael cyfle i roi cynnig ar brofi defnyddioldeb gydag un o’n Hymchwilwyr Defnyddwyr. Roedd yn brofiad llawn gwybodaeth i weld sut mae dinasyddion yn cael mynediad ac yn defnyddio gwasanaethau ar-lein, gan mai hyn sy’n siapio pob cam o ddylunio gwasanaeth.

Mae wedi bod yn wych dysgu am yr holl waith digidol gwych sy’n digwydd mewn llywodraeth leol (yn ogystal â’r cydweithio ar draws y sector preifat ehangach) a bod cymaint o bobl wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau gwych i ddinasyddion.

Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda’r tîm Digidol Llywodraeth Leol Cymru yn ogystal â sefydliadau eraill y sector cyhoeddus a gallu mewnbynnu fy syniadau fy hun er mwyn siapio sut mae dinasyddion yn rhyngweithio ar-lein gyda’u hawdurdodau lleol drwy brofiad gwych i ddefnyddwyr.

Rwy’n dal i deimlo bod gen i gymaint i’w ddysgu – sy’n wir am unrhyw sefyllfa, gan nad oes unrhyw un yn gwybod popeth! Ond rwyf wedi dod yn bell yn barod, ac rwy’n edrych ymlaen at nifer o brosiectau sydd ar y gweill. Os hoffech sgwrs sydyn am y profiad i ddefnyddwyr, neu fywyd yn gyffredinol, mae croeso i chi gysylltu â mi trwy e-bost: chris.carter@wlga.gov.uk

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *